2.1 Dosbarthiad A Bioamrywiaeth Flashcards
Rhestrwch y tacsonau mewn trefn
Parth, teyrnas, dosbarth, urdd, teulu, genws, rhywogaeth
Disgrifiwch y tri pharth
Archaea - bacteria sy’n byw mewn amgylchedd anghyfeillgar â metabolaeth anarferol megis cynhyrchu methan
Eubacteria - bacteria cyffredin
Ewcaryota - gan gynnwys planhigion, anifeiliaid, ffyngau a phroctistiaid. Hwn yw’r categori uchaf rydym ni’n dosbarthu organebau ynddo
Enwch y teyrnasau
Plantae, Animalia, Fungi, Procaryotau, Protoctista
Diffiniwch rywogaeth
Yn cynnwys grwp o unigolion â nodweddion tebyg sy’n gallu rhyngfridio a chynhyrchu epil ffrwythlon
Pwy cyflwynodd y system finomaidd a phryd?
Carl Linnaeus o Sweden, 1735
Pam mae’r system finomaidd trwy’r gyfrwng Lladin?
I osgoi unrhyw broblemau ieithyddol
Digrifiwch y nodweddion allweddol y teyrnas plantae
Organebau ewcaryotig amlgellog sy’n cyflawni ffotosynthesis (awtotroffig) Atgynhyrchu gan ddefnyddio sborah (e.e. Planhigion blodeuol a choed conwydd) mae ganddynt gellfuriau cellwlos
Digrifiwch y nodweddion allweddol y teyrnas animalia
Organebau amlgellog, heterotroffig, ewcaryotau. Dim cellfuriau. Dangos cyd-drefniant nerfol
Digrifiwch y nodweddion allweddol y teyrnas fungi
Organebau ewcaryotig amlgellog fel llwydni neu ungellog fel burun
Mewn llwydni, mae’r corfd wedi’i wneud o rwydwaith o edafedd o’r enw hyffâu. Mae’r cellfuriau wedi’u gwneud o gitin. Maen nhw’n heterotroffig - naill ai’n saproffytig neu’n barasitig. Maen nhw’n atgenhedlu drwy gynhyrchu sborau (llwydni) neu drwy flaguro fel burum
Digrifiwch y nodweddion allweddol y teyrnas procaryotau
Organebau microsgopig, ungellog gan gynnwys cyanobacteria a bacteria (algâu gwyrddlas) Mae’r cellfuriau wedi’u gwneud o beptidoglycan (mwrein)
Does dim organynnau pilennog na gwir gnewyllyn. Mae’r ribosomau’n llai nag mewn ewcaryotau (70s)
Digrifiwch y nodweddion allweddol y teyrnas protoctista
Mae’r rhain yn cynnwys algâu a llwydni llysnafedd.
Mae rhai’n ungellog ac yn debyg i gelloedd anifail megis Amoeba ac mae eraill yn gytrefol ac wedi’u gwneud o gelloedd fel celloedd planhigyn megis Spirogyra. Maen nhw’n cynnwys organynnau pilennog a chnewyllyn
Diffiniwch ffurfiadau homologaidd
Ffurfiadau mewn rhywogaethau gwahanol sy’n debyg o ran safle anatomegol a tharddiad datblygu, ac yn deillio o gyd-hynafiad
Diffiniwch ffurfiadau cydweddol
Maen nhw’n gwneud yr un gwaith ac mae eu siap yn debyg, ond mae eu tarddiad datblygu yn wahanol
Enwch swyddogaeth yr aelod blaen fertebrat y;
1) Bod dynol
2) Aderyn
3) Morfil
1) Gafael
2) Hedfan
3) Nofio
Mae amffibiaid, ymlusgiaid, adar a mamolion i gyd yn perthyn i’r aelod pentadactyl; mae ganddynt bum digid. O ran esblyiad, pa thystiolaeth mae hyn yn dangos?
Yn dangos tystiolaeth o esblygiad dargyfeiriol lle mae adeiledd wedi esblygu o gyd-hynafiad i wneud gwaith gwahanol
Mae gan adenydd aderyn ac adenydd glöyn byw adeiledd gwahanol ond mae’r ddau yn gallu hedfan. Enwch y fath hon o esblygiad a disgrifiwch sut byddwn yn eu dosbarth hwy
Gelwir yn esblybiad cydgydeiriol; mae hynafiaid wedi addasu i’r un pwysau amgylcheddol ond wedi datblygu o darddiadau gwahanol. Oherwydd bod adeiledd eu hadenydd yn wahanol iawn, does dim tystiolaeth eu bod nhw wedi rhannu cyd-hynafiad ac felly ni ddylid defnyddio’r adenydd i’w dosbarthu nhw
Heb enghreifftio, enwch ac disgrifiwch y brif dechneg imiwnolegol rydym ni’n defnyddio i ddangos y berthynas rhwng rhywogaethau
Techneg o gymharu proteinau imiwnolegol; mae hyn yn golygu creu gwrthgyrff i brotein un rhywogaeth mewn cwningen, ac yna eu cyflwyno nhw i broteinau rhywogaethau eraill
Disgrifiwch yr holl broses pe baech chi eisiau cymharu primatiaid byw a bod dynol i ganfod ei hynafiad argosaf
Yn gyntaf, byddai angen ganfod protein sy’n bresennol ym mhob rhywogaeth. Yna, mae’r protein dynol yn cael ei chwistrellu i mewn i gwningen i gynhyrchu gwrthgyrff iddo. Yna, rydym ni’n ychwanegu’r serwm gwrthgyrff hwn at brotein o’r primatiaid eraill megis tsimpansi, gibon a gorila, ac yn mesur faint sy’n gwaddodi. Os ydym ni’n ychwanegu gwrthgyrff dynol at y protein dynol, mae’r gwrthgyrff a’r antigen yn cyfateb un union a bydd gwaddodiad 100%. Rydym yn gwneud hyn gyda haemoglobin. Y perthynas agosaf oedd tsimpansi a gorila, gyda gwaddodiad o 95%. Wrth gymharu union ddilyniant asidau amino haemoglobin gorila a tsimpansi, y tsimpansi oedd y tebycaf
1) Disgrifiwch beth sy’n digwydd i ddilyniannau basau DNA rhywogaeth wrth iddo esblygu
2) Beth dylai weld os mae dau rywogaeth yn perthyn yn agosach i’w gilydd?
1) Mae newidiadau/mwtaniadau yn digwydd
2) Mae llai o wahaniaethau rhwng eu dilyniannau basau