Uned 2.6 - adweithiau cildroadwy, prosesau diwydiannol a chemegion pwysig Flashcards
Beth mae adwaith cildroadwy yn ei olygu?
Adwaith cildroadwy yw adwaith sy’n gallu mynd i’r naill cyfeiriad neu’r llall.
Adwaith ymlaen yn ecsothermig un ffordd, adwaith yn ol bydd yn endothermig y ffordd arall - cyfanswm o egni yn aros yr un fath
Creu amonia- Proses Haber
Mae angen i hydrogen a nitrogen o’r atmosffer adweithio i ffurfio amonia. Mae’r hydrogen yn aml yn cael ei wneud o methan.
-Maent yn adwaith cildroadwy.
Nitrogen + Hydrogen ⇌ Amonia
N₂(n) + 3H₂(n) -> 2NH₃(n)
Proses Haber - tymheredd
Tymheredd weddol uchel 350-450℃ i wneud yr adwaith yn gyflymach a chynnyrch weddol da
Proses Haber - gwasgedd
gwasgedd weddol isel i wneud yr adwaith yn rhatach 150-200 atmosffer
Proses Haber - catalydd haearn
i gyflymu’r adwaith - mwy o gynnyrch mewn llai o amser
lleihau’r egni actifadu sef y lleiafswm o egni sydd angen i adwaith digwydd
angen cael ei amnewid yn aml oherwydd mae’n wenwyno dros amser
Proses Haber - pa fath o adwaith yw o
ecsothermig
cildroadwy
cynnyrch wedi’i gyfyngu i 15-40% - mae’r nitrogen a’r hydrogen sydd heb adweithio’n cael eu hailgylchu, felly does dim gwastraff
Adnabod nwy amonia
Papur litmws llaith yn troi’n lliw coch i las ym mhresenoldeb nwy amonia
lliw yn newid oherwydd mae’r lefel pH yn newid
Beth yw’r broses gyffwrdd?
Y broses ddiwydiannol o wneud asid sylffwrig
Broses Gyffwrdd - Cam 1
cynhyrchu sylffwr deuocsid
Rydym yn cael sylffwr deuocsid drwy losgi sylffwr mewn aer (ocsidio)
sylffwr + ocsigen -> sylffwr deuocsid
S(s) + O₂(n) -> SO₂(n)
Broses Gyffwrdd - Cam 2 - cynhyrchu sylffwr triocsid
Sylffwr deuocsid yn cael ei ocsidio i ffurfio sylffwr triocsid
adweithio a gormodoedd o aer dros catalydd fanadiwm ocsid (V₂O₅)
ar 420℃ (cyflymu’r adwaith)
ar wasgeddau ddim llawer uwch na atmosffer (rhatach)
cynyrch o dua 95%
Hafaliad adwaith sylffwr triocsid
sylffwr deuocsid + ocsigen ⇌ sylffwr triocsid
2SO₂(n) + O₂(n) ⇌ 2SO₃(n)
Broses Gyffwrdd - Cam 3 - trawsnewid yn asid sylffwrig
Mae sylffwr triocsid yn cael ei amsugno mewn asid sylffwrig (98% H2SO4, 2% dwr). Allwn ni ddim amsugno sylffwr triocsid yn uniongyrchol mewn 100% dwr, oherwydd mae’r adwaith yn fyrnig ac yn cynhyrchu niwl o’r asid. Mae’r SO3 yn adweithio â’r swm bach oddwr.
Hafaliad adwaith asid sylffwrig
sylffwr triocsid + dwr -> asid sylffwrig
SO₃(n) + H₂O(h) -> H₂SO₄(h)
Defnyddiau o asid syffwrig
paent llifynnau plastigion gwrteithiau glanedyddion
Beth yw ystyr dahydradu?
Hyn yw’r broses o dynnu elfennau dwr o sylwedd