Uned 4.1: (CBAC) atgenhedlu rhywiol mewn bodau dynol Flashcards

1
Q

Cynnwys system atgenhedlu wrywol

A

par o geilliau mewn coden allanol, y ceillgwd
y pidyn
dwythellau’r cysylltu’r ceilliau a’r pidyn
chwarennau atodol e.e. par o fesiglau semenol a’r chwarren brostad. Mae’r chwarennau hyn yn secretu hylifau sy’n cymysgu a’r sberm i wneud semen

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
2
Q

System Atgenhedlu Wrywol

A

1.2 caill yn cynnwys tua 500 o diwbiau torchog yr un, sef y tiwbynnau semen
2.celloedd sy’n leinio’r tiwbynnau semen yn ffurfio sbermatosoa
3.pan mae sberm yn cyrraedd y lwmen maen nhwn symud drwy’r tiwbyn ac yn casglu yn y vasa efferentia
4.tiwbiau torchog sy’n cludo sberm i ben yr epididymis
5.sberm yn aros yn yr epididymis am gyfnod byr wrth iddyn nhw ddod yn fuddiol, ac yna maen nhw’n mynd i’r vas deferns yn ystod alldafliad

6.mae’r vas deferns yn cludo sberm o’r epididymis tuag at y pidyn
7.ar y ffordd mae’r ffesiglau semenol yn secretu mwcwsd i’r vas deferns
8.mae’r sbermatosoa a’r hylif semenol yn symud drwy’r ddwythell alldaflol sy’n mynd trwy’r chwarren brostad
9.yna mae’r hylif prostad sy’n cynnwys sinc yn cael ei secretu

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
3
Q

Mae secretidau’r chwarennau atodol hyn yn alcaliaidd ac maen nhw

A

-cynnal symudedd sberm
-darparu maetholion ar gyfer sberm, cynnwys ffrwctos, eu prif ffynhonnell egni, asidau aminio ar ionau sinc
-niwtralu asidedd unrhyw droeth sydd ar ol yn yr wrethra
-niwtralu asidedd llwybr y wain

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
4
Q

Y system atgenhedlu fenywol

A

1.dau ofari
2.oocytau’n aeddfedu mewn ffoliglau, sy’n datblygu o gelloedd yn yr epitheliwm cenhedlol o gwmpas ymylon yr ofari
3.ffoliglau aeddfed yn mudo i arwyneb yr ofari ac o’r fan honno caiff oocyt eilaidd ei ryddhau yn ystod ofwliad
4.ofari’n ryddhau oocyt bob yn ail, un pob mis
5.cilia wrth fynedfa twmffat y ddwythell wyau’n ysgybuor oocyt eilaidd i mewn i’r ddwythell wyau, neu diwb fallopio
6.mae’r celloedd epithelaidd ciliedig sy’n leinio’r ddwythell wyau’n clludo’r oocyt eilaidd i’r groth

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
5
Q

Tair haen mur y groth

A

1.haen denau o gwmpas y tu allan yw’r perimetriwm
2.y myometriwm yw’r haen o gyhyr
3.yr endometriwm yw’r haen ddyfnaf, hyn yw’r haen sy’n cynyddu ac yn cael ei cholli bob mis

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
6
Q

Gametogenesis

A

-enw’r proses o gynhyrchu gametau yn yr organau rhyw yn gametogenesis
-sbermatogenesis yw’r broses o ffurfio sberm mewn caill
-oogenesis yw’r broses o ffurfio oocytau eilaidd mewn ofari

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
7
Q

Sbermatogenesis

A

1.celloedd yr epitheliwm cenhedlol yn gelloedd dilpoid. Rhannu drwy gyfrwng mitosis i wneud sbermatogenia diploid a mwy o gelloedd epithelim cenehdlol
2.sbermatogonia’n rhannu lawer gwaith drwy gyfrwng mitosis, gan wneud mwy o sbermatogonia. Rhai o rain yn mynd yn fwy, gan wneud 3.sbermatocytau cynradd diploid
4.sbermatocytau cynradd yn cyflawni meiosis I, gan wneud sbermatocytau eilaidd sy’n haploid
5.sbermatocytau eilaidd yn cyflawni meiosis II, gan wneud sbermatidau haploid
6.mae sbermatidau’n aeddfedu i ffurfio sbermatosoa neu sberm

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
8
Q

Adeiledd Sberm

A

-pen yn cynnwys cnewyllyn haploid, sydd wedi orchuddio ar y pen blaen o’r lysosom, sef yr acrosom. Mae hyn yn cynnwys ensymau sy’n cael eu defnyddio adeg ffrwythloniad
-darn canol yn llawn mitocondria, sy’n darparu ATP i symud. Rhain yn troelli o gwmpas y microdiwbynnau, sy’n ymestyn o’r centriolau i mewn i’r ffilament echelinol yn y gynffon
-fflagelwm (cynffon) yn gwneud symudiadau chwipio sy’n symud sberm, ond dydy’r sberm ddim yn fudol nes eu bod nhw wedi cael eu haddasu yn yr epididymis

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
9
Q

Oogenesis

A

1.cyn genedigaeth, mae celloedd epitheliwm cenhedlol yr ofari yn rhannu drwy mitosis i ffurfio oogania diploid a mwy o gelloedd epitheliwm cenhedlol
2.oogonia’n rhannu sawl gwaith drwy mitosis ac yn cynyddu mewn maint, gan ffurfio oocytau cynradd diploid a mwy o oogonia
3.oocytau cynradd yn dechrau meiosis I
4.celloedd epitheliwm cenhedlol yn ymrannu i ffurfio celloedd ffoligl diploid, amgylchynu’r oocytau cynradd gan ffurfio ffoliglau cynradd
5.glasoed ymlaen, hormonau’n ysgogi’r ffoliglau cynradd i ddatblygu
6.cyn ofwliad, oocyt cynradd yn cwblhau meiosis I, gan ffurfio oocyt eilaidd ac gorffyn pegynnol cyntaf (haploid)
7.ffoligl cynradd yn datblygu’n ffoligl eilaidd a phan mae’n aeddfedu rydyn yn galw’n ffoligl graaf, mae’n mudo i arwyneb yr ofari lle mae’n byrstio ac yn rhyddhau’r oocyt eilaidd mewn proses o’r enw ofwliad
8.oocyt eilaidd yn dechrau meiosis II ond mae’n stopio ym metaffas II oni bai bod ffrwythloniad yn digwydd
9.ol ffrwythloniad, meiosis II yn cwblhau gan wneud ofwm sy’n cynnwys y rhan fwyaf o’r cytoplasm ac ail gorffyn pegynnol
10.ol ofwliad, ffoligl Graaf yn troi’n corpus luteum

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
10
Q

Gallueiddio (ffrwythloniad)

A

-rhaid digwydd cyn i sberm allu ffrwythloni oocyt eilaidd
-proses hyn yn tynnu colestrol a glycoproteinau allan o’r gellbilen dros yr acrosom ym mhen y sberm
-dros oriau, bilen mynd yn fwy hylifol ac yn fwy athraidd i ionau calsiwm
-yn cyfamser, mudiant y gynffon yn troi’n symudiad chwipio sy’n gwneud y sberm yn fwy mudol

-sberm yn cyrraedd yr oocyt eilaidd: cymryd tua 5 munud ar ol iddo gael ei alldaflu, i’r sberm ymateb i atynwyr cemegol yr oocyt a nofio drwy wddf y groth a thrwy’r groth i’r ddwythell wyau
-sberm dal i fod yn hyfyw 2-5 diwrnd on maen nhw’n fwyaf ffrwythlon am 12-24awr ar ol yr alldafliad

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
11
Q

Adwaith Cromosom

A

-ryddhau llawer o ensymau, treulio celloedd yn corona radiata
-ar ol dod i gysylltiad a’r zona pellucida mae’r pilen acrosom yn rhwygo ac yn ryddhau mwy o ensymau gan gynnwys proteas arall acrosin sy’n hydrolysu’r zona pellucida o gwmpas yr oocyt eilaidd

-mynediad pen sberm: cellbilenni’r oocyt eilaidd a’r sberm yn asio ac mae pen y sberm yn suddo i gytoplasm yr oocyt eilaidd

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
12
Q

Adwaith Cortigol

A

-adwaith yn yr oocyt sy’n cynhyrchu’r bilen ffrwythloniad gan atal polysbermedd
-sberm yn cydio yn yr oocyt eilaidd, mae reticwlwm endoplasmig llyfr yr oocyt yn rhyddhau ionau calsiwm i mewn i’r cytoplasm
-gwneud i’r gronynnau cortigol asio a’r gellbilen a rhyddhau’r ensymau sydd ynddyn nhw, drwy gyfrwng ecsocytosis
-zona pellucida yn cael ei addasu’n gemegol ac mae’n ehangu ac yn caledu, gan wneud pilenni ffrwythloniad
-amhosibl i fwy o sberm fynd drwy hon

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
13
Q

Mewnblannu

A

-wrth i’r embryo symud i lawr y ddwythell wyau, mae’n ymrannu lawer gwaith drwy gyfrwng mitosis mewn dilyniant o’r enw ymraniad
-pel solet o 16 o gelloed, y morwla, yn ffurfio o fewn 3 diwrnod
-erbyn 7 diwrnod, pel o gelloedd wedi ffurfio blasocyst, sy’n wag yn y canol
-troffoblastau yw’r celloedd o gwmpas tu allan y blastocyst, ymrannu i wneud mas celloedd mewnol
-mae’r bastocyst yn symud o’r ddwythell wyau i’r groth
-ol ofwliad, endometriwm yn tewychu ac yn cael mwy o gyflenwad gwaed i’w baratoi i dderbyn embryo
-‘ffenestr mewnblannu’ pan mae’r endometriwm yn dderbyngar rhwng 6 a 10 diwrnod ar ol ofwliad
-ol tua 9 diwrnod mae ymwythiadau allan o gelloedd troffoblast y blastocyst sef filysau’r troffoblast yn treiddio drwy’r endometriwm
-mewnblannu yw’r ffordd mae’r blastocyst yn mynd i mewn i’r endometriwm ac mae 80% o flastocystau’n mewnblannu o fewn 8-10 diwrnod

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
14
Q

y brych

A

mesur tua 22cm o hyd x 2cm o drwch ac mae’n pwyso 500g

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
15
Q

Mas o feinweoedd yr embryo ac y fam (brych)

A

-troffoblast yn datblygu i ffurfio’r corion, pilen allanol sy’n amgylchynu’r embryo
-celloedd y corion yn symud i mewn i filysau’r troffoblast ac yn ffurfio filysau corionig, llawer mwy
-capilariau gwaed sydd wedi’u cysylltu a’r rhydweliau a’r wythien wmbilig
-meinweoedd y brych sy’n dod o’r fam yw’r ymwthiadau o’r endometriwm rhwng y filysau corionig

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
16
Q

prif swyddogion y brych yw

A

1.organ endocriniaidd, cynhyrchu horomau i gynnal y beichiogrwydd
2.cyfnewid sylweddau rhwng gwaed y fam ar ffoetws gan cynnwys maetholion cynhyrchion gwastraff nwyon resbiradol
3.bod yn rhywstr corfforol rhwng cylchrediad y fam a’r ffoetws
-amddiffyn capilariau bregus y ffoetws rhag niwed gan bwysedd gwaed uwch y fam
-amddiffyn y ffoetws sy’n datblygu rhag newidiadau i bwysedd gwaed yr fam
4.darparu imiwnedd goddefol i’r ffoetws
5.amddiffysn rhag system imiwnedd y fam

17
Q

Nad yw’r brych pob amser yn amddiffyn y ffoetws yr imiwnoleg

A

-rhai erthyliadau naturiol yn debyg i wrthod organ wedi thrawsblannu
-clefyd Rhesws mewn ffoetws yw gwrthgyrff o fam Rhesws negatif yn dinistrio celloedd gwaed y ffoetws Rhesws positif
-yn yr 2il dymor, mae rhai menywod yn datblygu cyneclampsia, sy’n achosi pwysedd gwaed uchel iawn

18
Q

y llinyn bogail

A

-llinyn bogail yn datblygu o’r brych ac mae’n mesur tua 60 cm o hyd
-trosglwyddo gwaed rhwng y ffoetws a’r fam
-mae gwaed y ffoetws yn dod i’r brych drwy’r llinyn bogail mewn dwy rydweli wmbilig
-does dim llawer o faetholion yn y gwaed ac maen ddadocsiginedig
-gwaed cyfnewid defnyddiau a gwaed y fam yn y filysau corionig ac yn dychwelyd i’r ffoetws mewn un wythien wmbilig
-gwaed dychwelyd yn cynnwys llawer o faetholion ac mae’n oscigenedig

19
Q

Y Cylchred Fisol

A

-mae cylchred hon yn cynnwys cyfnod byr pan mae’r mamolyn yn ffrwythlon ac yn rhywiol weithgar neu’n ‘rhidio’
-os nad oes embryo wedi’i fewnblannu, mae’r endometriwm yn cael ei asdugno ac mae cyfnod ‘anoestrws’ yn dilyn
-mae gan y rhwn fwyaf o brimatiaid gylchred fislifol
-mae newidiadau hormonaidd a ffisiolegol cylchol yn digwydd
-os nad oes embryo wedi’i fewnblannu, mae’r endometriwm yn cael eu golli ar ffurf mislif
-mae’r endometriwm yn dod yn rhydd tua unwaith y mis os nad oes blastocyst wedi mewnblannu
-endometriwm yn cael cyflenwad da o waed ac mae hyn yn edrych fel gwaedu
-cylchred fislifol yn system o adborth positif a negatif sy’n weithredu rhwng y digwyddiadau sy’n ymwneud a’r ymennydd, yr ofariau a’r groth

20
Q

Hormonau pwysig y gylchred fisol yw

A

hormon ysgogi ffoliglau (FSH)
hormon lwtineiddio (LH)
oestrogen
progesteron

21
Q

FSH ac LH

A

-diffinio dechrau cylchred diwrnod 0 fel diwrnod cyntaf mislif
-ar diwrnod 0 mae crynodiadau’r holl hormonau perthnasol yn y plasma yn isel
-mae hypothalamws yn secretu hormon rhyddhau gonadotroffig sy’n ysgogi’r chwarren bitiwdol flaen i secretu

22
Q

FSH

A

ysgogi datblygiad ffoliglau cynradd yn yr ofari. Dim ond un sy’n aeddfedu.
ffurfio haen allanol ffibrog, y theca
secretu hylif i mewn i geudod yr antrwm
diamedr ffoligl Graaf aeddfed tua 10mm

23
Q

LH

A

ysgogi ofwliad - ar diwrnod 14
cyrraedd crynodiad uchaf ychydig cyn ofwliad, o gwmpas diwrnod 12
crynodiad uchel yn achosi i’r ffoligl graaf ar arwyneb i ryddhau’r oocyt eilaidd
effaith adborth positif ar FSH

24
Q

oestrogen a phrogesteron

A

wrth i grynodiad FSH gynyddu ar ddechrau’r gylchred mae’n ysgogi cynhyrchu oestrogen
wrth i oestrogen fynd yn fwy crynonedig yn y plasma, mae’n gwneud y canlynol:
-sbarduno ailadeiladu’r endometriwm a gafodd ei golli yn ystod y mislif
-atal secretu FSH drwy gyfrwng adborth negatif, sy’n dod a’i grynodiad ei hun yn ol i lawr
-ysgogi cynhyrchu LH drwy gyfrwng adborth positif

25
Q

Beichogrwyd

A

diffinio beichogrwydd fel yr amser o ddiwrnod cyntaf y mislif olaf tan yr enedigaeth er nad yw hi’n bosibl i embryo ddatblygu tan ar ol ofwliad
para tua 39 wythnos

26
Q

Yr Amnion

A

mae’r embryo ac yna’r ffoetws yn datblygu ac yn tyfu yn y groth, wedi’u gau yn yr amnion, pilen sy’n deillio o fas celloedd mewnol y blastocyst
i ddechrau, mae’r amnion mewn cysylltiad a’r embryo ond yn wythnosau 4-5
mae hylif amniotig yn cronni ac mae ei gyfaint yn cynyddu am 6-7 mis
hylif yn cael ei wneud gan y fam i ddechrau ond ar ol tua 4 mis mae’r ffeotws yn dechrau cyfrannu troeth ato
dwr yn 98% o’r hylif amniotig ac mae’n hydoddiant o wrea, halwynau, ychydig o brotein a mymryn o siwgr
mae ffoetws yn llyncu tua 500cm3 o hylif amniotig bob dydd
erbyn diwedd y beichogrwydd mae tua 1cm3 ar ol

27
Q

Hylif Amniotig

A

cynnal tymheredd y ffoetws
iro
cyfrannu at ddatblygiad yr ysgyfaint
caniatau symudiad fel bod y cyhyrau a’r esgyrn yn gweithio cyn genedigaeth
gweithio fel sioc laddwr gan amddiffyn y ffoetws rhag anaf o’r tu alland i’r groth

28
Q

Cyfnodau Beichogrwydd

A

rhannu beichogrwydd yn dri thymor
tymor 1af: (wythnosau 5-10) cynnwys cenhedlu, mewnblannu ac embryogenesis, prif organau yn cael ei ffurfio, risg colli plentyn ar ei uchaf
ail tymor: (wythnosau 18-20)embryo llawer llai tebygol o gael ei colli, mesur tua 30mm o hyd ac rydyn ni’n ei alw’n ffoetws
trydydd tymor: (wythnosau 26-39), prif adeileddau i gyd yn gyflawn, braster yn ffurfio, mad yn treblu, hyd yn dyblu

29
Q

Hormonau’r brych

A

hCG - (6 diwrnod ar ol ffrwythloniad), embryo ar ffurf blastocyst yn dechrau secretu gonadotroffin corionig dynol: cynnal y corpus luteum wrth iddo secretu progesteron
oestrogen a phrogesteron - atal secretidau FSH, LH, Prolactin

30
Q

Hormonau a Genedigaeth

A

mae’n well i’r fam roi genedigaeth cyn gynted ag y mae’r ffoetws yn gallu byw yn annibynnol
mae’r ddau rhyddhau hormonau sy’n cynnal eu hanghenion eu hunain ond ar ol 39 wythnos mae hormonau’r fam yn drech
ar ol 39 wythnos mae hormonau’r ffoetws sy’n cael eu trosglwyddo i lif gwaed y fam ar draws y brych yn lleihau crynodiad progesteron plasma’r fam
roedd y crynodiad progesteron uchel yn y fam wedi atal secretu prolactin ac ocsitosin, ond dyd’r rhain ddim yn cael eu hatal mwyach ac felly:
1.chwarren bitiwdol ol yn secretu ocsitosin: achosi cyfangiadau’r myometriwm ym mur y groth, cyfangiadau’n mynd yn gryfach ac yn digwydd yn amlach, myometrwm yn cyfangu o’r top i lawr er mwyn gallu gwthio’r ffoetws allan drwy wddf y groth
2.chwarren bitiwdol flaen yn secretu prolactin: ysgogi’r feinwe chwarennol yn y chwarennau llaeth i syntheseiddio llaeth