Pennod 1 - Stereoisomeredd Flashcards
Ysgrifennwch ethen gyda grwpiau gweithredol o’ch dewis fel mae’n bodoli fel isomer;
1) E
2) Z
1) X-C-H = Y-C-X (Ble mae’r atomau X ar lefelau gwahanol)
2) X-C-H = X-C-Y (Ble mae’r atomau X ar yr un lefel
Rhowch enw arall ar gyfer isomerau adeiledol sy’n dangos isomerau E-Z. Esboniwch sut mae’r isomerau yma’n bodoli
Isomeredd optegol. Mae bond π yn cyfyngu ar gylchdroi o amgylch y bond dwbl ac oherwydd hynny mae 1,2-deucloroethen yn bodoli ar ddwy ffurf wahanol. Mae’r ddau isomer yn cael effeithiau gwahanol ar olau plan polar
Beth sydd angen ar alcenau er mwyn gallu dangos isomeredd E-Z?
Mae angen i’r atomau/grwpiau sy’n bondio i’r atomau carbon ar bob pen y bond dwbl carbon i garbon fod yn wahanol
Diffiniwch graidd cirol
Atom mewn moleciwl sy’n bondio i bedwar atom neu grwp gwahanol
Diffiniwch enantiomerau
Ffurfiau o’i gilydd sy’n ddrychddelweddau, nad yw’n bosib eu harosod ar ei gilydd ac sy’n cylchdroi plan golau polar i gyfeiriadau dirgroes
Diffiniwch actifedd optegol
Yn digwydd mewn moleciwlau sydd gyda chraidd/creiddiau cirol. Mae’r moleciwlau hyn yn cylchdroi plan polar
Diffiniwch gymysgedd racemig
Cymysgedd sy’n cynnwys yr un nifer o folau o’r ddau enantiomer ac sydd ddim yn cylchdroi golau plan polar i’r naill gyfeiriad na’r llall
Rhestrwch y ffactorau sy’n dylanwadu ar gylchdro plan y golau polar
1) Yr enantiomer dan sylw
2) Crynodiad yr enantiomer yn yr hydoddiant
3) Hyd y tiwb sy’n cynnwys yr hydoddiant y mae’r golau’n mynd drwyddo
4) Mae hefyd angen ystyried amledd ffynhonnell y golau a’r tymheredd
Esboniwch pam gallwn ddisgrifio cymysgedd racemig fel cymysgedd sy’n cynnwys yr un nifer o folau neu’r un meintiau o’r ddau enantiomer
Mae gan enantiomerau yr un fformiwla foleciwlaidd, ac felly’r un mas moleciwlaidd cymharol. Felly bydd yr un meintiau yn cynnwys yr un nifer o folau o bob enantiomer