uned 2.6 y bydysawd Flashcards
sut roedd gwyddonwyr yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn gallu datgelu cyfansoddiad cemegol sêr
roedd yn defnyddio spectrosgopeg serol i bennu cyfansoddiad ser
sbectra pob seren yn cynnwys llinellau du lle mae tonfeddi wedi eu tynnu o’r sbectrwm di-dor gan yr elfennau presenol
drwy gymharu’r sbectrau amsugno roeddent yn gallu dweud pa elfennau sy’n bresennol yn y seren
beth oedd hubble di weld?
sbectra amsugno llawer o alaethau gwahanol- gwelodd eu bod yn arddangos yr un patrwm cymharol â’n haul ni.
roedd yn ymddangos bod y llinellau a amsugnwyd wedi’u rhuddiad goch
hyn yn golygu - rhaid i’r galaethau fod yn symud i ffwrdd o’n galaeth
newid rhuddiad cosmolegol hwn - gan bellter cynyddol rhwng galaethau
darparu tystiolaeth ar gyfer bydysawd sy’n ehangu.
rhuddiad
- po bellaf i ffwrdd yr oedd yr alaeth, y mwy o rhuddiad oedd y golau a allyrrir.
- golau a allyrrir wedi teithio llawer mwy ac am gyfnod hirach wrth i’r bydysawd barhau i ehangu.
- cydberthynas rhwng pellter y galaethau hyn o’r ddaear a graddau’r symudiad coch.
y glec fawr
20fed ganrif - cynigiwyd bod y bydysawd yn dod o un pwynt a ffrwydrodd allan yn y glec fawr.
ffrwydrad wedi rhyddhau ymbelydredd gama
ymbelydredd microdon yn cael ei ganfod rwan
rhuddiad cosmolegol o olau yn awgrymu bod ser a galaethau yn symud mewn rhuddiad, ac yn ehangu i ffwrdd o un pwynt
newid mewn ymbelydredd ar ol y glec fawr
i ddechrau yn y ffrwydrad, byddai ymbelydredd gama tonfedd fer egni uchel wedi cael ei ryddhau.
fodd bynnag, mae ymbelydredd microdon egni is, tonfedd hirach bellach yn cael ei ganfod
rheswm dros y tonnau ymbelydredd
Awgrymwyd, wrth i’r bydysawd ehangu, fod y tonnau gama wedi gorfod teithio ymhellach ac felly wedi rhuddio (ymestyn/cynyddu mewn tonfedd) i mewn i’r microdonnau y gellir eu canfod heddiw.