Dangosaf I Ti Lendid - Dafydd Rowlands Flashcards
Dangosaf iti’r perthi tew
ar bwys ffarm Ifan a’r ficerdy llwyd,
Lle mae’r mwyar yn lleng
a chnau y gastanwydden yn llonydd ar y llawr;
Dangosaf iti llusi’n drwch
Ar dwmpathau mân y mwsog ar y mynydd;
Dere fy mab i weld rhesymau dy genhedlu, a deall paham y digwyddaist Dangosaf iti lendid yr anadl sydd ynot dangosaf iti'r byd sy'n erwau drud rhwng dy draed
Dere fy mab, Dangosaf iti'r defaid sy'n cadw, mewn cusanau, y Gwryd yn gymen, y fuwch a'r llo yng Nghefen Llan, bysedd y cŵn a chlychau'r gog a llaeth-y-gaseg ar glawdd yn Rhyd-y-fro
dangosaf iti’r broga
yn lleithder y gwyll,
ac olion y gwaith dan y gwair
dangosaf iti’r broga
tŷ lle ganed Gwenallt
Dere, fy mab
yn llaw dy dad,
a dangosaf iti’r glendid
sydd yn llygaid dy fam
Dere, fy mab
yn llaw dy dad,
a dangosaf iti’r glendid
sydd yn llygaid dy fam
Bardd
Dafydd Rowlands
Mesur -Penrhydd
Cynnwys
Drwy’r gerdd hon mae’r bardd yn siarad gyda’i fab ac yn ei arwain drwy ardal Pontardawe i geisio ei addysg am yr hyn sy’n bwysig gan y tad a’r hyn sydd wedi ffurfio a siapio ei bersonoliaeth. Mae’n cyflwyno ei wreiddiau ac yn ceisio esbonio ei hunaniaeth arbennig ei hun iddo.
Cynnwys (1)
Yn y penill cyntaf mae’n dangos ei awydd i gael rhannu (gyda’i fab) ei etifeddiaeth deuol-
“Dere fy mab,
I weld rhesymau dy genhedlu
A deall pam y digwyddaist”
Mae’n galw lleoedd arwyddocaol i’r teulu yn fyd “sy’n erwau drud rhwng dy draed” gan eu bod nhw’n llefydd pwysig
Cynnwys (2)
Yn yr ail bennill mae’n enwi’r llefydd o orffenol ei ieuenctid yn nghefn gwlad -
“Dangosaf iti’r defaid
Sy’n cadw, mewn cusanau, y Gwryd yn gymen”
Sy’n awgrymu bod y defaid yn cusanu’r gwair wrth ei fwyta ac hefyd yn rhestru’r blodau gwyllt sy’n tyfu yng nghynefin ei blentyndod - “bysedd-y-cŵn a clychau’r gog a llaeth-y-gaseg” er mwyn i’r mab ddysgu eu henwi a’u hadnabod
Cynnwys (3)
Yn y trydydd pennill mae’n cyfeirio at ei ryfeddod yn blentyn yn creu chwiban o “frigau’r syncamorwydd mawr”, yn “chwilio nythod” ac yn “nofio’n noeth yn yr afon” - profiad syml mae’n eu cyfri’n arbennig i’w fagwraeth ef a phrofiadau y mae am eu rhannu â’i fab er mwyn cyfoethogin ei blentyndod yntau.
Cynnwys (4)
Mae’n cofio casglu ffrwythau gwyllt o’r “perthi tew” sef mwyar duon a “chnau y gastanwydden” a hefyd y “llusi’n drwch ar dwmparthau mân y mwsog ar y mynydd” Mae hefyd yn cofio gweld “broga yn lleithder y gwyll”
Cynnwys (5)
Ond nid dim ond dylanwad byd natur a’i gyfoeth sydd wedi ffurfio a bersonoliaeth drwy’i blentyndod - mae’n dylawad diwydiant yr ardal wedi greu argraff arno wrth iddo gyfeirio at “olion y gwaith yn y gwair” sef olion cloddio y gwaith glo, haearn a thun yn ardal Pontardawe. Hefyd mae cyfoeth barddonol a diwylliannol yr un mor bwysig ganddo ac mae’n addo i’w fab - “Dangosaf iti’r tŷ lle ganed Gwenallt” bardd a oedd un arwyr mawr Dafydd Rowlands.
Cynnwys (6)
Mae’r clo’r gerdd yn cysylltu â’i hagoriad wrth i’r tad geisio cyfleu ei gariad at ei wraig, sef rheswm pam y cenhedlwyd y mab yn lle cyntaf -
“Dangosaf iti’r glendid
Sydd yn llygaid glas dy fam”
Cynnwys (7)
Mae’r glendid hwm yn symbol o’u cariad, o gariad y tad at y fam ac o gariad y tad at y mab. Wrth annog y mab i gael ei hebrwng “yn llaw dy dad” mae’n mynd ar daith trwy orffenol a dyfodolei etifeddiaeth a’r gobaith yw y bydd y mab yn gwerthfawrogi ei hunaniaeth a’i drosglwyddo maes o law i’w blant yntau.
Bardd yn siarad i’w fab ac yn ei chymryd ar taith drwy ardal Pontardawe
Geisio addysgu am yr hyn sy’n pwysig iddo a beth sydd wedi ei siapio
Cyflwyno ei wreiddiau a esbonio ei hunaniaeth arbennig
Pennill 1- bardd yn dangos ei awydd i rhannu ei hetifeddiaeth a’i fab
*************
“Dere fy mab,
i weld rhesymau dy genhedlu
a deall pam digwyddaist”
*****************
Galw lleoedd arwyddacol i’r teulu yn fyd “sy’n erwau drud rhwng dy draed” gan eu bod nhw llefydd pwysig