Harri VIII Flashcards
Pwy oedd yn weinidog o 1514-1529?
Thomas Wolsey
Sut gymeriad oedd Thomas Wolsey?
Gweithiwr caled ond yn llygredig
Cael ei weld fel ‘ail frenin’ wrth iddo wisgo fyny’n grand ac yn byw yn Hampton Court
Polisi Mewnol - Bywyd a Natur Personol
Da - Dyn hynod o weithgar oedd yn ffafrio’r tlawd
Drwg - Dyn farus a llwgr oedd gyda natur unbennaethol e.e. 2 senedd galwodd Wolsey
Polisi Mewnol - Yr Uchelwyr
Da - Wolsey gyda rheolaeth effeithiol dros yr uchelwyr drwy ddefnyddio llysoedd fel Siambr y Ser a’r Llys Sianswri
Drwg - Dialgar ac yn anheg gyda llawer o’r uchelwyr
Amyas Paulet
- Wedi rhoi Wolsey yn y cyffion
- Gorchmynnodd Wolsey Paulet i’r llys a’i gadw i aros mewn presenoldeb dyddiol am bum mlynedd
- Eiddo yn cael ei atafaelu os nad oedd o’n mynychu
Edward Stafford, Dug Buckingham
- Clywodd Wolsey Dug Buckingham yn dweud na fydd Harri VIII yn frenin am hir iawn
- Wedi cael ei arestio am deyrnfradwriaeth, yna’n cael ei ddienyddio yn 1521
Polisi Mewnol - Economi a Chyllid
Da - Rhyddhau arolwg o gyfoeth y genedl, oedd yn dweud faint o bres a thir oedd gan pobl y wlad yn 1522
Drwg - Y Benthyciad Cyfeillgar 1525. Treth cafodd ei osod heb caniatad y senedd. Bwriad oedd i godi arian ar gyfer rhyfel yn erbyn Ffrainc. Pobl yn eI erbyn. Wedi difrodi perthynas fo a Harri VIII
Polisi Mewnol - Trefniant a Gweinyddiaeth
Da - Gorchmynion Eltham wedi cael ei gyhoeddi yn 1526 er mwyn diwygio’r llys. Aelodau’n cael eu lleihau o 12 i 6
Drwg - Pobl yn meddwl bod Wolsey yn bod yn hunanol - rhain oedd ar ol oedd cefnogwyr Wolsey. Methiant yn y diwedd oherwydd ni chafodd y gorchmynion eu gweithredu
Polisi Mewnol - Cyfiawnder a Thegwch
Da - Disgyblodd Wolsey yr uchelwyr ac wedi ymdrechu i daclo cau tiroedd yn 1517 - 260 o achosion llys ei gynnal yn erbyn perchnogion tir
Drwg - Heb gyflawni llawer oherwydd collodd Wolsey diddordeb mewn cau tiroedd
Polisi Mewnol - Yr Eglwys
Da - Wolsey wedi ceisio diwygio’r eglwys drwy sefydlu ysgol yn Ipswich a choleg yn Rhydychen ar gyfer hyfforddi offeiriaid newydd
Drwg - Ei bersonoliaeth llwgr yn tanseilio ei ymdrechion i ddiwygio’r Eglwys
Cydbwysedd grym
Y syniad nad oes yna unrhyw wlad yn domiwnyddu
Brwydr Guinegate 1513
- Brwydr rhoddodd buddugoliaeth mawr yn erbyn Ffrainc - cael ei weld fel llwyddiant
- Wedi rhoi hwb mawr i’r frenin newydd ac yn llwyddiant personol mawr i Wolsey
Brwydr Cae Flodden 1513
- Brwydr rhwng Lloegr a’r Alban
- Lleoli yn Northumberland
- Yr Alban wedi cael ei drechu yn y frwydr - Brenin Iago IV wedi marw yn y frwydr
- Llwyddiant i Loegr
Cytundeb Llundain 1518
- Cytundeb rhwng gwledydd Ewrop oedd yn caniatau heddwch rhyngddynt
- Llwyddiant gan bod Lloegr rwan yn cael heddwch gan wledydd tramor
Cae y Frethyn Aur 1520
- Cyfarfod yn Calais rhwng Harri VIII a Ffransis I, brenin Ffrainc
- Pwrpas - Gwella cysylltiadau rhwng ddwy deyrnas wrthwynebol fawr
- Para o’r 7fed o Fehefin tan y 24ain o Fehefin
- Methiant oherwydd ni chafodd effaith hir dymor
Brwydr Pavia
- Brwydr yn para 4 awr
- Byddin Ffrainc wedi cael ei drechu
- Siarl V, brenin Sbaen yn domiwnyddu Ewrop erbyn diwedd y 1520au oherwydd y frwydr
Cwymp Wolsey - Rhesymau
- Methu cael ysgariad i Harri VIII gyda Catrin o Aragon oherwydd perthynas Siarl V, brenin Sbaen a’r Pab
- Gelyniaeth yr uchelwyr - Dilyn polisi llym tuag atynt
- Methiannau polisi tramor - Polisiau heb gael effaith hir dymor, brwydr Pavia
- Y Benthyciad Cyfeillgar 1525
Pwy oedd yn weinidog o 1532-1540?
Thomas Cromwell
Chwyldro
Newid mawr mewn cyn lleiad o amser
Sofraniaeth cenedlaethol
Grym, ‘un arweinydd, un gyfraith, un gwlad’
Chwyldro - Sofraniaeth Cenedlaethol
- Canoli awdurdod yn nwylo’r brenin yn Llundain