Uned 2.3 - metel, echdynnu ac adweithedd Flashcards
Echdynnu haearn 1
Mae defnyddiau crai (mwyn haearn, golosg, calchfaen a aer ocsigen) yn cael eu hychwanegu ym mhen uchaf y ffwrnais
Echdynnu haearn 2
Mae aer poeth (ocsigen) yn cael ei chwythu i mewn yn agos at waelod y ffwrnais
Echdynnu haearn 3
Mae ocsigen yn y chwythiad o aer yn adweithio hefo’r golosg (carbon) i ffurfio carbon monocsid.
Carbon + ocsigen —-> carbon monocsid
2C + O2 —> 2CO
Mae’r adwaith hwn yn ecsothermig iawn, ac mae’r tymheredd y ffwrnais yn cyrraedd 1750℃
Echdynnu haearn 4
Wrth i’r carbon monocsid mynd i fyny’r ffwrnais, mae’n adweithio gyda’r mwyn haearn (haearn (III) ocsid) gan ffurfio haearn.
haearn (III) ocsid + carbon monocsid -> haearn + carbon deuocsid
Fe2O3 + 3CO -> 2Fe + 3CO2
Echdynnu haearn 5
Mae haearn tawdd yn llifo i waelod y ffwrnais. Mae’n cael ei rhyddhau drwy dap.
Beth yw’r catod?
Yr electrod negatif - wedi’u gorchuddio gan electronau
Beth yw’r anod?
Yr electrod positif - diffyg electronau
Electrolysis cyfansoddion ionig tawdd
- Ionau positif Pb²⁺ yn cael ei atynnu at yr electrod negatif, y catod, i ffurfio atomau Pb.
Pb²⁺ + 2e⁻ -> Pb. adwaith rhydwytho gan ei fod yn ennill electronau
-Ionau negatif Br⁻ yn cael ei atynnu at yr electrod positif, yr anod, i ffurfio atomau Br.
2Br⁻ - 2e⁻ -> Br₂. adwaith ocsidio gan ei fod yn colli electronau
Electrolysis alwminiwm ocsid (Al₂O₃)
Mae alwminiwm ocsid yn cael ei gymysgu hefo cryolit sy’n lleihau’r ymdoddbwynt- mae hyn yn lleihau’r nifer o egni sydd ei angen ac yn arbed pres.
Ionau positif Al³⁺ yn ennill 3 electron, proses rhydwytho
Al³⁺ + 3e⁻ -> Al
Ionau negatif O²⁻ yn colli 2 electron i ffurfio atom ocsigen, ond mae angen 2 atom ocsigen
2O²⁻ - 4e⁻ -> O²
Pam angen amnewid yr anod yn aml mewn electrolysis Alwminiwm ocsid?
Mae’r ocsigen sy’n cael ei cynhyrchu at yr anod yn adweithio hefo’r graffit (carbon) sy’n ffurfio nwy carbon deuocsid.
C + O₂ -> CO₂
Pam mae electrolysis yn ddrud?
- Mae angen lot o egni i doddi cyfansoddion fel alwminiwm ocsid
- Mae angen lot o egni i gynhyrchu’r cerrynt trydanol
Priodweddau haearn (Dur)
- caled a chryf
- alloi
- hydrin
- cael ei defnyddio mewn adeiladau, traciau tren, pontydd
Priodweddau copr
- lliw gloywedd deniadol
- darglydydd trydan a gwres
- hydrin a hydwyth
- ddim yn fagnetic
- gwifrennau, sosbannau, pibellau, gemwaith
Priodweddau alwminiwm
- dwysedd isel iawn, ysgafn
- darglydydd trydan a gwres yn dda
- anghrydol - ddim yn cael ei effeithio gan y tywydd neu’r amgylchedd
- cael ei defnyddio ar gyfer awyrennau, rocedi, ffoil, gemwaith a pheilon
Priodweddau titaniwm
- caled a chryf
- dwysedd isel
- ymdoddbwynt a berwbwynt uchel
- anghrydol
- gemwaith, jet a phropeller
Priodweddau cyffredinnol metelau trosiannol
darglydyddion trydanol a gwres hydrin a hydwyth ymdoddbwyntau a berwbwyntau uechl cyfansoddion lliwgar catalyddion da gallu ffurfio ionau a gwefrau gwahanol
Beth yw lliw hydoddiant yr ion Fe²⁺?
Gwyrdd golau
Beth yw lliw hydoddiant yr ion Fe³⁺
Brown
Beth yw lliw hydoddiant yr ion Cu²⁺?
Glas
Beth yw’r lliw gwaddod Fe²⁺ pan mae’n ffurfio gyda NaOH?
Gwyrdd
Beth yw’r lliw gwaddod Fe³⁺ pan mae’n ffurfio gyda NaOH?
Brown
Beth yw’r lliw gwaddod Cu²⁺ pan mae’n ffurfio gyda NaOH?
Glas
Beth yw aloi?
Cymysgedd sy’n cael ei wneud drwy gymysgu metelau tawdd - mae modd newid ei gyfansoddiad i addasu ei briodweddau
Electrolysis Dwr
Mae nwy ocsigen yn ffurfio ar yr anod ac mae nwy hydrogen yn ffurfio ar y catod.
Dau electrod wedi’u gwneud o stripedi metel platinwm.
Hafaliad y broses
hydrogen + ocsigen -> dwr
2H₂(n) + O₂(n) -> 2H₂O (h)
Mae dwywaith cymaint o nwy hydrogen yn cael ei cynhyrchu ag o nwy ocsigen
2H⁻(d) + OH⁻ -> 2H₂O (h)
Ar yr anod - ocsidio
2H₂O (h) + O₂(n) + 4e⁻ -> 4OH⁺(d)
Ar y catod -rhydwytho
4H⁺ (d) + 4e⁻ -> 2H₂ (n)
Electrolysis hydoddiannau dyfrllyd⁺
Bydd ionau H⁺ ac ionau OH⁻ yn bresennol yn y hydoddiant