11.12.82 - Iwan Lloyd Flashcards
1) Daeth saith canrif ynghyd
Yn oerfel cilimeri
A’r dail yn diferu atgofion
Saith canrif o sôn
Am orchestrion hen oesau,
A’r dydd yn gymylau gwelwon:
Bardd
Iwan Lloyd
3) Saith canrif o seffyll
Ar erchwyn y dibyn
A’n traed bron fferru’n eu hunfan
Saith canrif o gyfri’r
Colledion yn dawel
Ac edrych i’r horwel yn ddistaw:
5) Aeth saith canrif yn ddistaw
ger carreg Cilmeri
A’r awel ar rewi llif Irfon
..yna bloeddiodd y baban
A thoddi’r gaerfdydd
A chwalu’r distawrwydd
A her canrif newydd yn nychryn ei waedd
Cynnwys : Cynhaliwyd cyfrarfod coffa ar Ragfyr 11eg,1982 wrth y gofeb yng Nghilmeri, i gofio’r saith can mlynedd ers marwolaeth Llywelyn Ein Llyw Olaf. Llywelyn ap Gruffydd oedd tywysog olaf Cymru.
Fin nos ger Pont Irfon lladdwyd ef gan Edward ( I ) brenin Lloegr, saith can mlynedd ynghynt. Gwaeddodd Llywelyn i farwolaeth a danfonwyd ei ben i Lundain i’w chario ar bicell o gwmpas y ddinas.
Dechreua’r penill cyntaf trwy dweud bod “saith canrif” wedi bod ers marwolaeth Llywelyn. Clywn ei bod hi’n diwrnod oer iawn ar ddiwrnod y cyfarfod coffa “daeth saith canrif ynghyd yr oerfel Cilmeri”
Ar y dydd roedd hyd yn oed dail fel pe baent yn galaru a cholli dagrau - “a’r dail yn diferu’n atgofion”
Mae byd natur yn gefndir i’r gerdd ac yn adlewyrchu teimladau’r bardd am y sefyllfa.
Mae’r ail bennill yn dweud ein bod ni wedi bod yn edrych yn ôl yn hiraethus ar ein gorffenol
“Saith canrif o sôn
Am orchestion hen oesau”
Dywedir yn y trydydd penill ein bod wedi “sefyll ar erchwyn y dibyn” am saith canrif, hy ein bod ni mewn perygl o golli ein hiaith,ein hunaniaeth a’n diwylliant.
Mae hi mor oer o gwmpas y garreg goffa nes bod y gunulleidfa â’u “traed bron fferru’n eu hunfan” Awgryma hyn hefyd ein bod fel cenedl wedi’n parlysu, yn methu symud ac yn gwneud dim i achub sefyllfa Cymru.
Dywedir yn y pedwerydd pennill ein fod ni’n cenedl freuddwydiol, ydym yn “cyfri’r colledionnyn dawel” sef meddwl am bobl y gorffenol a’n bod ni hefyd yn “edrych i’r gorwel yn ddistaw” Fel petai’n aros a disgwyl i rywun ddod i achub ein cenedl a’n gwlad.
Ac mae’r llinellau pennill sy’n dweud bod yr “awel ar rewi llif Irfon” yn awgrymu ei bod hi bron ar ben arnom ni av mae prin yw’r amser sydd gennym i newid ein hamgylchiad
Ceir newid yn y gerdd yn y pennill olaf. Yng nghanol distawrwydd y cyfarfod “bloeddiodd y baban” ac mae’n llwyddo i “toddi’rbgaeadddydd a chwalu’r distawrwydd”
Mae’r bardd yn defnyddio’r babi fel symbol o “her canrif newydd, a’r neges yw mai’r to ifanc yw ein dyfodol a’r gobaith yw y byddant hwy yn codi eu lleisiau i newid y drefn.