Pennod 5 - Asidau Carbocsilig a'u Deilliadau Flashcards
Ysgrifennwch yr adwaith rhwng asid ethanoig a dwr
CH3COOH + H2O ⇔ CH3COO- + H3O+
Rhowch drefn gymharol asidedd asidau carbocsilig, dwr/alcoholau, ffenolau
Asidau carbocsilig > ffenolau > dwr/alcoholau
Sut fyddech chi’n darganfod dau sylwedd anhysbys lle mae un yn asid carbocsilig a’r llall yn ffenol?
Ychwanegwch hydoddiant sodiwm hydrogencarbonad i’r ddau sylwedd. Dim ond asidau carbocsilig sy’n asidau digon cryf i gynhyrchu swigod di-liw o nwy carbon deuocsid a ni fydd adwaith gyda’r ffenol.
Wrth ocsidio alcohol cynradd i aldehyd ac i asid carbocsilig, pa newid lliw yr ydych yn nodi? Enwch yr ocsidyddion posib sy’n newid lliw
1) Potasiwm deucromad asidiedig sy’n newid lliw o ionau Cr2O72- oren i ionau Cr3+ gwyrdd
2) Potasiwm manganad(VII) alcaliaidd, o fod yn borffor sy’n cynnwys ionau MnO4- i fod yn llaid brown-ddu o fanganis(IV) ocsid
Disgrifiwch rydwythiad asid ethanoig gan nodi’r rhydwythydd priodol, unrhyw arsylwadau a chynhyrchion yr adwaith
Mae asidau carbocsilig yn gymharol sefydlog sydd angen lithiwm tetrahydridoalwminad(III), LiAlH4 i’w rydwytho yn alcohol cynradd. Ni fydd sodiwm tetrahydridoborad(III) yn rhydwythydd digon cryf. Mae’r adwaith yn ffyrnig gyda dwr, felly hydoddydd ethocsiethan sy’n cael ei ddefnyddio i gynnal y rhydwythiad.
CH3COOH + 4[H] → CH3CH2OH + H2O
Diffiniwch ddatgarbocsileiddiad
Dileu moleciwl o garbon deuocsid
Beth yw calch soda a’i ddefnydd?
Cymysgedd o galsiwm hydrocsid gydag ychydig o sodiwm/potasiwm hydrocsid yw calch soda sy’n amsugno carbon deuocsid a dwr ond yn aros ar ffurf solid
Rhowch fformiwla empirig ester deuethyl asid ethandeuoig
C3H5O2
Disgrifiwch sut allech chi wneud esterau o asidau carbocsilig. Darparwch enghraifft gan ddefnyddio asid ethanoig a phropan-1-ol
Mae’n bosib trawsnewid asidau carbocsilig i esterau gydag adwaith gydag alcohol ym mhresenoldeb ychydig o asid sylffwrig, sy’n protoneiddio’r asid carbocsilig i ddechrau;
CH3COOH + CH3CH2CH2OH ⇔ CH3COOCH2CH2CH3 + H2O
Mae’r grwp -OH o’r asid sy’n cael ei golli ac nid y grwp -OH o’r alcohol
Disgrifiwch hydrolysis ester o dan amodau basig
Mae’r ester yn cael ei wresogi i adlifo gyda sodiwm hydrocsid dyfrllyd ac wedy’n mae’r cymysgedd yn cael ei ocsidio i gynhyrchu’r asid carbocsilig;
C6H5 - COOCH3 + NaOH → C6H5COO-Na+ + CH3OH
Diffiniwch seboneiddiad
Y gair am wneud sebon o esteray glyseryl. Gall yr esterau hyn fod yn brasterau neu’n olewau
Gan ddefnyddio asid ethanoig, ysgrifennwch dri hafaliad gwahanol gan ddefnyddio tri adweithydd gwahanol a fydd yn trawsnewid yr asid carbocsilig i glorid asid gan nodi’r cynnyrch unigryw pob adwaith
1) 3CH3COOH + PCl3 (ffosfforws triclorid) → 3CH3COCl + H3PO3
2) CH3COOH + PCl5 (ffosfforws pentaclorid) → CH3COCl + POCl3 + HCl
3) CH3COOH + SOCl2 (sylffwr deuclorid ocsid) → CH3COCl + SO2 + HCl
H3PO3 - Asid ffosfforws
HCl - Asid hydroclorig
POCl3 - Ffosfforws triclorid ocsid
SO2 - Sylffwr deuocsid
Eglurwch pam mae clorid asid yn agored iawn i ymosodiad niwcleoffilig
Mewn clorid asid, mae’r atom carbonyl yn electron ddiffygiol gan ei fod yn bondio i’r atomau clorin ac ocsigen sy’n fwy electronegatif, gan ei wneud yn agored i ymosodiad niwcleoffilig
Ysgrifennwch hafaliad ar gyfer yr adwaith rhwng ethanoyl clord a;
1) Dwr
2) Methanol
3) Amonia
4) Ethylamin
1) CH3COCl + H2O → CH3COOH + HCl
2) CH3COCl + CH3OH → CH3COOCH3 + HCl
3) CH3COCl + NH3 → CH3CONH2 (ethanamid) + HCl
4) CH3COCl + CH3CH2NH2 → CH3CONH - CH2CH3 (N-ethylethanamid) + HCl