2.4 Addasiadau Ar Gyfer Maethiad Flashcards

1
Q

Disgrifiwch yr hyn sy’n digwydd yn y ceudod bochaidd

A
  • Treuliad mechanyddol yn cychwyn yn y fan yma
  • Cymysgir bwyd â salifa gan y tafod a’i cnoi gan y dannedd
  • Cynyddir arwynebedd arwyneb y bwyd gan roi mwy o fynediad i ensymau
  • Mae salifa’n cynnwys:
    Amylas (dechrau newid starts i faltos
    Ionau HCO3- a CO3,2-, felly mae pH y ceg yn ychydig alcalïaidd sef pH optimwm amylas
  • Mwcws sy’n iro’r bwyd lawr yr oesoffagws
How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
2
Q

Enwch ddwy brif rhan y coluddyn bach

A

Ilewm a’r dwodenwm

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
3
Q

Disgrifiwch swyddogaeth yr hylif pancreatig. Enwch yr holl ensymau/hylifau sy’n cysylltiedig â’r secretiad pancreatig ynghyd a’i gweithrediad

A

Ensymau;
Endopeptidasau - Hydrolysu protein i beptidau
Trypsinogen - Ensym anactif yn cael ei trosi i broteas trypsin gan enterocinas
Enterocinas - Trosi trypsinigen i drypsin
Amylas - Treulio unrhyw starts dros ben i faltos
Lipas - Hydrolysu lipidau i asidau brasterog a glyserol

Mae’n secretu sodiwm hydrogen carbonad sy’n cynyddu pH i greu hylifau ychydig yn alcalïaidd ac yn cynorthwyo i niwtralu asid o’r stwmog a darparu pH optimwm i’r ensymau gweithredu

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
4
Q

Disgrifiwch yr hyn sy’n digwydd yn yr ilewm. Disgrifiwch rôl yr endopeptidasau ac ecsopeptidasau

A

Caiff y bwyd o’r stwmog ei iro gan fwcws a’i niwtralu gan secretiad alcalïaidd a o’r celloedd ar waelod pantiau Lieberkuhn o’r enw chwarrenau Brunner

  • Secretir Endopeptidasau ac ecsopeptidasau ar ben filysau i fewn i lwmen y coludd ac yn barhau’r treuliad i bolypeptidau
  • Treulir seupeptidau i asidau amino gan ensymau ar gellbilenni y celloedd epitheiliadd
  • Amsugnir deusacaridau i gelloedd epitheliaidd y filysau lle treulir i fonosacaridau
How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
5
Q

Disgrifiwch addasiadau’r filysau a sut ydynt yn cynorthwyo gydag amsugniad

A
  • Hir iawn - 6m
  • Pilen wedi plygu
  • Ar arwyneb y plygiadau yma yw’r filysau a mae gan ri celloedd epitheliaidd ymestyniadau microsgopig o’r enw microfilysau
  • Mae hyn yn achosi arwynebedd arwyneb mawr
  • Disgwyddir adamsugniad gan drylediad a chludiant actif ac felly mae nifer o fitocondria i ddarparu ATP
How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
6
Q

Disgrifiwch beth sy’n digwydd i asidau amino yn y broses amsugniad

A

Caiff asidau amino ei amsugno i’r celloedd epitheliaidd gan gludiant actif fel asidau amino unigol. Yna maent yn pasio i’r capilariau gan drylediad cynorthwyedig. Maent yn hydawdd ac felly’n hydoddi yn y plasma

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
7
Q

Disgrifiwch yr hyn sy’n digwydd yn y coluddyn mawr

A
  • Tua 1.5m o hyd ac yn cynnwys caecwm, yr apendics, y colon a’r rectwm
  • Trosglwyddir bwyd, mwcws, bacteria a chelloedd marw i’r colon
  • Gan wal y colon llai o filysau na’r iliewm ac mae ganddynt rol mawr yn ystod amsugno dwr
How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
8
Q

Disgrifiwch beth sy’n digwydd i Fitanin K, asid folig, dwr ac ymgarthion yn y coluddyn mawr

A

Fitamin K, asid folig - eu secretu gan ficro-organebau cilyddol sy’n bwrw yna a chaiff mineralau ei amsugno o’r coluddyn
Dwr - Caiff ei amsugno yma ac erbyn i’r cynnwys cyrraedd y rectwm mae’n eithaf soled
Ymgarthion - caiff ei hysgartnu trwy’r anws

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
9
Q

Disgrifiwch yr hyn sy’n digwyddi glwcos yn y broses amsugniad

A
  • caiff ei basio i’r celloedd epitheliaidd âg ionau sodiwm gan “co-transport”
  • Maent yn symud i’r capilariau, sodiwm gan gludiant actif a glwcos gan drylediad cynorthwyedig, ac yn hydoddi yn y plasma
  • Mae’r broses yn araf a ni chaiff yr holl glwcos ei amsugno. Er mwyn rhwystro’r siwgr rhag adael yn y carthion, caiff rhai ei hamsugno gan gludiant actif
How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
10
Q

Disgrifiwch yr hyn sy’n digwydd i fraster yn ystod amsugniad

A

Mae asidau brasterog a glyserol yn tryledu i’r celloedd epitheliaidd a’r lacteal
Mae’r lacteal yn rhan o’r system lymffatig, sy’n trosglwyddo molecylau hydawdd-brasterog i wythien ger y galon

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
11
Q

Disgrifiwch yr hyn sy’n digwydd i fineralau yn ystod amsugniad

A
  • Amsugnir trwy drylediad, trylediad cynorthwyedig a chludiant actif
  • Mae fitaminau B a C yn dwr-hydawdd a chaiff ei amsugno i’r gwaed
  • Mae fitaminau A, D ac E yn frasterog-hydawdd ac felly amsugnir i’r lacteal
  • Amsugnir dwr i’r celloedd epitheliaidd yn yr ilewm ac i’r capilariau trwy osmosis
How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
12
Q

Disgrifiwch yr hyn sy’n digwydd i’r faetholynnau ar ol iddynt gael ei hamsugno

A
  • Lipidau - defnyddio yn y pilenni i greu rhai hormonau ond fe stroir gormodedd
  • Trosglwyddir y gweddill i’r afu trwy’r gwythien bortal hepatig
    1) Cymerir glwcos i’r celloedd a defnyddir i resbiradu ac yna ei storio fel glycogen. Storir gormodedd frl braster
    2) Defnyddir asidau amino ar gyfer synthesis protein. Methu storio gormodedd felly mae’r afu yn dadamineiddio’r asidau amino gan newid NH2 i wrea a chaiff ei ysgarthu. Storir y gweddillion ar ffurf braster
How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
13
Q

Disgrifiwch rol yr oesoffagws

A

Dim o fewn treuliad ond i gludo bwyd i’r stwmog. Arddangos haenau’r meinwe yn ei ffurf symlaf

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
14
Q

Disgrifiwch sut mae bwyd yn aros yn y stwmog, faint o fwyd a allai fod yno a ddisgrifiwch sut gymysgir y bwyd yn y stwmog

A
  • Bwyd yn cyrraedd ac yn aros yna achos cyfangiad 2 sffincter (Cylchoedd o gyhyrau)
  • Gyda chyfaint o 2dm3 a gall bwyd aros yna am nifer o oriau
  • Cyhryau’r stwmog yn cyfangu’n rhythmig gan secretu gan waliau’r stwmog
How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
15
Q

Disgrifiwch gynhwysion y sudd gastrig a rol pob un ohonynt

A

Peptidasau - Secretu gan symogen ar waelod y pantiau gastrig
Secretir pepsinogen o’r celloedd peptig (ensym anactif) a chaiff ei actifadu gan ïonau H+ (asid hydroclorig) i pepsin sy’n endopeptidas sy’n hydrolysu protein i bolypeptidau
Secretir asid hydroclorig gan gelloedd ocsintig. Mae’n lleihau pH y stwmog i pH2 (pH optimwm ensymau’r stwmog) ac yn lladd bacteria yn y fwyd
Mwcws a secretir gan gelloedd gobled ar dop y pantiau gastrig. Mwcws yn ffurfiau leinin sy’n amddiffyn wal y stwmog o ensymau ac yn iro’r bwyd

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
16
Q

Diffiniwch awtotroffig

A

Gwneud ei bwyd organig ei hun o ddefnyddiau crai anorganig syml

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
17
Q

Diffiniwch ffotoawtotroffig

A

Dull awtotroffig ble mae organeb yn defnyddio egni golau i gyflawni ffotosynthesis. Enghreifftiau megis planhigion gwyrdd, proctista a rhai bacteria

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
18
Q

Diffiniwch gemoawtotroffig

A

Dull awtotroffig ble mae’r organeb yn defnyddio egni o adweithiau cemegol. Enghreifftiau meigs procaryotau

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
19
Q

Diffiniwch heterotroffig

A

Bwyta molecylau organig cymhleth sydd wedi’u cynhyrchu gan awtrotroffau

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
20
Q

Diffiniwch saprotroffig

A

Dull awtotroffig ble mae organeb yn bwydo ar ddeunydd sydd wedi marw neu’n pydru drwy secretu ensymau yn allgellog ac yna amsugno’r cynhyrchion, e.e. Rhizopus

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
21
Q

Diffiniwch barasitig

A

Dull heterotroffig ble mae organeb yn cael maeth gan organeb fyw arall, sef yr organeb lletyol, gan achos niwed iddo. Mae endoparasitiaid yn byw tu fewn i gorff organeb letyol e.e. Y llyngyren. Mae ectoparasitiaid yn byw ar yr arwybeb megis y lleuen ben ddynol

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
22
Q

Diffiniwch holosöig

A

Dull heterotroffig ble mae’r organeb yn cael math o faethiad sy’n cael ei ddefnyddio gan y rhan fwyaf o anifeiliaid sy’n amlyncu bwyd ac yna’n ei dreulio, gan amsugno maetholion. Mae ganddynt system dreulio arbenigol. Enghreifftiau megis llysysyddion, cigysyddion, hollysyddion a detritysyddion (deunydd meirw neu wedi pydru)

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
23
Q

Disgirifiwch sut mae organebau ungellog yn prosesu maetholion

A

Trwy eu cellbilen drwy gyfrwng trylediad, gan amsugno molecylau mawr drwy gyfrwng endocytosis a hylifau drwy gyfrwng pinocytosis i mewn i wagolynnau bwyd.

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
24
Q

Disgirifiwch sut mae organebau amlgellog yn prosesu maetholion

A

Mae ensymau proteas a lipas yn treulio’r bwyd, mae’r cynhyrchion yn cael eu hamsugno ac mae’r gweddillion yn cael eu carthu. Datblygont organebau mwy datblygiedig goludd tiwb, ac mae’n nhw’n amlyncu yn un pen ac yn carthu yn y pen arall

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
25
Q

Diffiniwch beristalsis

A

Y don gyd-drefnol o gyfangu a llaesu cyhyrau llyfn yn y coludd

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
26
Q

Diffiniwch hydrolysis

A

Adwaith sy’n adio dŵr yn gemegol i dorri’r bond sy’n ffurfio mewn adwaith cyddwyso

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
27
Q

Disgrifiwich sut mae gwahanol rannau o’r coludd wedi arbenigo i gyflawni pedair prif swyddogaeth;

1) Amlyncu
2) Treulio
3) Amsugno
4) Carthu

A

1) Cymryd bwyd i mewn i’r corff drwy’r geg i ddo ag ef i gysylltiad â’r arwyneb treulio
2) Yn achosi hydrolysu molecylau biolegol mawr i ffurfio molecylau llai sy’n gallu cael eu hamsugno ar draws cellbilenni. Mae treulio’n dechrau â threulio mecanyddol yn y geg gan ddefnyddio’r dannedd, sy’n torri darnau mawr o fwyd yn ddarnau llai. Yna, mae ensymau yn cwblhau’r broses o dreulio
3) Molecylau maetholion yn mynd drwy wal y coludd i’r gwaed
4) Cael gwared ar ddefnydd heb ei dreulio megis ffibrau cellwlos

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
28
Q

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng ‘Ysgarthu’ ac ‘Carthu’?

A

Carthu yw cael gwared ar fwyd heb ei dreulio yn yr ymgarthion. Ysgarthu yw cael gwared ar wastraff sydd wedi’i wneud yn y corff megis wrea a CO2

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
29
Q

Enwch a disgrifiwch swyddogaeth pedwar haen wal y coludd

A

Serosa - Yr haen allanol sy’n cynnwys meinwe gyswllt wydn, sy’n amddiffyn y coludd ac yn lleihau ffrithiant gydag organau eraill yr abdomen
Cyhyryn - Mae hwn yn cynnwys dwy haen: cyhyrau llyfn crwn a hydredol sy’n cyfangu mewn modd cyd-drefnol i wthio bwyd ymlaen drwy gyfrwng peristalsis
Is-fwcosa - Meinwe gyswllt sy’n cynnwys pibellau gwaed a lymff i gludo cynhyrchion treuliad wedi’u hamsugno oddi yno. Mae nerfau’n bresennol hefyd i gyd-drefnu cyfangiadau cyhyrau
Mwcosa - Yr haen fewnol sy’n leinio’r coludd; mae’n secretu mwcws (iro ac amddiffyn rhag ensymau). Gan ddibynnu ar y rhan, mae’n secretu ensymau ac yn amsugno bwyd a maetholion wedi’u treulio

30
Q

Disgrifiwch y broses o dreulio carbohydradau

A
  • Mae amylas yn hydrolysu startsh i ffurfio maltos, ac yna mae maltas yn hydrolysu maltos i ffurfio glwcos
  • Mae swcras yn hydrolysu swcros i ffurfio glwcos a ffrwctos
  • Mae lactas yn hydrolysu lactos i ffurfio glwcos a galactos
31
Q

Disgrifiwch y broses o dreulio proteinau

A

Caiff proteinau eu treulio i ffurfio polypeptidau, yna deupeptidau, ac yn olaf asidau amino. Peptidasau yw’r ensymau sy’n gwneud hyn, ac maen nhw wedi’u henwi yn unol â ble maen nhw’n torri bondiau peptid

32
Q

Disgrifiwch y broses o dreulio brasterau

A

Mae brasterau yn cael eu hemwlsio gan fustl ac yna eu hydrolysu i ffurfio asidau brasterog a glyserol

33
Q

Gwir neu gau; nid ensym yw bustl

A

Gwir

34
Q

Pam mae amylas wedi cael ei enwi fel y mae?

A

Am ei fod yn torri’r bondiau glycosidig mewn amylos ac amylopectin

35
Q

Diffiniwch emwlsio

A

Torri defnynnau braster mawr yn ddefnynnau llai, sy’n cynyddu’r arwynebedd arwyneb sydd ar gael i lipas weithredu arno

36
Q

Diffiniwch gydgludiant

A

Cludo dau foleciwl gwahanol gyda’i gilydd

37
Q

Beth yw’r gair biolegol am y geg?

A

Ceudod bochaidd

38
Q

Disgrifiwch arbenigedd y ceudod bochaidd yn ystod treuliad mewn mamolyn

A

Dyma lle mae treulio’n dechrau. Mae’r dannedd yn treulio bwyd yn fecanyddol ac mae’r dafod yn ei gymysgu â phoer ac yn ei rolio’n folws i’w lyncu. Mae’r poer yn cynnwys yr ensym amylas, a mwcws sy’n iro’r bwyd. Yr ensym amylas sy’n dechrau’r broses o dreulio startsh

39
Q

Disgrifiwch arbenigedd yr oesoffagws yn ystod treuliad mewn mamolyn

A

Mae cyhyrau’r oesoffagws yn cyfangu i symud y bwyd tuag at y stwmog drwy gyfrwng peristalsis

40
Q

Disgrifiwch arbenigedd y stwmog yn ystod treuliad mewn mamolyn

A

Mae cyhyrau waliau’r stwmog a sudd gastrig, sy’n cynnwys asid hydroclorig (o gelloedd ocsyntig yn y mân-bantiau gastrig) a phepsin, yn treulio’r bwyd am tua phedair awr. Mae pepsin yn endopeptidas sy’n cael ei secretu ar ffurf pepsinogen anactif, ac yn cael ei actifadu gan ïonau H+: mae hyn yn atal rhagdreulio. Mae’r pH asidog, tua 2, hefyd yn lladd bacteria. Mae celloedd gobled yn y mân-bantiau gastrig yn cynhyrchu mwcws, sy’n iro bwyd ac yn amddiffyn y leinin

41
Q

Disgrifiwch arbenigedd y bustl yn y dwodenwm yn ystod treuliad mewn mamolyn. Mae rhaid cynnwys;
Sudd pancreatig,
Dwythell pancreatig,
Ensymau penodol

A

Mae bustl, sy’n cynnwys halwynau bustl, yn niwtralu bwyd asidig o’r stwmog ac yn emwlsio brasterau. Mae sudd pancreatig ychydig bach yn alcalïaidd oherwydd presenoldeb sodiwm hydrogen carbonad ac mae’n cael ei secretu gan gelloedd ynysig yn y pancreas, ac yn mynd i mewn i’r dwodenwm drwy’r ddwythell bancreatig. Mae’n cynnwys endopeptidasau a thrypsinogen (sy’n anactif; mae enterocinas yn ei drawsnewid i ffurfio’r ffurf actif trypsin), amylas a lipas

42
Q

Disgrifiwch arbenigedd y chwarennau Brunner ystod treuliad mewn mamolyn. Mae rhaid cynnwys;
Filysau,
Ensymau penodol,
Celloedd epithelaidd

A

Mae chwarennau Brunner yng ngwaelod cryptau Lieberkühn yn cynhyrchu secretiadau alcalïaidd sydd hefyd yn niwtralu bwyd asidig o’r stwmog. Mae llawer o blygion ym mwcosa’r coluddyn bach, sy’n ffurfio filysau. Yn y dwodewm, mae celloedd ar flaenau’r filysau yn secretu endopeptidasau ac ecsopeptidasau, ac mae peptidasau, sydd wedi’u rhwymo wrth gelloedd epithelaidd, yn gorffen treulio peptidau i ffurfio asidau amino. Mae ensymau maltas, lactas a swcras sydd hefyd wedi’u rhwymo wrth y celloedd epithelaidd, yn cwblhau’r broses o dreulio carbohydradau

43
Q

Disgrifiwch arbenigedd yr ilewm yn ystod treuliad mewn mamolyn

A

Yr ilewm yw’r ail ran y coluddyn bach, ar ol y dwodenwm, ac mae’n gyfrifol am amsugno bwyd wedi’i dreulio. Mae filysau a microfilysau’n cynyddu arwynebedd arwyneb yr ilewm yn fawr (dros 600 gwaith) i amsugno maetholion drwy gyfrwng trylediad, trylediad cynorthwyedig, cydgludiant a chludiant actif.

44
Q

Disgrifiwch sut mae glwcos yn cael ei amsugno yn yr ilewm

A

Mae glwcos yn mynd i mewn i gelloedd epithelaidd drwy gyfrwng cydgludiant a chludiant actif ac yn mynd i mewn i gapilari’r filws drwy gyfrwng trylediad cynorthwyedig

45
Q

Disgrifiwch sut mae glyserol ac asidau brasterog yn cael eu hamsugno yn yr ilewm

A

Maent yn mynd i mewn i gelloedd epithelaidd drwy gyfrwng trylediad, ac yna maen nhw’n ailgyfuno i ffurfio triglyseridau ac yn mynd i mewn i lacteal y filws. Yn y celloedd epthelaidd hyn, mae reticwlwm endoplastig llyfn datblygiedig iawn yn cynorthwyo â’r broses hon

46
Q

Disgrifiwch sut mae dŵr yn cael ei amsugno yn yr ilewm

A

Trwy’r gyfrwng osmosis i mewn i gelloedd epithelaidd ac i gapilari’r filws

47
Q

Disgrifiwch sut mae fitaminau sy’n hydawdd mewn dwr a fitaminau sy’n hydawdd mewn braster yn cael eu hamsugno yn yr ilewm

A

Fitaminau hydawdd mewn dwr megis B a C yn cael eu hamsugno’n uniongylchol i’r gwaed, ac mae fitaminau hydawdd mewn braster megis A, D ac E yn cael eu hamsugno i’r lactealau drwy gyfrwng trylediad

48
Q

Disgrifiwch bwrpas y filysau bach sy’n bresennol yn y coluddyn mawr

A

Maent yn bresennol yn y pendics, caecwm, colon, rectwm ac anws a maent yn gyfrifol am amsugno dwr a ffurfio ymgarthion, sy’n cael eu storio yn y rectwm nes eu bod nhw’n cael eu carthu

49
Q

Enwch y bacteria sy’n bresennol yn y colon a ddisgrifiwch ei swyddogaeth

A

Bacteria cydymddibynnol sy’n gyfrifol am gynhyrchu fitamin K ac asid ffolig

50
Q

Disgrifiwch swyddogaeth y wythïen bortal hepatig

A

Yn cludo glwcos ac asidau amino i’r afu/iau, lle maen nhw’n cael eu prosesu

51
Q

Disgrifiwch swyddogaeth y lactealau yn y system dreulio

A

Yn draenio i’r system lymffatig sy’n draenio i mewn i’r gwaed drwy’r ddwythell thorasig yn y wythïen isglafiglaidd dde

52
Q

Diffiniwch ysgithrau

A

Gogilddannedd uchaf a childdannedd isaf sydd wedi’u haddasu mewn cigysyddion i weithio fel siswrn er mwyn rhwygo esgyrn a chnawd

53
Q

Disgrifiwch esblygiadau deintyddol cigysyddion

A

Maent wedi esblygu blaenddannedd miniog i rwygo cnawd, dannedd llygad pigfain i dyllu cnawd a lladd ysglyfaethau, a childdannedd arbenigol sef ysgithau, i dorri cnawd ac esgyrn.

54
Q

Disgrifiwch gyhyrau a choluddion cigysyddion

A

Mae ganddynt gyhyrau gên pwerus sy’n symud yr ên isaf yn fertigol i fyny ac i lawr, ac maen nhw’n gallu agor eu genau yn llydan i ddal anifeiliaid ysglyfaeth mawr. Mae eu coluddion yn gymharol fyr, oherwydd protein yw’r rhan fwyaf o’u deiet, ac mae hwn yn gymharol hawdd ei dreulio

55
Q

Disgrifiwch esblygiadau deintyddol llysysyddion

A

Mae ganddynt flaenddannedd a dannedd llygad sy’n torri drwy lystyfiant. Does gan rai llysysyddion ddim blaenddannedd yn yr ên uchaf; yn lle hynny, mae ganddynt bad cornaidd, ac mae’r dannedd isaf yn torri yn erbyn hwn. Mae bwlch, sef y diastema, yn galluogi’r anifail i gymysgu’r bwyd yn ystod y broses gnoi. Mae eu cilddannedd yn cydgloi ac mae’r rhain yn arw oherwydd yr ymylon enamel miniog sydd arnynt. Mae’r genau yn gallu symud o ochr i ochr i helpu i falu’r bwyd

56
Q

Beth yw’r anhawster wrth fwyta deiet llystyfol?

A

Cellwlos yw prif gydran cellfuriau mewn meinweoedd planhigol. Mae wedi’i wneud o ß-glwcos, ond mae’r molecylau hyn wedi’u trefnu mewn microffibrolion sy’n ei gwneud hi’n anodd iawn treulio cellwlos

57
Q

Disgrifiwch y gweithred sy’n digwydd yn y siambr gyntaf mewn anifeiliaid cnoi cil. Enwch y siambr

A

Yn gyntaf, mae’r anifail yn cnoi’r gwair i ffurfio bolws, sef y ‘cil’, sy’n cael ei lyncu ac yn mynd i’r rwmen lle mae’n cymysgu â bacteria cydymddibynnol sy’n treulio cellwlos ac yn cynhyrchu glwcos ohono. Mae’r bacteria yn resbiradu’r glwcos yn anaerobig gan gynhyrchu asidau organig, carbon deuocsid a methan fel cynhyrchion gwastraff

58
Q

Disgrifiwch sut mae cwningod yn treulio bwyd

A

Nid oes ganddynt rwmen. Yn lle, mae bacteria treulio cellwlos yn byw yn y caecwm a’r pendics. Felly, rhaid iddynt fwyta eu hymgarthion eto i amsugno cynhyrchion treulio cellwlos

59
Q

Disgrifiwch y gweithred sy’n digwydd yn yr ail siambr mewn anifeiliaid cnoi cil. Enwch y siambr

A

Mae’r gwair sydd ar ol yn mynd i’r reticwlwm lle mae’n cael ei ailffurfio mewn cil, sy’n cael ei ailchwydu a’i ailgnoi i gynyddu’r arwynebedd arwyneb i’r cellwlasau bacteria weithio arno, cyn cael ei lyncu eto

60
Q

Disgrifiwch y gweithred sy’n digwydd yn y trydydd siambr mewn anifeiliaid cnoi cil. Enwch y siambr

A

Mae’r cil yn symud i’r omaswm, lle caiff asidau organig eu hamsugno i’r gwaed

61
Q

Disgrifiwch y gweithred sy’n digwydd yn y pedwerydd siambr mewn anifeiliaid cnoi cil. Enwch y siambr

A

Yn olaf, mae’r defnydd yn symud i’r abomaswn lle mae asid yn lladd y bacteria ac mae pepsin yn dechrau treulio’r bacteria. Caiff dwr ei amsugno yn y coluddyn mawr mewn modd tebyg i fodau dynol

62
Q

Diffiniwch barasit

A

Organeb sy’n byw mewn organeb letyol (endoparasitiaid) neu arni (ectoparasitiaid) gan wneud niwed iddi

63
Q

Enwch y ddwy organeb letyol y llyngyren borc

A

Bodau dynol yw’r organ letyol gynradd (Lle mae atgenhedlu rhywiol yn digwydd) a moch yw’r organeb letyol eilaidd

64
Q

Disgrifiwch effaith os bydd bod dynol yn bwyta wyau’r parasit yn uniongylchol yn hytrach na bwyta cig wedi’i heintio

A

Mae codennau yn gallu ffurfio yn yr ymenydd, sy’n achosi cylfwr llawer mwy difrifol

65
Q

Disgrifiwch addasiadau’r llyngyren borc er mwyn goresgyn yr amgylchedd anghyfeillgar y tu mewn i system dreulio bodau dynol

A
  • Sugnolynau a bachau er mwyn glynu ar wal y coludd
  • Tenau a chymhareb arwynebedd arwyneb i gyfaint fawr er mwyn amsugno cymaint a phosibl o fwyd wedi’i dreulio
  • Cynhyrchu atalyddiol ensymau er mwyn atal ensymau’r organeb letyol rhag ei threulio hi
  • Cwtigl trwchus er mwyn ei hamddiffyn rhag ymatebion imiwn yr organeb letyol
  • Ffurfiadau atgenhedlu gwrywol a benywol er mwyn caniatau atgenhedlu rhywiol heb ail lyngyren
  • Cynhyrchu niferoedd enfawr o wyau (mae un segment yn gallu cynnwys hyd at 125,000 ohonynt. Mae 6 segment yn gadael y corff yn yr ysgarthion bob dydd) er mwyn cynyddu’r siawns o ddod o hyd i organeb letyol arall
  • Plisg gwydn ar yr wyau er mwyn gallu goroesi nes bod yr organeb letyol eilaidd yn eu bwyta hwy
66
Q

Enwch y problemau mae’n rhaid i lyngyren eu goresgyn

A

pH eithafol, ensymau treulio, system imiwnedd yr organeb letyol, peristalsis, anhawster i ganfod cymar

67
Q

Disgrifiwch sut mae llyngyren yn amsugno cynhyrchion

A

Nid oes ganddi system dreulio, felly mae hi’n amsugno cynhyrchion treulio’r organeb letyol yn uniongyrchol trwy ei chiwtigl

68
Q

Disgrifiwch sut mae llau pen yn bwydo

A

Maent yn enghraifft o ectoparasit sy’n bwydo trwy sugno gwaed o gorun yr organeb letyol

69
Q

Disgrifiwch sut mae llau pen yn heintio organeb letyol newydd

A

Mae’n bryfyn heb adenydd, felly yr unig ffordd o wneud hyn yw drwy gyffyrddiad uniongyrchol

70
Q

Disgrifiwch gylchred bywyd nymff

A

Mae’n cymryd tua phythefnos i nymff ddod allan o wy, ac yna’n bwyta gwaed. Ar ol 10 diwrnod arall, mae nymffau’n datblygu’n llau llawn dwf, sydd yna’n gallu dodwy wyau, ac mae’r gylchred yn parhau

71
Q

Disgrifiwch addasiadau’r nymff i’w ffordd o fyw barasitig

A
  • Mae’r coesau wedi addasu i fod yn debyg i grafangau i ddal gafael ar y gwallt
  • Mae’n dodwy wyau sy’n glynu at waelod gwallt