Uned 2.1 Dosbarthiad A Bioamrywiaeth Flashcards
Term Ffylogenetig
Ymwneud a berthynas esblygol rhwng organebau
- grwpio organebau sy’n perthyn yn agos
- organebau yn yr un grwp yn rhannu cyd-hynafiad mwy diweddar
Coeden Esblygol
Pwyntiau canghennau’n cynrychioli cydhynafiad i’r organebau
- organebau byw wedi’u dangos ar bennau canghennau
- rhywogaethau hynafol i’w gweld yn y boncyff
Lefelau Dosbarthiad
Tacsonau
- grwpiau tacsonomaidd mwyaf yw’r parthau
- grwp tacsonomaidd lleiaf yw’r rhywogaeth
> parth
teyrnas
ffylwm
dosbarth
urdd
teulu
genws
rhywogaeth
- dydy organeb ddim yn gallu perthyn i fwy nag un tacson
Pam mae angen system dosbarthu esblygol
- gallu dod i’r casgliad bod perthnasoedd esblygol yn bodoli
- rhagfynegi rhai o’i nodweddion eraill
- cyfathrebu, cyflymach dweud
- disgrifio iechyd ecosystem neu gyfradd difodiant yn y cofnod daearegol
Parthau
= tacson mwyaf
= 1 o 3 parth
= wreiddiol roedd parthau’n cael eu diffinio’n seiliedig ar ddilyniannau basau rRNA
= mwy modern yn ystyried tebygrwydd y dilyniant basau DNA
3 wahanol Parth
- Eubacteria
Bacteria, procaryotau - Archaea
Bacteria, metabolaeth anarferol, cynhyrchu methan, cynefinoedd ymylol, procaryotau - Eukaryota
Plantae Animalia Fungi a Protoctista, ewcaryotig
Teyrnasoedd
- 5 prif deyrnas
- debygrwydd morffolegol rhwng organebau yn hytrach na dadansoddiadau DNA
5 teyrnas
- Prokaryota
Bacteria, cynobacteria, organebau microsgopig, ungellog heb organynnau pilennog, cellfur wneud o beptidoglycan neu fwrein - Protoctista
Organebau ewcaryotig, ungellog, dim gwahaniaethiad meinweoedd - Fungi
Ewcaryotau heterotroffig, cellfur citin, defnyddio sborau i atgynhyrchu - Planta
Ewcaryotau amlgellog, ffotosynthetig, cellfuriau cellwlos - Animalia
Ewcaryotig amlgellog, heterotroffig, dim cellfur, cydlyniad nerfol
Perthynas rhwng organebau
- nodweddion homologaidd
- tebyg mewn ffordd sy’n awgrymu cyd-hynafiad
- e.e. Esblygiad dargyfeiriol
- ffurfiad cyd hynafiad wedi esblygu i gyflawni swyddogaethau gwahanol e.e nofio, hedfan
Ystyr ffurfiadau homologaidd
Cydrannau wedi’u trefnu mewn ffordd tebyg ac mae eu tarddiad datblygiadol yn debyg, gwneud gwaith gwahanol
Ystyr ffurfiadau cydweddol
Gwneud yr un gwaith ond tardduadau datblygiadol gwahanol
Dulliau Tystiolaeth enynnol o berthynas
- Dilyniant basau DNA
- Croesrywedd DNA
- Dilyniant asidau amino
- Imiwnoleg
Dilyniant basau DNA
(tystiolaeth enynnol o berthynas)
- ystod esblygiad mae dilyniannau basau DNA yn newid: cronni nes bod yr organebau mor wahanol: ystyried bod nhw rhywogaeth wahanol
- dadansoddiadau DNA wedi cadarnhau perthnasoedd esblygol ac wedi cywiro camgymeriadau wrth dosbarthu ar sail nodweddion corfforol
Croesrywedd DNA
(tystiolaeth enynnol o berthynas)
- golygu cymharu dilyniant basau DNA
- canfod pa mor agos yw’r berthynas rhwng dwy rywogaeth primatiaid
- DNA o’r ddwy rywogaeth yn cael ei echdynnu: cael eu cymysgu ac maent yn croesi ble mae eu dilynniannau basau’n gyflenwol
Dilyniant Asidau Amino
(tystiolaeth enynnol o berthynas)
- dilyniant asidau amino mewn protein dibynnu ar y dilyniant basau DNA
- pa mor debyg yw dilyniant asiday amino yr un protein mewn dwy rywogaeth yn adlewyrchu pa mor agos yw’r perthynas rhyngddynt
Imiwnoleg
(tystiolaeth enynnol o berthynas)
- cymharu proteinau gwahanol rywogaethau
- cymysgu antigenau un rhywogaeth fel y protein gwaed albwmin a gwrthgyrff penodol o rywogaeth arall
- antigenau a’r gwryhgyrff yn ffurfio gwaddod
Sut i ganfod pa mor agos yw perthynas drwy gymharu dilyniannau asidau amino
- Cymharu dilyniannau asidau amino yn eu tro
- Cyfrwch sawl asid amino sydd gan bob par yn gyffredib
Dau diffiniad o’r term rhywogaeth
- Diffiniad morffolegol
Edrych yn debyg - Diffiniad atgenhedlol
Rhyngfrido i gynhyrchu epil ffrwythlon
Croesrywiau anffrwythlon
Organebau sy’n perthyn yn agos yn gallu rhyngfridio ond fydd yr epil maen nhw’n ei gynhyrchu ddim yn ffrwythlon e.e. Mul
Tacsonomeg
= adnabod ac enwi organebau
Caniatau
- darganfod a disgrifio amrywiaeth fiolegol
- ymchwilio i’r berthynas esblygol rhwng organebau
- d osbarthu organebau i adlewyrchu eu perthynas esblygiadol
Y system finomaidd
- cyflwyno gan Carl Linnaeus yn 1753
- lawer o organebau byw a enwau cyffredin sy’n wahanol o wlad i wlad: gallu achosi dryswch
- lladin fel iaith ryngwladol
- enw sef ei genws ac enw ei rhywogaeth: unigryw ac yn benodol
- derbyn a deall ledled y byd
Rheolau y system finomaidd
> enw’r genws : gair cyntaf, priflythyren
enw’r rhywogaeth : ail air, llythyren fach
tro cyntaf ysgrifennu enw llawn: ail tro ysgrifennu gall dalfyrru e.e. P. tigris
ysgrifennu mewn teip italig neu tanlinellu wrth ysgrifennu
Beth yw term bioamrywiaeth yn cyfeirio at
- Nifer o rhywogaethau
- Nifer yr organebau
Cynefinoedd hefo lawer o fioamrywiaeth
- coedwigoedd glaw trofannol a riffiau cwrel yw’r cynefinoedd mwyaf bioamrywiol
- nifer o rywgoaethau yn lleihau wrth symud at cyhydedd y polau
Prosesau Bioamrywiaeth
- Olyniaeth
- Dethol naturiol
- Dylanwad bodau dynol
Olyniaeth
(prosesau bioamrywiaeth)
- cymuned o organebau’n newid ei chynefin: fwy addas i rywogaethau eraill
- olyniaeth yw’r newid yng nghyfansoddiad cymuned dros amser
- cynyddu bioamrywiaeth anifeiliaid: lleihau bioamrywiaeth planhigion
Dethol Naturiol
(prosesau bioamrywiaeth)
- cynhyrchu bioamrywiaeth a newid bioamrywiaeth
Dylanwad Bodau Dynol
(prosesau bioamrywiaeth)
- gweithgareddau dynol wedi gwneud yr amgylchedd yn llai addas i organebau byw
- lleihau bioamrywiaeth ac wedi arwain at ddifodiant mewn llawer o achosion
Difodiant
= colli rhywogaethau
- cofnod ffosiliau yn dangos bod rhan fwyaf o rywogaethau mawr wedi cael ei colli
- newid hinsawdd, newid cynefin, cystadleuaeth, ysglafaethwyr newydd a chlefydau newydd: achosi difodiant
- mae’n proses naturiol: 1 difodiant i bob 1 miliwn: gweithgareddau dynol yn cynyddu hyn
- bodau dynoll yn dinistrio cynefinoedd yw’r un bygythiad mwyaf i fioamrwyiaeth ar y blaned
Ystyr Cadwraeth
diffino cadwraeth fel cynllunio’n benodol i warchod rhywogaeth neu gynefin
Dulliau Cadwraeth
- cyfyngu ar fasnachu mewn rhywogaethau mewn perygl
- parciau cenedlaethol a safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig
- asiantaethau’r llywodraeth a mudiadau eraill: addysgu
- rhaglenni bridio mewn caethiwed: brido, cadw i ffwrdd o bodau dynol, ailgyflwyno i’r gwyllt
- banciau hadau
- deddfwriaeth y llywodraeth: gwarchod cynefinoedd rhywogaethau mewn perygl
defnyddio loci amryffyrf i asesu bioamrywiaeth
- archwilio genynnau ac alelau; asesu ar lefel enynnol
- canolbwyntiad ar nifer o alelau
nifer yr alelau
- safle genyn ar gromosom yw ei locws
- locws dangos amryffurfedd os oes ganddo ddau neu fwy o alelau
alelau planhigion
- genyn T; rheoli taldra ,ddau alel gwahanol
- genyn S; rheoli ydy gronynnau paill yn gallu egnio ar stigma aeddfed blodyn, 31 alelau wahanol
- bioamrywiaeth genyn S yn fwy na bioamrwyiaeth genyn T oherwydd mwy o ffenoteipiau’n bosibl
defnyddio proffiliau DNA i asesu bioamrywiaeth ar lefel foleciwlaidd
- un bas wahanol; SNP neu snip; amryffyrfedd yn niwwcliotid
-rhai darnau o DNA yn amrywio fel rheol tua 20-40 o ddilyniannau basau o hyd, ailadrodd; HVR, darnau hypernewidiol neu STR, ailadroddiadau tandem byr
torri DNA
- defnyddio endoniwcleasau cyfyngu; ensymau
- gwahanu darnau trwy electrofforesis
esblygiad
- bioamrwyiaeth wedi mynd trwy sawl mas-difodiant
- ymeldiadau rhwyogaethau newydd yn digwydd ar ol mas-difodiant
- esblygiad yw’r proses lle mae rhywogaethau newydd yn ffurfio o rai sy’n bodoli eisioes dros gyfnodau hir iawn
- charles darwin; ynysoedd y galapagos
- 1859, cynigodd bod dethol naturiol yw’r grym sy’n achosi newid
Damcaniaeth dethol naturiol
- Mwtaniad; newid NDA ffurfio genyn newydd
- amrywiad; edrychiad corfforol neu ymddygiad gwahanol
- mantais cystadleuol
- goroesiad y cymhwysaf
- atgenhedlu
- trosglwyddo genynnau ffafriol i epil
palaeontoleg
- astudio planhigion ac anifeiliaid yn gorffennol daearegol drwy dadansoddi ffoiliau
- defnyddio dull radiocarbon i ddyddio ffosliau
Dolenni coll
- disgwyl i ffurfiau rhyngol fodoli mewn haenau olynol o greigiau rhwng un rhywogaeth ffosil a’r nesaf
creadigaeth
- prinder ffurfiau rhyngol yn dystiolaeth o greadigaeth arbennig a dyluniad deallus yn hytrach nag esblygiad rhywogaethau
eldrige a gould
- awgrymu bod rhywogaethau newydd yn ymddangos yn gyflym, o fewn miloedd o flynyddoedd, ac yna’n aros yr un fath am flynyddoedd cyn newid eto
ymaddasiad
- nodweddion anatomegol
- nodweddion ffisiolegol
- nodweddion ymddygiadol
nodweddion anatomegol
- siarcod, dolffiniaid a phengwiniaid gyrff llyfn, heb hyn llai effeithlon wrth ddal bwyd neu ddianc
- blodyn dangos canol ble mae paill yn glir er mwyn denu mwy o beillwyr
nodweddion ffisiolegol
- mamolion ac adar yn endothermig; rhaid osgoi gwastraffu egni drwy ceisio cynnal tymheredd corff mewn tywydd oer; aeafgysgu
- dail cwympo wrth i dymheredd ac arddwysedd golau ostwng; ddim colli dwr drwy trydarthaid
nodweddion ymddygiadol
- blodeuo yn y gwanwyn pan mae’r pryfed sy’n peillio wedi ymddangos
- dangos cynffon lliwgar er mwyn atgenhedlu