Pennod 4 - Aldehydau a Chetonau Flashcards
Disgrifiwch y bondio mewn aldehyd a cheton
Yn cynnwys y grwp polar C=O. Mae’r bond dwbl yn cynnwys bond sigma a phi uwchben ac o dan blan y bond sigma, oherwydd gorgyffwrdd orbitalau p-p
Disgrifiwch sut ffurfir aldehydau ac asid carbocsilig o alcoholau. Darparwch enghraifft
Mae alcoholau cynradd yn cael eu hocsidio yn aldehyd ac yna, i asid carbocsilig wrth gael eu hocsidio’n bellach
CH3CH2OH + [O] → CH3CHO + H2O
CH3CHO + [O] → CH3COOH
Mae [O] yn ocsidydd potasiwm(neu sodiwm) deucromad asidiedig dyfrllyd
Disgrifiwch sut ffurfir ceton o alcoholau. Darparwch enghraifft
Trwy ocsidio alcoholau eilaidd gan ddefnyddio potasiwm(neu sodiwm) deucromad asidiedig dyfrllyd fel yr ocsidydd [O];
CH3CH3COHH + [O] → CH3CH3CO + H2O
Mae’n bosib defnyddio potasiwm(VII) manganad asidiedig fel yr ocsidydd hefyd gan ffurfio ion manganad(VII)
Enwch y grwp gweithredol sy’n gyffredin i aldehydau a chetonau
Carbonyl C=O
Disgrifiwch ddefnydd 2-4-DNP
Mae 2-4-DNP yn adweithio gydag aldehydau a chetonau gan ffurfio gwaddod oren; mae’n profi am y grwp carbonyl, C=O
Disgrifiwch brawf Tollens
Mae Tollens yn hydoddiant amonia ac arian nitrad sy’n ocsidio aldehydau gan rydwytho Ag+ i Ag gan ffurfio drych arian. Nid yw’r arbrawf yn gweithio gyda chetonau oherwydd ni all getonau cael eu hocsidio