Hanes Cymru Flashcards
Deddfau Penyd
Deddfau oedd yn cosbi’r pobl oedd yn rhan o’r gwrthryfeloedd
Arddel
Byddin preifat yn y Gororau oedd yn helpu arglwyddi gyda phwer
Commortha
Treth a godwyd yn y Gororau i atal achosion llys rhag cael eu cynnal h.y. troseddwyr go iawn yn cael eu hamddiffyn
Cyfran
Cyfraith Cymreig. Y drefn (rhan o gyfreithiau Hywel Dda) o etifeddu, sef rhannu tir rhwng y meibion i gyd
Y Mab Darogan
Y syniad bod person rhywbryd am adfer balchder Cymru a chodi statws y genedl
Pam bod pobl yn meddwl bod Harri VII yn fab darogan?
- Oedd o’n Gymro
- Enw ei fab - Arthur
- Cyflogi pobl Cymreig e.e. Rhys ap Thomas
- Llythyrau dinasyddiaeth - rhyddhau unigolion o’r Deddfau Penyd
Pam nad oedd y wlad yn bwysig iddo?
- Ceisio sefydlu ei hun yn bwysicach
- Heb dreulio llawer o amser yng Nghymru
- Heb geisio moderneiddio’r wlad
- Defnyddio Cymru er lles ei hun
Pam cyflwyno’r Deddfau Uno?
- Tueddol o ddigwydd - Lloegr yn rheoli Cymru yn barod ers 1282, Dim ond yn gwneud o’n fwy ffurfiol, telerau’r Deddfau Uno yn digwydd yn barod
- Ystyriaethau diogelwch - Llawer o wrthryfeloedd yn codi ar y pryd e.e. gwrthryfel Rhys ap Gruffydd
- Dylanwad Thomas Cromwell a’i gred mewn sofraniaeth cenedlaethol, y Gororau gyda chyfreithiau gwahanol
- Er mwyn bodloni’r Cymry
Pwy oedd Rowland Lee?
- Llywydd Cyngor Cymru a’r Gororau
- Dim yn hoff o’r Cymry
- Gweithio gyda Thomas Cromwell i baratoi ar gyfer y Deddfau Uno
Beth wnaeth Rowland Lee?
- Diddymu arferion fel arddel a chommortha
- Targedu llysoedd y Gororau er mwyn sicrhau gwell cyfiawnder
- Trosglwyddo troseddwyr i siroedd cyfagos yn Lloegr er mwyn iddynt wynebu prawf a chosb
- Cosbi troseddwyr yn gyhoeddus e.e. crogi
- Gosod cyrffywiau er mwyn lleihau troseddu e.e. Mor Hafren
Telerau’r Deddf Uno Cyntaf 1536
- Diddymu arglwyddiaethau’r Mers a chreu 7 sir newydd. Tywysogaeth hefyd wedi cael ei ddiddymu ond oedd y 5 sir yn parhau
- Saesneg yn troi i fod yn iaith swyddogol Cymru - iaith y gyfraith a’r llywodraeth
- Cymru yn derbyn Aelodau Seneddol am y tro cyntaf
- Diddymu’r Deddfau Penyd yn ffurfiol
- Mabwysiadu cyfreithiau Lloegr a chael gwared o hen gyfreithiau Cymreig - pawb yn dilyn yr un gyfraith
- Cyflwyno’r swydd o Ynadon Heddwch i bob sir - cyfrifol am lywodraeth lleol
Telerau’r Ail Ddeddf Uno 1543
- Cydnabyddiaeth statudol o Gyngor Cymru a’r Gororau - cyfarfod yn Llwydlo
- Sefydlu trefn llysoedd newydd - Llysoedd y Sesiwn Fawr oedd yn ymweld bob sir dwy waith y flwyddyn
Effeithiau da y Deddfau Uno
- Gwella cyfraith a threfn - derbyn Aelodau Seneddol
- Cael gwared ar y Deddfau Penyd
- Llais yn y Senedd, dal hyd at heddiw
- Ynadon Heddwch
- Manteision economaidd - buddsoddi, llai o lygredd gan arglwyddi’r Mers
Effeithiau drwg y Deddfau Uno
- Niweidio iaith a diwylliant Cymru - Saesneg yn troi i fod yn iaith swyddogol, colli ein hunaniaeth
- Gwneud Cymru’n fwy atebol i’r deddfau sy’n cael ei basio
- Gwahanu cymdeithas - y bonedd a’r gwerinwyr
Nodweddion o “newid” - Deddfau Uno
- Cymru wedi newid wrth i siroedd newydd cael eu creu - Mers ddim yn bodoli bellach
- Cymru yn derbyn Aelodau Seneddol
- Ynadon Heddwch yn cael eu ychwanegu i’r llywodraeth lleol
- Sefydlu trefn llysoedd newydd - Llysoedd y Sesiwn Fawr