Pennod 2 - Aromatigedd Flashcards
“Mae pob atom carbon yn bondio i ddau atom hydrogen ac un atom carbon. Onglau’r bondiau C-C-C yw 120º a mae hyd y bond C=C yn hirach na hyd y bond C-C. Y lleiaf yw’r egni cyseiniant, y mwyaf sefydlog yw’r moleciwl”
Mae’r paragraff uwchben yn disgrifio adeiledd bensen. Eglurwch ba frawddegau yn y paragraff sy’n wir a pha rhai sy’n anwir ar gyfer adeiledd bensen
Gwir:
Onglau’r bondiau C-C-C yw 120º
Anwir:
1) Mae pob atom carbon yn bondio i ddau atom hydrogen ac un atom carbon. - Un hydrogen i bob atom carbon yw’r gwir
2) Mae bond C=C yn hirach na hyd y bond C-C - mae bondiau lluosog rhwng atomau carbon yn fyrrach na bondiau carbon i garbon sengl yw’r gwir
3) Y lleiaf yw’r egni cyseiniant y mwyaf sefydlog yw’r moleciwl - Mae sefydlogrwydd y moleciwl yn cynyddu gyda chynnydd yr egni cyseiniant yw’r gwir
Eglurwch pam nad ydyn ni’n meddwl mae bensen wedi’i strwythuro fel ffurfiau Kekulé
1) Pe bai bensen yn ffurfiau Kekulé, byddai dau hyd bond gwahanol rhwng atomau carbon yn y moleciwl. Nid yw hyn yn wir.
2) Nid yw bensen yn dadliwio dwr bromin; mae ffurfiau Kekulé yn arddangos bensen fel alcen, felly mae hyn yn gwrthddywediad
3) Pan fydd cylchohecsan yn cael ei hydrogenu, y newid enthalpi yw -120kJ mol-1 Pe bai bensen yn bodoli fel ffurfiau Kekulé a phe bai’r tri bond dwbl i hyd yn cael eu hydrogenu, y newid enthalpi fyddai -360kJ mol-1, ond newid enthalpi gwir bensen wrth gael ei hydrogenu’n llawn yw -208kJ mol-1. Awgrymir hyn mae adeiledd Kekulé yn anghywir
Disgrifiwch y bondio mewn ethen
Mae pob atom carbon yn bondio i ddau atom hydrogen ac atom carbon drwy fondiau sigma (¤). Mae electronau p allanol eraill pob atom carbon yn gorgyffwrdd uwchben ac o dan blan y moleciwl, gan roi orbital pi (π) lleoledig
Disgrifiwch y bondio mewn bensen
Mae pob atom carbon yn bondio i ddau atom carbon arall ac atom hydrogen drwy fondiau sigma. Mae pedwerydd electron plisgyn allanol atom carbon mewn orbital 2p, uwchben plan yr atomau carbon ac odano. Mae’r orbitalau p hyn yn gorgyffwrdd gan roi adeiledd electronau dadleoledig, uwchben ac o dan blan yr atomau carbon.
Disgrifiwch yr adwaith rhwng clorin a bensen. Enwch isomer yr cynnyrch sy’n cael ei gynhyrchu o dan yr enw masnachol Lidane© a disgrifiwch ei ddefnydd
Clorin + Bensen → Hecsaclorocylchohecsan, C6H6Cl6
Isomer = y-hecsaclorocylchohecsan sy’n pryfleiddiad
Diffiniwch electroffil
Rhywogaeth electron ddiffygiol sy’n gallu derbyn par unig o electronau
Disgrifiwch sut ffurfir nitrobensen trwy adwaith nitradu
Mae grwp nitro. NO2, yn cymryd lle atom hydrogen. Yr electroffil yw’r catïon nitryl (neu ion nitroniwm) NO2+ ac mae’n cael ei gynhyrchu drwy adwaith asid nitrig cryno ac asid sylffwrig cryno. Mae’r catïon nitryl yn adweithio gyda bensen gan roi nitrobensen, C6H5NO2
HNO3 + 2H2SO4 ⇔ NO2+ + H3O+ + 2HSO4-
1) Disgrifiwch nitrobensen a’i rydwythiad
2) Beth sy’n gallu digwydd os mae nitradiad bensen yn digwydd yn fwy na 50º?
1) Mae’n hylif melyn sy’n rhydwytho i ffenylamin, C6H5NH2 drwy ddefnyddio tun metelig ac asid hydroclorig
2) Mae rhywfaint o 1,3-deunitrobensen yn ffurfio
Disgrifiwch ac eglurwch adwaith rhwng bensen a bromin gan nodi’r amodau safonol
Nid yw bensen a bromin yn adweithion gyda’i gilydd pe bai gatalydd megis naddion haearn, haearn(III) bromid neu alwminiwm bromid yn bresennol
Bensen + Br2 (Fe/FeBr3 + tymheredd ystafell) → Bromobensen + HBr
Nid yw’r system electronau π yn ddigon niwcloffilig i bolaru’r moleciwl bromin i unrhyw raddau i roi Br§+–Br§- Ym mhresenoldeb haearn(III) bromid, mae’r moleciwl bromin yn dod yn fwy polar
Disgirifwch ac eglurwch yr adwaith rhwng bensen a gormodedd o glorin gan nodi’r amodau safonol
Bensen + Gormodedd o glorin (AlCl3 anhydrus) → 1,2-deuclorobensen + 1,4-deuclorobensen
Mewn diwydiant, mae bensen yn cael ei glorineiddio mewn proses barhaus, gan leihau unrhyw duedd i bolyclorineddio
Disgrifiwch ac eglurwch yr adwaith rhwng bensen a C6H5CH2Cl gan nodi’r amodau safonol. Disgrifiwch y brobelm gyffredinol gydag alcyleiddiad yr adwaith hwn
C6H5Cl + Bensen (AlCl3 anhydrus) → Ethylbensen + HCl
Wrth gyflwyno grwp alcyl i’r cylch, mae’n gwneud i’r cylch fod yn fwy agored i alcyleiddiad pellach. Oherwydd hyn, gall y cynnyrch gynnwys 1,2 ac 1,4-deuclorobensen
Disgrifiwch yr adwaith rhwng 1-clorohecsan a sodiwm hydrocsid
CH3(CH2)4 CH2Cl + NaOH → CH3(CH2)4 CH2OH + NaCl
Pam mae bensen yn tueddi i ddim adweithio gyda niwcleoffilau
Maent yn cael eu gwrthyrru gan y system sefydlog o electronau π