Glas - Bryan Martin Davies Flashcards
Eisteddem ar y twyod twym yn yfed y glesni Ein llygaid newynog yn syllu' awchus ar ffwrdd y môr Dilynem dartiau gwyn y gwylain aflonydd yn trywanu targed y creigiau
A sbiem yn syn a'r llongau banana melyn o'r Gorllewin a sglefrai'n ara dros y gwydr glas a gorffwys dan y craeniau tal a grafai'r wybren glir uwchben Glandwr
Pan oedd sadyrnau'n las A môr Abertawe'n rhowlio chwethin Ar y traeth Roedd cychod a chestyll a chloc o flodau Yn llanw'r diwrnod
A gyda lwc ymdeithiem yn y pensil coch o drên
a farciau hanner cylch ei drac
Rownd rhimyn glas y bae
i bwynt y Mwmbwls
Rhain oedd Sadyrnau’r syndod
Y dyddiau glas
A ninnau’n ffoaduriaid undydd, brwd
Yn blasu’n rhyddid bur
O ddyfryn du
Totalitaliaeth glo
Mesur - penrhydd
Dim cynghanedd
Dim nifer o sillau
Dim nifer o llinellau ymhob pennill
Dim patrwm odli
Cynnwys
Atgodion y bardd am sawl sadwrn yn ystod ei blentyndod a bydd yn dianc o fywyd tywyll yn ardal Brynyman i fynd i’r traeth y Mwmbwls. Symboleiddi’r yr hapusrwydd yn y gerdd hon a’r gai “glas” a’r tristwch gyda’r gair “ddu”
Cynnwys (1)
Yn y pennill cyntaf mae’n sôn am y daith i lawr i “bwynt y mwmbwls” pan oedd “sadyrnau’n las” Wrth deithio yn y “pensil coch o drên” mae’n gweld tonnau’r môr yn torri ar y traeth sef y “môr yn Abertawe’n rhowlio chwerthin” ac yn pasio nifer o bethau a gysylltir ar threfi glan-y-môr fel y “cychod a chestyll a chloc o flodau”
Cynnwys (2)
Yn yr ail bennill mae e wedi cyrraedd y traeth ac mae’n eistedd ar y “tywod twym yn yfed y glesni” ac yn edrych â’i llygaid yn syn ar y lliwiau gwahanol sydd o’i flaen. Mae’n gwylio “dartiau gwyn y gwylain aflonydd” sef y gwylanod yn saethu drwy’r awyr ac yn anelu am y creigiau, a’r “llongau banana melyn o’r gorllewin” sef y llongau cargo mawr oedd yn sglefrio’n llyfn “dros y gwydr glas” cyn angori o dan y craeniau tal uchel yng Nghlandŵr.
Cynnwys (3)
A’r dechrau y pennill olaf mae’r bardd yn dangos ei fod yn mwynhau’r Sadyrnau hyn drwy gyfeirio atynt fel “sadyrnau’r syndod, y dyddiau glas”
Cynnwys (4)
Fodd bynnag ceir gwrthgyferbyniad yn y llinellau olaf wrth i’r bardd sylweddoli mai rhywbeth byr oedd yr hapusrwydd. Rhywbeth oedd ond yn para am ddiwrnod yn unig -“ffoaduriaid undydd brwd” , cael dianc am ddim ond undydd ac wedyn mae rhaid iddynt dychwelyd ardref i’r ardal ble mae’r glo yn rheoli sef y “dyffryn du” - “totalitaliaeth glo”
Symboliaeth lliw - pan oedd sadyrnau’n las” ac “o ddyfryn du”
Mae’r gerdd yn dibynnu ar gyferbyniad rhwng ddau lliw - glas a du. Mae’r lliw glas yn cynrychioli hapusrwydd yn blentyndod y bardd ar y dyddiau sadwrn ar lan y môr yn y Mwmbwls “pan oedd sadyrnau’n las” gyda harddwch y môr a’r awyr yn denu ei lygaid. Mae’r lliw du yn cynrychioli ardal carftef y bardd ym Mrynaman “totaliaeth glo” a chysylltir y lliw du gydag anonaith a thristwch. Caethiwed yw’r pyllau glo i Bryan Martin davies on ar y “dyddiau glas” câi brofi rhyddid, mwynhau ei hun, gweld pethau hardd a lliwgar. Yn ystod dyddiau y “dyffryn du” y pwll glo oedd y meistr a bob agwedd o fywyd.
Trosiad - “pensil coch o drên”
Mae’r bardd yn galw’r tren roedd yn teithio ynddi i “bwynt y mwmbwls” am nifer o rhesymau gwahanol, yn gyntaf mae pensil yn hir ac gyda pwynt miniog ar y blaen. Mae hyn yn debyg i siâp tren ond cofiwn hefyd fod pensil yn teithio drwy dau llinell ar bapur fel y mae thren yn cledru ar traciau “a farciau hanner cylch ei drac” . Yn ogystal mae gan bensil coch arwyddacâd arall i blentyn gan byddai wedi ei arfer gweld ei artho/athrawes yn ei defnyddio yn marcio ei gwaith gyda pensil coch.
Cyflythrennu - “roedd cychod a chestyll a chloc o flodau yn llanw’r diwrnod”
Yma ailadrodd y gystsain galed “ch” er mwyn rhoi rhythm sionc, ysgafn a chwareus i’r llinellau. Llwydda’r bardd i gyfleu ei hapusrwydd fel plentyn ar dyddiau arbennig yma wrth iddo gynhyrfu wrth weld cymaint o bethau newydd a gwahanol. Mae’n adleisio sŵn trên mae’n teithio arno ar y pryd yn ogystal.
Personoli - “A môr Abertawe’n rhowlio chwethin
Ar y traeth”
Mae’r engraifft hwn o bersonoli yn disgrifio’r tonnau n torri ar y traeth. Wrth i’r tonnau gyrraedd y lan mae’nt yn rhowlio ond i’r plentyn bach yn y gerdd mae’r gair “rowlio” yn rhan o’r idiom “rowlio chwerthin”. Gan ei fod ef mor hapus ar y diwrnodau cynhyrfus yma mae’n credu bod yr amgylchedd o’i gwmpas hefyd yr un mor hapus a hwyliog.
Neges
Mae’r cyfnodau byr mewn bywyd yw’r rhai arbennig cofiadwy, yng nhganol dyddiau digon diflas weithiau. Rhain yw’r dyddiau sy’n aros yn cof, er mor fyr ydyny. “Pan oedd safyrnau’n las”. Wedi pleser penwythnos neu fwyniamt wyth os o wyliau dychwelid i ysgol a gwaith cartref sydd rhaid i ddisgbl ysgol. “i dyffryn du totalitariaeth glo”. Y dyddiau gwahanol yw’r rhai a gofir. Mae hapusrwydd y bardd i’w weld yn glir yn y gerdd ar y dyddiau yna. Mae ei hapusrwydd hyd yn oed yn goferu i’r pethau sydd o’i gwmpas. Harddwch brydfrydeds a mwynhad a welir ar “sadyrnau’r syndod, y dyddiau glas”. Ond ceir sylweddoliad ganddo mai dychwelyd fydd rhaid i ormes tywyllwch a düwch pyllau glo.