Elisabeth I Flashcards
Ardrefniant
Cytundeb swyddogol, a’i fwriad ydi i ddatrys anghyfod neu wrthdaro
Pam yn eglwys Protestannaidd?
- Ganwyd yn ferch i Anne Boleyn (protestant) yn ystod y rhwyg a Rhufain
- Derbyn addysg gan diwtoriaid Protestannaidd
- Ei chynghorwyr yn Brotestaniaid
- Ceisio magu perthnasoedd da rhwng gwledydd Protestannaidd e.e. Yr Almaen
- Teimladau gwrth Sbaenaidd wedi tyfu erbyn 1558
Pam yn Brotestant cymhedrol?
- Elisabeth yn ‘politique’ - mwy o ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth
- Rhai o gynghorwyr Elisabeth yn Gatholigion
- Elisabeth yn hoff o liw a seremoni
- Cadw croesau a chanhwyllau yn ei chapel preifat
- Dim eisiau gwyltio Sbaen
Deddf Uchafiaeth 1559
- Rhoi rheolaeth llwyr o Eglwys Lloegr i Elisabeth
- Sefydlu Elisabeth fel Llywodraethwr Eglwys Lloegr - merched ddim yn cael bod yn glerigwyr
Llyfr Gweddi a Ddeddf Unffurfiaeth 1559
- Adfer fersiwn 1552 o’r Llyfr Gweddi ond yn cadw llawer o hen arferion cyfarwydd
- Pawb angen ei dderbyn
Cadw lliw, seremoni ac urddwisgoedd
- Clerigwyr angen gwisgo urddwisgoedd
- Hyn yn gwylltio piwritaniaid
Piwritaniaeth
Hoff o bethau’n blaen ac yn syml
Cadw dull hierarchaidd o lywodraethu’r Eglwys
- Hyn yn gwylltio presbyteriaid
Presbyteriaeth
Credu mewn dim hierarchiaeth. Protestaniaid
Y 39 Erthygl
- Credoau’r eglwys Anglicanaidd
- Ochri gyda’r crefydd Protestaniaeth
- Pasiwyd gan y Senedd yn 1571
Pam bod rhanfwyaf o bobl Cymru a Lloegr yn fodlon derbyn yr Ardrefniant?
Wedi cael digon o’r wlad yn cael ei reoli’n eithafol
Pwy oedd yn anhapus gyda’r Ardrefniant?
- Presbyteriaid
- Piwritaniaid
- Reciwsantiaid
Reciwsantiaeth
Gwrthod derbyn arferion a chredoau Eglwys Lloegr na rol y frenhines fel Pennaeth yr Eglwys
Sut ydym ni’n gwybod bod Ardrefniant Eglwysig Elisabeth yn llwyddiannus?
Mae’r eglwys Anglicanaidd dal i fod erbyn heddiw
Gwrth-Ddiwygiad
Catholigion yn brwydro yn ol yn erbyn Protestaniaeth
Pam ddechreuodd perthynas Lloegr a Sbaen dirwyio?
- Y Byd Newydd
- Gwahaniaethau mewn crefydd
- Gwahaniaethau mewn gwleidyddiaeth
- Gwrthod y cynnig i briodi gan Phillip II
Pryd cyrhaeddodd Mari Stiwart?
1568
Pwy oedd Mari Stiwart?
- Brenhines Yr Alban
- Cyfnither i Elisabeth I
- Bygythiad gan fod hi gyda honniad i’r goron, hefyd gyda phlentyn
- Catholigion eisiau iddi fod yn frenhines gan bod Elisabeth yn cael ei weld yn anghyfreithlon
Cenhadon
Rhai oedd yn cefnogi cael gwared o’r frenhines
Pam bod y cenhadon yn cael eu gweld fel bygythiad?
- Ofn faint o effeithiol oedden nhw
- Ofn cynllwyniau Catholig e.e. Robert Parsons, Edmund Campion, Robert Gwyn
Pwrpas yr holl cynllwyniau
Disodli Elisabeth a gosod Mari Stiwart ar yr orsedd
Gwrthryfel y Gogledd - Pwy oedd yn cymryd rhan?
Thomas Howard Dug Norfolk, Cefnder Elisabeth
Gwrthryfel y Gogledd - Digwyddiadau
- Marchogaeth i Durham gyda 4,500 o ddynion
- Ymosod ar eglwys gadeiriol, disnistro’r Beiblau a’r Llyfrau Gweddi Protestannaidd
- Anfonwyd miloedd y filwyr i roi’r gorau i’r gwrthryfel
Gwrthryfel y Gogledd - Canlyniadau
Cafodd llawer o wrthryfelwyr eu lladd a charcharwyd Dug Norfolk
Cynllwyn Ridolfi 1571 - Pwy oedd yn cefnogi neu’n cymryd rhan?
Y Pab a Sbaen yn cefnogi
Cynllwyn wedi cael ei greu gan fancwr o’r Eidal - Robert Ridolfi
Cynllwyn Ridolfi 1571 - Digwyddiadau
Rhai oedd yn rhan o’r cynllwyn yn cael eu harteithio - datgelu bod llysgenad Sbaen a Phillip II, brenin Sbaen hefyd yn ran o’r cynllwyn
Cynllwyn Ridolfi 1571 - Canlyniadau
Dug Norfolk yn cael ei ddienyddio
Cynllwyn Throckmorton 1583 - Pwy oedd yn cefnogi/cymryd rhan?
Cael cefnogaeth gan Ffrainc, y Pab a Phillip II, brenin Sbaen
Cynllwyn Throckmorton 1583 - Digwyddiadau
- Francis Throckmorton (y cynlluniwr) yn cael ei arestio a’i arteithio
- Datgelu bod Dug Guise yn bwriadu ymosod ar Loegr gyda byddin o Gatholigion Ffrengig
- Mari Stiwart ddim yn ymwybodol o’r plot
Cynllwyn Throckmorton 1583 - Canlyniadau
- Francis Throckmorton yn cael ei ddienyddio
- Symudodd Mari Stiwart i Gastell Tutbury oedd yn leoliad mwy diogel
Cynllwyn Babington 1586 - Pwy oedd yn cefnogi/cymryd rhan?
Ennill cefnogaeth gan Francis Walsingham, prif ysgrifennydd Elisabeth
Cynllwyn Babington 1586 - Digwyddiadau
- Syr Anthony Babington (cynllunwr) yn bwriadu trefnu grym ymosodol o Sbaen i ladd Elisabeth a rhoi Mari Stiwart ar yr orsedd
- Babington yn anfon llythyrau cod i Mari
- Rhwydwaith Walsingham yn darganfod
- Mari Stiwart yn dweud bod hi’n gysylltiedig gyda’r cynllwyn
Cynllwyn Babington 1586 - Canlyniadau
1587 - Dienyddiad Mari Stiwart
Sut llwyddodd Lloegr i drechu’r Armada Sbaenaidd yn 1588?
- Ymosod ar longau Sbaen a’i harbwr yn Cadiz - hyn wedi gwanhau Sbaen
- Llawer o longau Sbaen wedi cael eu difrodi oherwydd y stormydd, a miloedd o filwyr wedi boddi
Pam bod yr Armada Sbaenaidd yn fygythiad i Elisabeth?
Roedd ganddi amddiffynfeuydd gwan
Pam nad oedd y bygythiad piwritannaidd yn cael ei weld mor beryglus?
Nid oedd nhw eisiau cael gwared o’r frenhines
Proffesiadau
Cyfarfodydd gweddi sy’n cael ei gynnal gan weinidogion yr Eglwys
Ymryson yr Urddwisgoedd - Cefndir
Rhwng y 1560au-70au - anghytuneb o fewn Eglwys Lloegr dros beth oedd yr offeiriaid yn cael gwisgo yn ystod y gwasanaeth
Offeiriaid piwritannaidd yn dweud bod yr urddwisgoedd yn debyg iawn i ddillad offeiriaid Catholig
Sawl offeiriad cafodd eu diswyddo oherwydd Ymryson yr Urddwisgoedd?
37
Pwy oedd William Cecil?
- Cynghorydd agosaf Elisabeth
- Cyfrin gynghorydd
- 1571 - Ennill teitl Arglwydd Burghey
- Cyfrifol am y penderfyniad i ddienyddio Mari Stiwart
- Wedi dilyn polisi ymosodol tuag at Sbaen
Ymladd garfannol
Cystadlu rhwng cynghorwyr
- Peth da er mwyn gallu cael syniadau gwahanol ac yn gwneud i bobl drio’n fwy galed
- OND hefyd yn arwain at ‘ryfeloedd’
Enghreifftiau o ymladd garfannol
- Brwydr rhwng William Cecil (Arglwydd Burghley) a Robert Dudley (Iarll Leicester)
- Brwydr rhwng Robert Cecil (mab William Cecil) a Robert Devereux, Iarll Essex (llys-fab Leicester)
Pam bod Elisabeth yn annog cystadlu?
- Gallu clywed opsiynau gwahanol
- Fel polisi bwriadol o “wahanu er mwyn rheoli” - Gwell bod pobl yn cystadlu yn erbyn eu gilydd yn hytrach nag yn erbyn chi
Pa destunau oedd yn achosi rhaniadau o fewn Cyfrin Gyngor?
Priodas a’r olyniaeth a pholisiau tramor
Pa destun oedd yn arwain yn unfrydol?
Mari Stiwart
Pa gynghorwyr oedd yn dilyn polisi mwy ymosodol a phwy oedd yn dilyn polisi mwy gofalus?
Ymosodol - Leicester a Walsingham
Gofalus - William Cecil
Pam bod y testun priodas yn bwysig?
Sicrhau olyniaeth i’r goron
Olyniaeth ddim yn ffactor pwysig wrth i Elisabeth heneiddio
Llwyddiannau y Cyfrin Gyngor + Elisabeth
- Penderfyniadau yn ymwneud gyda pholisi tramor yn llwyddiannus ac effeithiol
- Syniad o beidio priodi yn ddoeth - Priodi Sais yn creu cenfigen, priodi rhywuin o dramor yn pechu gwledydd eraill
- Cadw rheolaeth ar y Cyfrin Gyngor drwy ddefnyddio tactegau a strategaethau effeithiol e.e. peidio gor-ochri
Methiannau y Cyfrin Gyngor + Elisabeth
- Weithiau yn oedi cyn gwneud penderfyniad pendant
- Elisabeth weithiau yn colli rheolaeth dros yr ymladd garfannol o fewn y Cyngor
- Safon y llywodraeth wedi dioddef fel aeth Elisabeth heneiddio yn y 1590au
Yr Hawlfraint Brenhinol
Materion yn ol y Goron ble oedd gan neb arall yr hawl i ymyrryd ynddynt e.e. priodi, cael plant
Dehongliad Neale
Aelodau’r Senedd yn dechrau herio’r Goron. Daeth y Ty Cyffredin yn bwysicach na Ty’r Arglwyddi
Dehongliad Adolygiadol
Doedd dim gwrthwynebiad ‘cas’ yn y Senedd mewn realiti
- ‘Gwrthwynebiad’ yn y Senedd yn cael ei drefnu gan gynghorwyr oedd yn deyrngar i Elisabeth
- Y Goron yn parhau i reoli’r Senedd
O blaid Neale
- Carfan Biwritannaidd yn peri niwsans mawr i Elisabeth ac yn gorfod cyfaddawdu
- Uniglyn dewr ac arwr seneddol oedd Peter Wentworth e.e. oedd o’n dadlau dylai pawb cael dweud eu barn yn y Senedd
- Dim llawer o seneddau wedi cael eu cynnal yn ystod teyrnasiad Elisabeth - dim ond 13, Elisabeth yn ofn y Senedd
- Senedd wedi ennill ambell fuddugoliaeth pwysig yn erbyn y Goron e.e. Monopoliau 1601
Monopoliau
Rhoi hawl i weithgynhyrchu neu werthu nwyddau penodol i uchelwyr a masnachwyr
Beth oedd bwriad y monopoliau i Elisabeth?
Hybu busnes a’r economi
OND - Oherwydd bod un person bellach yn rheoli cyflenwad cynnyrch penodol, roedd y prisiau’n codi
Monopoliau 1601
- Erbyn diwedd teyrnasiad Elisabeth - Rhai aelodau’r Senedd yn teimlo bod monopoliau yn anheg
- Llawer o brotestiadau yn erbyn nhw yn 1597-8 a 1601
- Erbyn y diwedd - Elisabeth yn cyfaddawdu a thynnu rhai o’r monopoliau
O blaid yr Adolygiaeth
- Ni wnaeth Elisabeth ildio i faterion mawr y dydd e.e. crefydd
- Wentworth yn unigolyn ecsentrig yn hytrach na arwr seneddol - Dim yn ffitio fewn
- Elisabeth yn defnyddio tactegau effeithiol. Gallu rheoli pryd oedd y Senedd yn cwrdd
- “Gwrthwynebiad” seneddol i Elisabeth yn cael drefnu fel arfer rhwng bobl oedd yn deyrngar iddi e.e. Robert Dudley
- Testun monopoliau yn fuddugoliaeth ‘un tro’, ni ddylid darllen gormod i fewn i hyn