Gwrthryfeloedd Tuduraidd 1509-1569 Flashcards
Pererindod Gras - Achosion Crefyddol
- Gwrthwynebiad amlwg i’r Protestaniaeth oedd yn cael ei gysylltu gyda Thomas Cromwell
- Crefydd a ffydd yn ganolog i fywyd yn yr adeg yma - arwain at deimladau cryf iawn
- Diddymu’r mynachlogydd oedd prif sbardun y gwrthryfel
Pererindod Gras - Gwrth-ddadl crefydd
- Achosion economaidd a chymdeithasol yn bwysicach yn ol rhai haneswyr
- Rhan clerigwyr yn y gwrthryfel wedi cael ei orliwio Rhai efallai wedi bygwth cymryd rhan
Pererindod Gras - Achosion Economaidd a Chymdeithasol
- Llywodraeth yn ceisio codi trethi yn y gogledd - cael ei weld yn gwbl ddi-angen
- Cyfnod o gynaefau gwael yn y gogledd ac yn achosi tlodi a’r angen am fwyd
- Proses o gau tiroedd yn ffactor pwysig
Pererindod Gras - Gwrth-ddadl Economaidd a Chymdeithasol
- Cynaeafu gwael yn eithaf cyffredin
- Nid oedd cau tiroedd yn digwydd ar raddfa eang
- Rhan fwyaf o gwynion yn ymwneud a’r bonedd a’r uchelwyr
Pererindod Gras - Achosion Gwleidyddol
- Rhai uchelwyr yn y llys yn colli allan wrth i’r cydbwysedd grym symud tuag at Anne Boleyn a’i chefnogwyr
- Drwg deimlad tuag at gynghorwyr y brenin - Thomas Cromwell. Syr Richard Riche
Pererindod Gras - Gwrth-ddadl Gwleidyddol
- Anhebygol fod gymaint wedi cymryd rhan yn y gwrthryfel oherwydd rhwystredigaeth rhai uchelwyr
Pererindod Gras - Digwyddiadau
- Gwrthryfel yn dechrau yn Swydd Efrog o dan arweinyddiaeth Robert Aske
- Pererinion gyda 50,000 o ddynion
- Gwrthod y newidiadau i’r Eglwys, nid gwrthod y frenin ei hun
- Dug Norfolk yn cael ei ddewis i drafod gyda’r pererinion. Wedi gaddo i Robert Sake ei fod o am roi eu gorchmynion i’r frenin a bydd nhw’n cael pardwn
- Gwrthryfelwyr wedi darganfod na fydd Harri VIII yn cytuno i’w gofynion a ymosodant ar gestyll Hull, Beverley a Scarborough
- Canslodd y frenin y pardynnau a chrogi arweinwyr y gwrthryfel - Robert Aske, Lord Darcy, Francis Bigod
Gwrthryfel y Gorllewin - Achosion Crefyddol
- Gwrthryfelwyr eisiau gweld y Chwe Erthygl yn cael ei adfer
- Gwrthryfelwyr yn ymosod ar y Llyfr Gweddi a Deddf Unffurfiaeth 1549
- Eisiau gweld yr Offeren (mass) yn cael ei chynnal yn Lladin
- Eisau dychwelyd at y ddull traddodiadol o addoli, y dull Catholig
- Gofyn am ddychweliad Cardinal Reginald Pole i Loegr ac eisiau iddo fo gael lle yn y Cyfrin Gyngor
Gwrthryfel y Gorllewin - Gwrth-ddadl Crefyddol
- Efallai fod yna or-bwyslais ar faint y cwynion crefyddol
Gwrthryfel y Gogledd - Achosion Economaidd
- Gwrthwynebiad i’r dreth arfaethedig ar ddefaid a brethyn
- Yr ofn bod y llywodraeth am rwystro cau tiroedd
Gwrthryfel y Gorllewin - Achosion Gwleidyddol
- Gwrthwynebiad tuag at Edward Seymour, Dug Somerset (Amddiffynnydd a Phrif Gynghorydd Edward VI)
Gwrthryfel y Gorllewin - Digwyddiadau
- Wedi para 4 mis - o mis Mai tan mis Awst
- Arweinwyr - Humphrey Arundell (tirfeddianwr) a Robert Welsh (offeiriad)
- Gwrthryfel wedi dechrau yng Nghernyw
- Gwrthryfelwyr wedi gosod camp yn Bodmin ac yna yn gorymdeithio i Defon
- 2,000 o wrthryfelwyr o Gernyw a Defon yn gorymdeithio i Exeter
- Arglwydd Russell a’i 8,000 o filwyr yn mynd i ymosod ar y gwrthryfelwyr yn mis Awst 1549. 4,000 ohonynt yn cael eu lladd
- Dienyddwyd Robert Welsh a Humphrey Arundell
Gwrthryfel Kett - Achosion Crefyddol
- Awyddus i wella ansawdd yr Eglwys a gwell clerigwyr
- Galw am yr hawl i gynulleidfaoedd dewis eu hoffeiriaid eu hunain
- Gwrthryfelwyr am weld Eglwys mwy Brotestannaidd yn cael ei sefydlu
Gwrthryfel Kett - Gwrth-ddadl Crefyddol
- Anodd gweld crefydd fel prif achos y gwrthryfel
Gwrthryfel Kett - Achosion Economaidd a Chymdeithasol
- Gwrthwynebiad mawr i’r broses o gau tiroedd
- Chwyddiant uchel yn y cyfnod yn creu gwrthwynebiad
- Cwyno am rhenti uchel ar adeg pan oedd chwyddiant yn uchel
Gwrthryfel Kett - Gwrth-ddadl Economaidd a Chymdeithasol
- Problemau yma wedi bodoli er amser hir
- Yn Nwyrain Anglia, roedd cau tiroedd wedi bod yn digwydd ers o leiaf 20 mlynedd
Gwrthryfel Kett - Achosion Gwleidyddol
- Polisiau Somerset - Pobl yn credu nad oedd ganddo gydymdeimlad tuag at eu cwynion
- Dadrithiad gyda llywodraeth rhanbarthol Dwyrain Anglia - erthyglau’n ymosod ar y fonedd ac Ynadon Heddwch lleol
Gwrthryfel Kett - Gwrth-ddadl Gwleidyddol
- Aelodau eraill o’r llywodraeth wedi gor-bwysleisio’r achosion gwleidyddol er mwyn cael gwared o Somerset
Gwrthryfel Kett - Digwyddiadau
- Gwrthryfelwyr yn cael eu arwain gan Robert Kett
- Gorymdeithio 10 milltir i Norwich, casglu ar Mousehold Heath gan ddenu cefnogaeth pobl dlotach Norwich
- 15,000 o wrthryfelwyr wedi dechrau brwydro yn erbyn grymoedd y llywodraeth yn Norwich. Wedi arwain at greisis cenedlaethol
- Byddin o 13,000 o ddynion (gorchymyn Iarll Warwick) yn gorfodi’r gwrthryfelwyr yn mynd yn ol i’r rhos
- Cannoedd o werin bobl wedi cael eu lladd a 300 ohonynt wedi cael eu dienyddio
- Kett yn cael ei garcharu ac yna yn cael ei grogi
Gwrthryfel Wyatt - Achosion Crefyddol
- Wyatt a’i gefnogwyr yn poeni byddai Diwygiad Protestannaidd teyrnasiad Edward VI yn cael ei chwalu gan Mari
- Mari wedi cyflwyno Statud Diddymu ac ildio ei theitl fel Pennaeth yr Eglwys
Gwrthryfel Wyatt - Gwrth-ddadl Crefyddol
- Nid oedd y gwrthryfelwyr i gyd yn cymryd rhan oherwydd rhesymau crefyddol
- Llywodraeth yn awyddus i bortreadu’r gwrthryfel fel un crefyddol i dynnu sylw i ffwrdd o wrthwynebiad i’r briodas frenhinol
Gwrthryfel Wyatt - Economaidd a Chymdeithasol
- Rhai o’r gwrthryfelwyr cyffredin wedi eu cymell gan ddirywiad economaidd y diwydiant brethyn yng Nghaint
Gwrthryfel Wyatt - Gwleidyddol
- Gwrthwynebiad mawr i’r briodas Sbaenaidd arfaethedig
- Ofni bydd Sbaen yn domiwnyddu Prydain
- Dylanwad Phillip yn arwain at newidiadau o fewn y llywodraeth ac felly’n peryglu eu gyrfaoedd
Gwrthryfel Wyatt - Digwyddiadau
- Arweinwyd y gwrthryfelwyr gan Thomas Wyatt, Syr Peter Carew, Syr James Croft a Dug Suffolk
- Cynllun - Tair gwrthryfel yn cymryd lle yn Kent, Canolbarth a Gorllewin Lloegr. Llynges Ffrengig yn mynd i warchae y Sianel Saesneg gyda 80 o longau i wneud yn siwr nad oedd y Hasburgs yn gallu helpu Mari
- Cynllun wedi methu
- Wyatt a’i fyddin wedi gorymdeithio i Lundain
- Mari yn digon bryderus i gynnig i drafod - os fysa’r gwrthryfelwyr yn mynd yn ol adrem ond wnaeth Wyatt wrthod
- Llundain yn cefnogi Mari
Gwrthryfel Wyatt - Rhesymau dros fethiant y gwrthryfel
- Dim yn wrthryfel poblogaidd
- Pobl Llundain dal i gefnogi Mari
- Tywydd oer - dim lloches i’w gael felly oedd o’n anodd iddynt orymdeithio
- Llywodraeth gyda llawer o rym - aros i’r gwrthryfelwyr trio cymryd drosodd y ddinas
Gwrthryfel y Gogledd - Achosion Crefyddol
- Siroedd y gogledd yn draddodiadol Gatholig ac wedi bod yn araf yn derbyn Protestaniaeth - DIM yn hoffi newidiadau crefyddol teyrnasiad Edward VI ac yn ofn bysa’r un peth yn digwydd yn ystod teyrnasiad Elisabeth I
- Gwrthwynebiad i bolisi’r llywodraeth o gefnogi Protestaniaeth yn Sbaen. Cyfeilgarwch gyda nhw yn syniad gwell
- Ymddangosiad Mari Stiwart yn Lloegr yn 1568 - pobl eisiau iddi hi fod yn frenhines yn lle Elisabeth
Gwrthryfel y Gogledd - Gwrth-ddadl Crefyddol
- Eglwys Elisabeth yn gymedrol iawn
- Nid oedd pawb o’r cynllwynwyr yn Gatholigion
Gwrthryfel y Gogledd - Economaidd a Chymdeithasol
- Traddodiad ffiwdal a theyrngarwch ffiwdal - pobl yn cymryd rhan oherwydd teyrngarwch i’w harglwyddi lleol
Gwrthryfel y Gogledd - Gwrth-ddadl Economaidd a Chymdeithasol
- Rhaid cynnig arain i rai o’r gwrthryfelwyr er mwyn eu perswadio i gymryd rhan
Gwrthryfel y Gogledd - Achosion Gwleidyddol
- Gwrthwynebiad tuag at William Cecil, prif gynghorydd Elisabeth - Llawer o uchelwyr y gogledd yn casau y dylanwad oedd ganddo
- Gwrthwynebiad i bolisi gwrth-Sbaenaidd Cecil
Gwrthryfel y Gogledd - Gwrth-ddadl Gwleidyddol
- Anhebygol bod cymaint o bobl gyffredin yn y gogledd wedi eu cymell gan achosion gwleidyddol
Gwrthryfel y Gogledd - Digwyddiadau
- Tachwedd 1569 - Dechreuad y gwrthryfel. Ieirll gwrthryfelgar yn ymgynnull eu lluoedd yng Nghastell Bracepeth
- Meddiannu Durham ar ddiwedd Tachwedd 1569. Wnaethon nhw adfer yr Offerenc Gatholig yn Eglwys Gadeiriol Durham, gan nodi’r hyn a fwriadwyd ganddynt fel dychweliad symbolaidd o Gatholigaeth
- Diddymu’r gwrthryfel yng nghanol mis Tachwedd - Gwrthryfel yn dechrau ymbafalu yn wyneb lluoedd y Frenhines Elisabeth