Harri VII Flashcards
Camau i sefydlu ei hun yn frenin
- Dyddio ei deyrnasiad o’r diwrnod cyn brwydr Bosworth (21ain o Awst 1485)
- Ei goroniad (30ain o Hydref 1485) - cael ei goroni cyn mynd i’r senedd i ddangos pwer
- Priodi Elisabeth o Gaerefrog, nith Rhisiart III a ganwyd ei mab cyntaf, Arthur yn 1486 - cryfhau statws
- Propaganda - peintio Rhisiart fel dyn drwg
- Pasio deddfau adendriad yn y seneddau cyntaf
- Deddf De Facto 1495 - trio ennill y pobl oedd gyda ofnau tra roedd o’n frenin drosodd
Bygythiadau
- Ymhonwyr
- Rhai gwledydd tramor
- Gwrthryfeloedd
- Yr uchelwyr
Ymhonwyr
Rhywun sydd yn meddwl bod gennyn nhw hawl gwell i’r goron
Pam bod nhw’n cael ei weld fel bygythiad?
Roedd nhw’n derbyn cefnogaeth gan gwledydd tramor oedd yn gelynion i goron Lloegr e.e. Yr Iseldiroedd, Iwerddon, yr Ymerodraeth Sanctaidd Rufeinig
Edward Iarll Warwick
- Derbyn cefnogaeth gan yr Iorciaid
- Cafodd ei garcharu ar ddechrau teyrnasiad Harri VII yn Nhwr Llundain cyn iddo gael ei dienyddio yn 1499
- Cael ei weld fel bygythiad i le Harri ar yr orsedd
John de la Pole, Iarll Licoln ac Edward de la Pole Iarll Suffolk
- Rhisiart III yn ewythr iddyn nhw
- Iorciaid yn cefnogi
- Trechwyd Iarll Lincoln ym mrwydr Stoke 1487
- Iarll Suffolk wedi cael ei garcharu oherwydd cytundeb Windsor 1506
Lambert Simnel
- Ymhonnwr i’r goron yn 1487
- Honni mai fo oedd Iarll Warwick (wedi cael ei garcharu ar y pryd)
- Cael ei weld fel bygythiad oherwydd bod o’n cael cefnogaeth gan Yr Iseldiroedd, Iwerddon a’r Iorciaid - gelynion Harri VII
- Trechwyd ym mrwydr Stoke 1487
Perkin Warbeck
- Ymhonnwr i’r goron o 1491 i 1497 - bygythiad am gyfnod hir iawn
- Honni mai ef oedd Rhisiart Dug Caerefrog, nai Rhisiart III a mab ieungaf Edward IV - honniad gwell i’r goron os oedd hyn yn wir
- Derbyn cefnogaeth gan gelynion y frenin
- Dienyddwyd ym mis Tachwedd 1499
Pa ddau cytundeb cafodd ei greu oherwydd Perkin Warbeck?
- Etaples 1492 - rhwng Harri VII a Siarl VIII, brenin Ffrainc
- Heddwch Ayton 1497 - rhwng Lloegr a’r Alban
Pam bod gwledydd tramor yn cael eu gweld fel bygythiad?
- Y cefnogaeth roedd nhw’n darparu i’r ymhonwyr
- Maint eu byddin i gymharu gyda Lloegr
Pam bod cytundebau tramor yn cael ei greu?
Er mwyn cael heddwch rhwng gwledydd neu dal ai i adeiladu perthynas da
Etaples 1492
Cytundeb rhwng Ffrainc a Lloegr. Brenin Siarl VIII yn cytuno i roi’r gorau i gefnogi’r Iorciaid.
Ffrainc hefyd angen rhoi swm o arian i Harri VII er mwyn cadw’r heddwch
Magnus Intercursus 1496
Cytundeb rhwng Yr Iseldiroedd a Lloegr. Prydain yn dechrau masnachu gyda’r Iseldiroedd
Heddwch Ayton 1497
Cytundeb rhwng Yr Alban a Lloegr. Brenin Iago VI yn cael priodi Margaret, merch Harri VII os bydd Yr Alban yn rhoi’r gorau i gefnogi Warbeck
Windsor 1506
Cytundeb rhwng Yr Iseldiroedd a Lloegr. Phillip Dug Bwrgwyn yn cael dychwelyd yn ol adre os bydd o’n rhoi Edmund de la Pole i Harri VII
Cyfraith Poynings
Cytundeb rhwng Iwerddon a Lloegr. Cyfreithiau Iwerddon yn cael eu pasio i Lloegr. Fodd bynnag, roedd beth bynnag roedd Lloegr yn ei wneud, roedd o hefyd yn berthnasol ar gyfer Iwerddon
Medina del Campo 1489
Cytundeb rhwng Sbaen a Lloegr. Cytundeb priodas rhwng Tywysog Arthur a Catrin o Aragon.
Cytundebau gyda Portiwgal, Denmarc a Norwy - cyngrheiriaid
Sefydlu amryw o gytundebau masnachol
Gwrthryfeloedd - Enwi’r ddau wrthryfel
Gwrthryfel Swydd Efrog 1489
Gwrthryfel Cernyw 1497
Gwrthryfel Swydd Efrog - Achos
Anfodlonrwydd gyda threthi
Gwrthryfel Swydd Efrog - Digwyddiadau
5000 o wrthryfelwyr wedi gorymdeithio i Doncaster o dan arweinyddiaeth Syr John Egremont
Thomas Howard, Iarll Surrey wedi cael ei yrru i Efrog er mwyn rhoi’r gwrthryfel i lawr yn rhwydd
Gwrthryfel Swydd Efrog - Canlyniadau
Gwrthryfelwyr wedi cael eu gorchfygu
Trethi wedi cael eu gostwng
Rheolaeth Harri VII ar Ogledd Lloegr wedi cynyddu
Gwrthryfel Cernyw - Achos
Cynnydd mewn trethi rhyfel gan Harri VII
Harri ar y pryd yn bygwth mynd i ryfel gyda’r Alban - pobl yn anghytuno gyda ei benderfyniad oherwydd bod o’n eithaf pell
Gwrthryfel Cernyw - Digwyddiadau
15,000 wedi gorymdeithio i Lundain, yn Blackheath dan arweinyddiaeth Arglwydd Audley
Brwydr Pont Deptford wedi cael ei gynnal ar y 17fed o Fehefin, 1497
Gwrthryfel Cernyw - Canlyniadau
Gwrthryfelwyr wedi cael eu gorchfygu
1000 o wrthryfelwyr wedi cael eu lladd
Cafodd Audley ei dienyddio
Trethi wedi cael eu gostwng
Canlyniad y gwrthryfeloedd
Harri VII angen bod yn wyliadwrus gyda’i weithredoedd gan nad oedd ganddo’r cefnogaeth
Pam oedd yr uchelwyr yn cael eu gweld fel bygythiad?
Harri VII gyda diffyg rheolaeth drostynt
Trechwyd llawer o uchelwyr ym Mrwydr Bosworth ond oedd y rhai ar ol yn andros o gyfoethog
Uchelwyr yn dechrau dod yn gor-bwerus erbyn teyrnlin y Tuduriaid
Lifrai a Chynhaliaeth
Disgwyliad i’r gweision hyn oedd iddynt ymateb i alwad am wasanaeth milwrol yn gyfnewid am amddiffyniad yr arglwydd
Pam bod angen i Harri VII rheoli’r uchelwyr?
Er mwyn cadw pethau i redeg yn llyfn ac i gael awdurdod llawn
Rhesymau ariannol hefyd ac i ennill cefnogaeth
Deddfau Adendriad
Deddf sy’n cael ei basio gan y senedd yn erbyn person am wneud trosedd fel teyrnfradwriaeth.
Fel cosb, roedd canran o dir yn cael ei gymryd oddi ar y troseddwr
Sawl deddf adendriad cafodd ei basio yn ystod teyrnasiad Harri VII? + Enghraifft
138 - Thomas Howard, Iarll Surrey
Siamber y Ser
Llys oedd wedi cael ei wneud o farnwyr a chyfrin gynghorau
Wedi cael ei greu gan nad oedd llys arferol yn gallu gorfodi cyfiawnder
Bond
Cytundeb rhwng y frenin a’r uchelwr
Uchelwr yn ddyledus am swm mawr o arain i’r Frenin os oedd nhw’n torri’r cytundeb
Pam bod bondiau yn cael ei ddefnyddio?
Er mwyn gwneud yn siwr bod yr uchelwr yn aros yn ffyddlon
Deddfau yn erbyn lifrai a chynhaliaeth + enghraifft
2 ddeddf wedi cael ei basio yn y senedd, un yn 1487 a’r llall yn 1504
George Neville, Arglwydd y Fenni - Dirwy o £70,650 gan bod o’n cadw 471 o ddynion fel byddin yn anghyfreithlon yn 1506
Dulliau gwobrwyo a chydweithio
Rhoi swyddi iddynt yn y llywodraeth e.e. Thomas Howard Iarll Surrey
Gwrthdroi deddfau adendriad - 46 ohonynt wedi cael eu gwrthdroi yn ystod teyrnasiad Harri VII
Prif nodweddion cyngor brenhinol Harri VII
Bach - Methu ymddiried na methu rheoli grwpiau mawr o bobl
Cynnwys dynion profiadol - Nid oedd gan Harri VII llawer o brofiad
Cyfreithwyr - Darganfod ffordd o dargedu’r uchelwyr
Dynion dosbarth canol - Mwyaf tebygol o fod yn ffyddlon
Arbenigedd - Is bwyllgorau fel y Cyngor Dysgedig
Sawl senedd cafodd ei alw gan Harri VII a pham?
7 - 2 ohonyn nhw ar ol 1495
Harri yn hoff o wneud pethau ar ben ei hun
Sut wnaeth y senedd helpu Harri i sefydlu ei hun?
Deddf De Facto 1495
Dyddio ei deyrnasiad
Helpu disgyblu unigolion ac i drechu gwrthwynebiad
Incwm arferol
Incwm sydd yn dod mewn o hyd
Incwm anarferol
Incwm sydd yn dod mewn yn achlysurol
Rhenti o dir brenhinol - Arferol neu anarferol
Incwm arferol, cael ei weinyddu gan y Siambr Gyfrin
Prif ffynhonnell incwm Harri VII
Y frenin yn ennill llawer o dir newydd
Tollau masnach - Arferol neu anarferol
Incwm arferol. Ail ffynhonnell incwm pwysicaf y frenin. Llyfr Cyfraddau ar ol 1507 yn rhoi gwell trefn ar bethau
Bondiau - Arferol neu anarferol
Incwm anarferol. Dim ond yn cael ei dalu os oedd uchelwr yn torri’r cytundeb. Ffynhonnell incwm pwysig
Cytundebau tramor - Arferol neu anarferol
Cytundeb Etaples - Incwm anarferol. Ffynhonnell incwm pwysig gan bod o’n caniatau heddwch
Trethi seneddol - Arferol neu anarferol
Incwm anarferol. Dim yn bwysig
Incwm o’r llysoedd - Arferol neu anarferol
Incwm arferol. Pwysig ac yn digwydd yn aml
Benthyciadau gorfodol o’r uchelwyr - Arferol neu anarferol
Incwm arferol. 1491 - Harri wedi codi £48,500 er mwyn mynd i ryfel yn erbyn Ffrainc
Dangos bod nhw’n fwy cyfoethog ac yn dangos grym
Deddfau adendriad - Arferol neu anarferol
Incwm arferol. Ffynhonnell incwm eithaf pwysig
138 ohonynt wedi cael eu pasio
Pam bod Harri VII yn llwyddiannus?
Dim yn gorwario - osgoi rhyfel
Manteisio’n llawn ar ffynonellau incwm
Defnydd o ddeddfau adendriad a bondiau
Gweinyddu ei incwm yn effeithiol
Cytundebau tramor a masnachol proffidol