2.3b Addasiadau Ar Gyfer Cludiant Mewn Planhigion Flashcards
Nodwch y ddau brif fath o feinwe mae meinwe fasgwlar mewn planhigion wedi’i wneud ohono
Sylem, ffloem
Amlinellwch swyddogaeth y sylem
Mae’n gyfrifol am gludo dwr ac ionau mwynol yn ogystal a darparu cynhaliad
Amlinellwch swyddogaeth y ffloem
Mae’n gyfrifol am drawsleoli hydoddion organig megis swcrosm ac asidau amino
Disgrifiwch drefniad y feinwe fasgwlar yn y gwreiddyn
Mae’r sylem wedi’i drenfu’n ganolog mewn siap seren ac mae’r ffloem y tu allan iddo. Mae hyn yn helpu i angori’r planhigyn yn y pridd, gan wrthsefyll grymoedd tynnu
Disgrifiwch drefniad y feinwe fasgwlar yn y goesyn
Wedi’i threfnu tuag at yr ymylon mewn cylch, sy’n rhoi cynhaliad i wrthsefyll plygu
Disgrifiwch drefniad y feinwe fasgwlar yn y ddeilen
Wedi’i threfnu yn y wythien ganol i alluogi’r ddeilen i wrthsefyll rhwygo a hyblygrwydd
Diffiniwch angiosbermau
Planhigion blodeuol
Disgrifiwch adeiledd sylem
Mae dwr yn cael ei ddargludo drwy diwbiau a thraceidau, sy’n gelloedd marw achos dyddodiadau lignin yn y muriau. Mae ffibrau yn darparu cynhaliad, ac mae parencyma sylem yn gweithredu fel meinwe becynnu. Mae traceidau yn bresennol mewn planhgion blodeuol (angiosbermau), rhedyn a choed conwydd, ond dim ond mewn planhigion blodeuol mae’r tiwbiau yn bresennol
Disgrifiwch weithred y parencyma sylem
Yn gweithredu fel meinwe becynnu
Disgrifiwch addasiad y celloedd gwreiddflew ar gyfer mewnlifiad dwr
Cynnydd yn ei arwynebedd arwyneb
Disgrifiwch sut mae dwr yn llifo i fewn i’r celloedd gwreiddflew
Trwy gyfrwng osmosis, achos mae potensial dwr y pridd yn uwch na photensial dwr gwagolyn y gell wreiddflew, sy’n cynnwys ionau a siwgrau
a) Mae dwr yn symud ar draws 1)______ y gwreiddyn o’r 2)_______ tuag at y sylem yn y canol ar hyd 3)_____ llwybr gwahanol.
b) Disgrifiwch y llwybrau yma
1) Cortecs
2) Epidermis
3) Tri
b) Llwybr apoplast - y llwybr pwysicaf, lle mae dwr yn symud rhwng y bylchau yn y cellfur cellwlos
Llwybr symplast - mae dwr yn symud drwy’r cytoplasm a’r plasmodesmata (linynnau o gytoplasm drwy fan-bantiau yn y cellfur)
Llwybr gwagalynnol - llwybr llai pwysig lle mae dwr yn symud o wagolyn i wagolyn
Esboniwch pam mae dwr sy’n teithio ar hyd y llwybr apoplast yn cael ei ddargyfeirio ar ol cyrraedd yn endodermis
Mae stribed Casparaidd yn ffurfio band gwrth-ddwr o gwmpas y celloedd endodermaidd, sy’n atal dwr rhag mynd drwodd
1) Enwch y sylwedd sy’n bresennol yng nghellfuriau’r tiwbiau sylem sy’n eu gwneud nhw’n wrth-ddwr
2) Nodwch beth arall mae’r sylwedd hyn yn gwneud
1) Lignin
2) Yn atal dwr rhag mynd i’r sylem o’r llwybr apoplast
Disgrifiwch y periseicl yn y gwreiddyn
Mae hyn wedi amgylchynu ag un haen o gelloedd, sef yr endodermis, sy’n ffurfio cylch o gwmpas y feinwe fasgwlar yng nghanol y gwreiddyn.