2.4 - Ymaddasiadau ar gyfer maethiad Flashcards
Maethiad
organebau defnyddio i gael egni i gynnal swyddogaethau bywyd
dau math o faethiad
Awtotroffig
Heterotroffig
Awtotroffig
= hunan fwydo
- syntheseiddio eu cyfansoddion organig cymhleth eu hunain
- planhigion yn awtotroffig
dau fath o facteria awtotroffig
- ffotoawtotroffig
- cemoawtotroffig
Bacteria Ffotoawtotroffig
- defnyddio pigment bacteriocloroffyl: dwy ffordd, gwyrdd a porffor
- ffynhonnell egni: golau
- hydrogen sydd ei angen i rydwytho carbon deuocsid ddim yn dod o dwr ond o hydrogen sylffid
Bacteria Cemoawtotroffig
- ddim angen golau
- ffynhonnell egni yn dod o ddulliau resbiradaeth arbennig
Heterotroffau
- methu syntheseiddio eu bwyd organing eu hunain
- cynnwys anifeiliaid, ffyngau, rhai mathau o brotocistiau a bacteria
Mathau o faethiad Heterotroffig
- ymorthwyr holosoig
- saproffytau neu saprobiontau
- parasitiaid
- cydymddibyniaeth neu symbiosis
Ymborthwyr Holosoig
- bron pob anifail
- system treulio arbenigol
- hamsugno i feinwoedd y corff
- bwyta planhigion: llysysyddion
- bwyta anifeiliaid: cygysyddion
- bwyta planhigion ac anifeiliaid: hollysyddion
- bwyta defnyddiau sy’n pydru neu wedi marw: detritysyddion
Saproffytau neu Saprobiontau
- cynnwys ffyngau i gyd a rhai bacteria
- bwyta defnydd sy’n pydru neu sydd wedi marw
- ddim system dreulio arbenigol
- bwyta trwy secretu ensymau fel proteasau, amylasau, lipasau a chellwlasau
- amsugno’r cynhyrchion hydawdd ar draws y gellbilen drwy gyfrwng trylediad: treuliad amlgellog
- gweithgareddau’jn hanfodol i ddadelfennu
Parasitiaid
- byw mewn neu ar organeb fyw arall
- achosi niwed i’r organeb letyol
- bwydo ar yr organeb letyol
– organebau arbenigol - llyngyren borc, malltod tatws
Cydymddibynaeth neu Symbiosis
- cysylltiad agos rhwng aelodau o ddwy wahanol rywogaethau
- dydy llysyddion ddim yn secretu cellwlas: ganddynt bacteria cydymddibynaeth sy’n byw mewn y rwmen: cynhyrchu cellwlas
Y Coludd
- moleciwlau mawr anhydawdd organig drwy eu treulio ac yna eu hamsugno i feinweoedd y corff o’r system dreulio
- treuliad ac amsugnad yn digwydd
- tiwb hir, gwag, cyhyrog
- mewn organebau syml; coludd yn ddiwahaniaeth
- organebau mwy datblygedig; coludd wedi’i rannu’n wahanol rannau ar ei hyd
- pob rhan wedi arbenigo ar gyfer camau penodol
- treuliad mecanyddol a chemegol
maethiad mewn organebau ungellog
- ameba
- ddim coludd
- amlyncu gronynnau bwyd
- defnyddio ffugdraed; gwagolyn bwyd yn ffurfio wrth i’r ffugdraed asio a’i gilydd
- lysosomau’n asio a’r gwagolyn bwyd
- ryddhau ensymau treulio
- treuliad digwydd yn fewngellol
maethiad mewn organebau amlgellog - Hydra
- coludd tebyg i goden sy’n syml ac yn ddiwahaniaeth
- ceg yw’r unig agoriad
- haen fewnol o gelloedd yw’r gastrodermis
- mae’r gastrodermis yn secretu ensymau treulio i mewn i lwmen y coludd
- bwyd wedi’i dreulio’n cael ei amsugno gan wal y coludd
- bwyd cael ei garthu drwy’r geg
coludd syml fel tiwb - y pryf genwair
- pryfed genwair goludd tebyg i diwb
- ceg ar gyfer amlyncu ac anws ar gyfer carthu
- coludd wahanol rannau; oesoffagws, crombill, glasog a choluddyn
y coludd dynol
- arbenigol
- rannau ar wahan, ac mae gan bob un swyddogaeth penodol
- prif rannau; ceg, oesoffagws, stumog, coluddyn bach, coluddyn mawr, anws
Termau a diffiniadau allweddol treuliad
- gwthio ymlaen drwy’r coludd gan proses peristalsis
- Treuliad Mecanyddol; torri neu falu, cyfangiadau rhythmig, haenau o gyhyr sy’n cyfangu a llaesu
- Treuliad Cemegol; torri moleciwlau mawr, anhydawdd yn foleciwlau bach, hydawdd gan ddefnyddio ensymau
- Amsugniad; treulio drwy wal y coludd i’r gwaed
- Carthiad; gwaredu bwyd heb ei dreulio o’r corff
Adeiledd Coludd Mamolyn
> Serosa; amddifyn wal y coludd ac lleihau ffrithiant
Cyhyr Hydredol (llaesu) a Chyhyr Crwn (cyfangu); achosi tonnau o gyfangiadau cyhyrol, peristalsis
Isfwcosa; cydlynu’r cyfangiadau cyhyrol sy’n ymwneud a phroses peristalsis
Mwcosa; secretu mwcws sy’n iro’r mwcosa, amddiffyn, secretu suddion treulio
Epitheliwm; cysylltiad uniongyrchol a’r bwyd yn y lwmen, secretu sylweddau i mewn i’r lwmen
Chwarennau
- cynnyrchu llawer o secretiadau
- cynnwys ensymau treulio
Math o Chwarren
- Chwarennau mawr y tu allan i’r coludd
- chwarennau ar ffurf celloedd yn yr isfwcosa
- chwarennau ar ffurf celloedd yn y mwcosa
Chwarennau mawr y tu allan i’r coludd
- chwarennau poer; secretu poer i’r ceg
- iau secretu bustl i’r dwodenwm
- pancreas secretu sudd pancreatig i’r dwodenwm
Chwarennau ar ffurf celloedd yn yr isfwcosa
- secretu mwcws i’r dwodenwm
Chwarennau ar ffurf celloedd yn y mwcosa
- chwarennau gastrig yn y stumog; sudd gastrig
- chwarennau yng ngwaelod y fili yn y coluddyn bach; secretu ensymau i’r coluddyn bach
Treuliad Carbohydradau
- dadelfennu yn gyntaf yn ddeusacaridau wedyn monosacaridau
- ensym amylas hydrolysu startsh i ffurfio deusacarid maltos
- ensym maltas; dadelfennu maltos; ffurfio monosacarid glwcos
Treuliad Proteinau
- dadelfennu i ffurfio polypeptidau yna deupeptidau ac yn olaf asidau amino
- ensym yw peptidas
- endopeptidasau hydrolysu bondiau peptid yn protein i ffurfio polypeptidau byrrach
- ecsopeptidasau hydrolysu bondiau peptid ar ddau ben polypeptidau byrrach; ryddhau asidau amino
Treuliad Braster
- dadelfennu gan ensym lipas
- hydrolysu brasterau i ffurfio glyserol ac asidau brasterog
arbenigedd gwahanol rannau o goludd mamolyn
- cynnal amodau optimaidd ar gyfer actifedd ensymau treulio
y ceg
- treuliad mecanyddol
- torri bwyd yn ddarnau bach; poer wneud yn llaith
- prif chwarennau poer cael hysgogi wrth i unigolyn weld, arogli, blasu neu hyd yn oed feddwl am bwyd
- pelen bwyd ffurfio; bolws
- llyncu gorfodi bolws lawr oesoffagws
- epiglotis; falf sy’n atal bwyd rhag mynd i’r tracea
- bolws cael ei wthio i lawr yr oesoffagws; peristalsis
y stumog
- ffurfiad llydan tebyg i sach
- sffincter rheoli mynediad bwyd i’r stumog
- mwcosa a’r epitheliwm yn secretu suddion gastrig i lwmen y coludd
- secretidau gastrig yn cael eu cynhyrchu mewn pantiau o’r enw chwarennau gwastrig
- sudd gastrig yn cynnwys asid hydroclorig sy’n golydu bod pH cynnwys y stumog yn 2.0
- 2.0 yw’r pH optimwm i ensymau stumog: llad rhan fwyaf o facteria yn y bywd
- mae sudd gastrig hefyd yn cynnwys ensymau peptidas sy’n hydrolysu protein i ffurfio polypeptidau
- bwyd yn aros yn y stumog hyd at 4 awr
- cyhyrau wal y stumog yn cyfangu’n rhythmig ac yn cymysgu’r bwyd a’r sudd gastrig
- mae mwcws yn leinio wal y stumog gan ffurfio rhwystr amddiffynol rhag yr asid a’r ensymau
- mwcws yn iro ac cynorthwyo i symud bwyd yn y stumog
cellau arbenigol yn y chwarren gastrig
- celloedd gobled; cynhyrchu mwcws
- celloedd ocsyntig; cynhyrchu asid hydroclorig
- prif celloedd neu celloedd septig; cynhyrchu pepsinogen
y coluddyn bach
- rhannu’n ddwy ran; dwodenwm a’r ilewm
- sffincter llaesu i adael symiau bach i fynd i’r dwodenwm
- dwodenwm yn 20cm cyntaf y coluddyn bach; secretidau o’r iau ac o’r pancreas
Secretiad
- bustl
- sudd pancreatig
Bustl
- cynhyrchu yn yr iau
- storio yng nghoden y bustl
- bustl mynd i’r dwodenwm drwy ddwythelly bustl
-ddim yn cynnwys ensymau - emwlsio drwy leihau tyniant arwyneb y lipidau; wneud lobylau dorri’n ddefnyddiau bach iawn
- helpu niwtralu asidedd y bwyd wrth iddo ddod o’r stumog
Sudd Pancreatig
- secretu o’r chwarennau ecsocrin yn y pancreas
- mynd i’r dwodenwm drwy’r ddwythell bancreatig
= nifer gwahanol o ensymau
> endopeptidas; hydrolysu proteinau i ffurfio peptidau
> amylas; dadelfennu startsh sydd ar ol i ffurfio maltos
> lipas; hydrolysu lipidau i ffurfio asidau brasterog a glyserol
y dwodenwm
- waliau cynnwys chwarennau sy’n secretu sudd alcaliaidd a mwcws (chwarennau brunner)
- sudd alcaliaidd; cadw cynnwys y coluddyn bach ar y pH cywir i acitfedd ensymau
- mwcws gwneud gwaith iro ac amddiffyn
- ensymau secretu gan celloedd ar flaenau’r fili
yr ilewm
= addasu ar gyfer amsugniad
- hir iawn ac leinin wedi plygu; arwynebedd arwyneb mawr
- ymestiniadau tebyg i fysedd ar y plygion sef y fili
- microfili; cynyddu arwynebedd arwyneb cellbilen y celloedd epithelaidd ar gyfer amsugniad
- ar waelod fili mae cryptau Lieberkuhn; cynhyrchu ensymau treulio
Adeiledd filws
- glwcos ac asidau amino yn cael eu hamsugno ar draws epitheliwm y fili; cludiant actif
- mynd i’r rhwydwaith capilariau sy’n cyflenwi pob filws
- gwaed o’r gwythienigau cynnwys bwyd wedi hydoddi; yn pendraw cyrraedd y wythien bortal hepatig ac yn cael ei gludo i’r iau
Cynhyrchion treulio
- asidau brasterog a glyserol; trylediad
- fitaminau; trylediad
- glwcos ac asidau aminol; angen ar ffurff ATP i amsugno rhain trwy fewnlifiad actif , tryledu allan o’r celloedd epithelaidd i’r capilariau gwaed
- deupeptidau; angen egni ar ffurf ATP
y coluddyn mawr
- 1.5 metr o hyd a’i rannau yw’r caecwm, y pendics, y colon a’r rectwm
- dwr a halwynau mwynol yn cael eu hamsugno a fitaminau
- y bacteria hyn sy’n gyfrifol am wneud fitamin K ac asid ffolig
- ymgarthiad
Addasiadau i wahanol ddeietau; ymlusgiaid
- llyncu bwyd yn cyfan
Addasiadau i wahanol ddeietau; mamolion
- gallu cadw bwyd yn y geg i’w dorri a chnoi
- daflod sy’n gwahanu llwybr aer a’r ceg
Addasiadau i wahanol ddeietau; cigysydd ac llysysydd
- coludd cigysydd yn fyr; hawdd treulio protein
- coludd llysydd hir; anodd treulio defnydd planhigol
- genddyn nhw ddannedd sydd wedi arbenigo i weddu i’w deietau
dannedd
- treuliad mecanyddol
- haws lyncu ac cynyddu arwynebedd arwyneb i ensymau weithio arno
- bodau dynol yn hollysyddion
- dydy dannedd bodau dynol ddim wedi arbenigo i raddau helaeth iawn
- 32 o dannedd
Mathau o Ddannedd
- blaenddannedd; siap cyn i frathu a thorri
- dannedd llygad; miniog i rwygo
- gogilddannedd a childdannedd; fflat i gnoi a malu
Deintiad Llysysyddion
- dafod gweithio yn y blwch gan symud gwair newydd ei dorri i’r arwynebau malu mawr
- en yn symud mewn cylch ar blan llorweddol i falu’r bwyd
- dannedd y foch yn cydgloi fel llythyren W ac M
- ddatuguddio gwrymiau enamel ac ymylon miniog
- parhau i dyfu drwy gydol oes yr anifail
Deintiad Cigysyddion
- blaenddannedd miniog yn dal cnawd ac yn ei rwygo
- dannedd llygad yn fawr ac yn grwm ac yn finiog i ddal ysglyfaeth i ladd a hefyd rwygo cnawd
- cilddannedd a’r gogilddannedd ar gyfer torri a malu bwyd
- ysgithrau sy’n llithro heibio i’w gilydd fel llafnau siswrn
- cyhyrau en yn ddatblygedig ac yn bwerus er mwyn i’r cygysydd allu dal ei ysglyfaeth yn dynn ac i helpu i falu esgyrn
Addasiadau’r coludd i wahanol ddeietau
- mamolion ddim gallu treulio’n cellwlos; ddim cynhyrchu ensym cellwlas
- bacteria dadelfennu cellwlos; bodoli mewn y caecwm
- proses hydrolysu cellwlos gan gellwlas sydd wedi’i gynhyrchu gan facteria, yw eplesiad bacteriol
- hollysyddion, bodau dynol, coludd hyd canolig
Anifeiliaid cnoi cil
- bwyta gwair
- stumog arbenigol neu rwmen lle mae bacteria cydymddibyniaeth yn byw
- rhaid cadw ar wahan i brif system dreulio oherwydd cadw am ddigon o amser er mwyn i’r bacteria dreulio’n cellwlos, cadw pH optimwm
llyngyren borc
- byw yn y coludd
- endoparasit
- gallu cael 10 metr
- cyfres llinol o adrannau tennau sef y proglotisau
- bodau dynol neu moch
ymaddasiadau llyngyren borc
- sugnolynau; lynu at wal
- gorchudd corff; system imiwnedd
- cwtigl trwchus; atal ensymau’r organeb letyol
- atgenhedlu gwrywol a benywol; llawer o wyau
- wyau blisg allanol; goroesi