4.3 Taflenni Adolygu Cardiau Fflach Flashcards
genyn
uned gorfforol etifeddeg
locws
y safle ar y cromosom mae genyn yn ei feddiannu
Alel
ffurf wahanol ar yr un genyn
Trechol
genyn sydd bob amser yn cael ei fynegi os yw’n bresennol
enciliol
genyn sy’n cael ei fynegi mewn par homosygaidd yn unig
cyd drechol
y ddau alel yn cyfrannu at y ffenoteip
ffenoteip
nodweddion organeb
genoteip
yr alelau a geir mewn organeb
homosygaidd
mae’r alelau yr un fath e.e. HH neu hh
heterosygaidd
mae’r alelau yn wahanol e.e. Hh
F1
y genhedlaeth gyntaf mewn croesiad genynnol
f2
yr ail genhedlaeth
awtosomau
parau 1-22 o’r cromosomau
cromosomau rhyw
par 23 sy’n penderfynu’r rhyw
cyd drechol
mae’r ddau alel yn cael eu mynegi yn y ffenoteip
> e.e. 1: math o gwaed (A,B,AB)
>e.e. 2: lliw gwartheg, rhai gwartheg yn coch ac rhai yn gwyn gall yr epil fod yn ddau
Trechedd Anghyflawn
gellir gweld cymhlith o’r ddau alel yn y ffenoteip
e.e. peniganau coch, gywn a phinc
Etifeddiad Mendelaidd
astudiodd Gregor Mendel etifeddiad mewn planhigion pys. Dewisodd nodweddion rhwydd i’w hadnabos a oedd, yn dra phwysig:
-yn cael eu rheoli gan un genyn
-ar wahanol gromosomau
Croesiad Monocroesryw
etifeddu un genyn
1.nodwch a rhowch lythyren i gynrychioli’r alel trechol a’r alel enciliol
2.rhowch genoteip a ffenoteip y rhieni
3. nodwch y gametau a gynhyrchir gan y ddau riant
4.rhowch y gametau mewn sgwar punnet a dagoswch y 4 croesiad posibl wrth ffrwythloni. Labelwch bob genoteip newudd gyda’r ffenoteip
Mae f2 yn dangos cymhareb mandelaidd o 3:1
Deddf Cyntaf Mendel
Deddf Arwahanu
Mae ffactorau sy’n digwydd mewn parau yn penderfynu ar nodweddion organeb. Dim ond un o par o ffactorau sy’n gallu cael ei gynrychioli mewn un gamet
Etifeddiad deugroesryw
etifeddiad 2 enyn
Rhydd - ddosraniad
Mae rhydd ddosraniad cromosomau yn ystod meiosis yn esbonio pam mae genynnau digyswllt yn gallu cyfuno i ffurfio’r 4 math o gametau
Arbrofodd Mendel a hadau y gwyddai fod ganddyn nhw nodweddion trechol melyn/crwn a nodweddion enciliol cyrchlyd/ gwyrdd
Cymhareb ffenoteipaidd croesiad deugroesryw
9:3:3:1
O gymryd pob nodwedd yn unigol yn y croesiad deugroesryw uchod, mae’r cymhareb ffenoteipaidd monocroesryw yn dal i sefyll
Aill ddeddf arwahanu Mendel
Deddf Rhydd Ddosraniad
Profi Croesiadau
Monocroesryw
-i benderfynu a yw organeb sy’n dangos ffenoteip trechol sy’n dangos ffenoteip trechol yn homosygot ynteu’n heterosygot. Croeswch organeb a brid pur hysbys (homosygot) cc.
Deugroesryw
-croeswch bob genoteip a homosygot ar gyfer y ddwy nodwedd ccmm. Os oedd y rhiant yn heterosygaidd yn achos 1 nodwedd, byddai’r epil yn cael ei gynhyrchu gyda chymhareb o 1:1. Os yw’r rhiant yn heterosygaidd yn achos y naill a’r llall, byddai cymhareb o 1:1:1:1 yn cael ei gweld.
Adnabod Cytylltedd
-mae’r cymhareb Mandelaidd o 9:3:3:1 felly yn ddisgwyliedig mewn unrhyw arbrawf lle nad yw’r genynnau’n gysylltiedig
Gellir canfod cysylltedd, sy’n golygu bod genynnau i’w cael ar yr un cromosom a’u bod felly’n cael eu hetifeddu gyda’i gilydd, os na cheir y gymhareb ddisgwyliedig yn yr epil.
Gellir cael niferoedd bychain o ffenoteipiau ailgyfunol o hyd drwy drawsgroesiad yn ystod meiosis
Chi Sgwar
prawf ystadegol a ddefnyddir i benderfynu a yw niferoedd a ffenoteipiau epil a gynhyrchir mewn croesiad genynnol yn ddigon agos at y gymhareb Mendelaidd ddisgwyliedig fel mai siawns ac nid unrhyw reswm arall sy’n gyfrifol am unrhyw wahaniaeth
Rhagdybiaeth Nwl
Nid oes Gwahaniaeth rhwng y canlyniadau sydd wedi’u harsylwi a chanlyniadau disgwyliedig croesiad genynnol
Os bydd y prawf yn dangos mai siawns sy’n gyfrifol am y gwyriad oddi wrth y cymhareb disgwyliedig, yna derbynnir y rhagdybiaeth os nad siawns sy’n gyfrifol, fe’i gwrthodir
Cyfrifwch y niferoedd disgwyliedig
o’r holl epil a gaiff eu cynhyrchu, cyfrifwch faint y byddech chi’n eu disgwyl e.e. os caiff 3744 o epiliaid eu cynhyrchu:
3744/16 = 234 felly
9:(9x234=2106) 3:(3x234=702) 3:(3x234=702) 1: 234
Cyfrifwch y graddau rhyddid
Nifer y canlyniadau -1
e..e mewn 9:3:3:1 mae 4 canlyniad posibl felly’r graddau rhyddid a fyddain’n cael eu defnyddio fyddai 3
Derbyn neu gwrthod y rhagdybiaeth nwl
Os bydd gwerth x2 sydd wedi’i gyfrifo < gwerth critigol x2 yna derbynnir y rhagdybiaeth nwl
Os bydd gwerth x2 sydd wedi gyfrifo> gwerth critigol x2 yna gwrthodir y rhagdybiaeth nwl
Cysylltedd Rhyw
mae genynnau syddd a chysylltedd rhyw i’w cael ar y cromosom rhyw
Menywod gromosomau: XX
Gwrywod gromosomau: XY
Haemoffilia
clefyd sy’n cael ei achosi gan alel enciliol ar gyfer Ffactor 8 nad yw’n codio ar gyfer y ffactor ceulo gwaed normal
Yn yr achos hwn mae gan y tad y genyn normal a mae’r fam yn cario’r alel enciliol annormal
Mae gan blant gwrywaidd sy’n cael eu geni a’r croesiad hwn siawns o 50% o fod a’r clefyd
Dystroffi Cyhyrol Duchenne
clefyd cyhyrol cynyddol sy’n cael ei achosi gan alel enciliol sy’n gysylltiedig a rhyw nad yw’n codio’n gywir ar gyfer y dystroffin protein
Gallai fod gan fenyw normal y genotepi XN XN neu XN Xn
Rhaid i wryw a DMD fod a XnY
Rhaid wryw normal fod a XNY
Mwtaniad
Newid digymell, ar hap mewn gennyn yw mwtaniad
Mae’r gyfraddau mwtanu yn uwch mewn organebau sydd a chylchredau bywyd byr neu gellraniadau cyson
Mae’n digwydd gan amlaf yn ystod trawsgroesiad proffas 1 ac anwahaniad anaffas I ac anaffas II
Mwtaniadau Manteisiol/ Mwtaniadau Anfanteisiol
*Mwtaniadau Manteisiol
-mae mwtaniadau’n effeithio ar synthesis proteinau ac felly’n newid ffenoteip yr organeb. Mae hyn yn arwain at amrywiad yn y rhywogaeth sy’n achosi esblygiad drwy ddethol naturiol
*Mwtaniadau Anfanteisiol
-gall rhai genynnau o’r enw protoncogenynnau fwtanu i ddod yn oncogenynnau, sy’n ymwneud gan achosi cellraniad afreolus sy’n ffurfio canser
Mwtaniad pwynt gennyn
e.g. anaemia cryman-gell
-un bas wedi mwtanu yng nghod y DNA ar gyfer haemoglobin
-fely ychwanegir yr asid amino anghywir i gadwyn polypeptid
-bydd cell goch y gwaed yn ffurfio siap cryman ac mae’n llai effeithiol am gludo ocsigen
Mwtaniadau Cromosomaidd
e.e. Syndrom Down
Mae methiant cromosom 21 i wahanu o’i bar homolygaidd yn ystod anaffas i mewn meiosis yn ffurfio gametau sydd a 2 gopi ac yn ystod anaffas i mewn meiosis yn ffurfio gametau sydd a 2 gopi ac yn ystod ffrwythloniad bydd gan y sygot wedyn 3 chopi a gromsom 21
Fel arfer byddai cromosom ychwanegol yn angheuol i organeb ond mae cromosom 21 yn fychan, yn ddim ond ychydig gannoedd o enynnau, felly mae’r organeb yn gallu goroesi
Epigenetig
astudiaeth o newidiadau ym mynegiad genynnau heb unrhyw newidiadau i ddilyniant y DNA
Newidiadau epigenynnol sy’n deillio o deiet, cyffuriau, datblygiad, heneiddio
Methylu DNA
bydd basau DNA yn methylu sy’n lleihau trawsgrifiad y gennyn ac felly’n effeithio ar synthesis proteinau
Addasu Histonau
mae addasu histonau’n golygu y gallan nhw dorchi’n dynnach gan rwystro mynegiad genynnau neu gallan nhw dorchi’n llac gan alluogi trawsgrifiad a synthesis proteinau
gall newidiadau epigenynnol achosi canser, clefydau awtoimiwn, anhwylderau meddyliol, diabetes