2.2 Addasiadau Ar Gyfer Cyfnewid Nwyon Flashcards

1
Q

Disgrifiwch y newid sy’n digwydd i’r cymhareb arwynebedd arwyneb i gyfaint i’r organeb sy’n dyblu mewn maint

A

Mae ei chyfaint (felly ei gofynion am ocsigen) yn ciwbio ond dim ond sgwario mae’r arwynebedd arwyneb. Felly mae’r cymhareb yn lleihau a mae angen arwyneb arbenigol i gyfnewid nwyon er mwyn cynyddu’r arwynebedd sydd ar gael

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
2
Q

Nodwch y nodweddion cyffredinol arwyneb cyfnewid nwyon

A
  • Cymhareb fawr arwynebedd arwyneb i gyfaint
  • Llaith er mwyn caniatáu i nwyon hydoddi
  • Tenau i ddarparu pellter tryledu bye
  • Athraidd i nwyon
How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
3
Q

Disgrifiwch sut mae organebau ungellog yn cyfnewid nwy

A

Fel Amoeba, mae’r arwynebedd arwyneb yn ddigon mawr i ddiwallu anghenion yr organeb, ac felly mae’n gallu cyfnewid defnyddiau’n uniongylchol ar draws pilen arwyneb y gell, sy’n denau ac athraidd. Gan fod y cytoplasm yn symud yn gyson, mae’r graddiant crynodiad yn cael ei gynnal drwy’r amser

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
4
Q

Disgrifiwch sut mae anifeiliaid amlgellog yn cyfnewid nwy

A

Mae’r gymhareb arwynebedd arwyneb yn lleihau, felly dydy trylediad ar draws arwyneb y corff ddim yn ddigon i fodloni anghenion yr organeb. Mae nifer i addasiadau wedi esblygu i ddatrys hwn; mae anifeiliaid yn weithgar iawn â metabolaeth uwch, felly mae angen arnynt bresenoldeb arwyneb arbenigol i gyfnewid nwyon sydd â mecanwaith awyru. Mae’r mecanwaith hwn yn cynnal y graddiant crynodiad ar draws yr arwyneb resbiradol

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
5
Q

Nodwch un o’r oblygiadau nodadwy cynnal arwyneb resbiradol llaith mewn anifeiliaid daearol

A

Colled dwr; mae’r ffaith bod yr arwynebau cyfnewid nwyon yn fewnol, sef yr ysgyfaint, yn lleihau hyn

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
6
Q

Disgrifiwch addasiadau ar gyfer cyfnewid nwyon y Llyngyren ledog

A

Corff fflat i leihau’r pellter tryledu rhwng yr arwyneb a’r celloedd y tu mewn ac i gynyddu cyfanswm yr arwynebedd arwyneb

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
7
Q

Disgrifiwch addasiadau ar gyfer cyfnewid nwyon y mwydyn/prif genwair

A

Secretu mwcws i gynnal arwyneb llaith, a rhwydwaith capilarïau datblygiedig o dan y croen. Cyfradd fetabolaidd isel fel bod angen llai o ocsigen
Rhwydwaith o bibellau gwaed a gwaed sy’n cynnwys haemoglobin i gludo ocsigen. Mae carbon deuocsid yn cael ei gludo yn y plasma gwaed gan fwyaf

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
8
Q

Disgrifiwch addasiadau ar gyfer cyfnewid nwyon yr amffibiaid megis brogaod a madfallod dwr

A

Croen llaith ac athraidd, ac mae rhwydwaith cymhleth o gapilarïau o dan yr arwyneb. Ysgyfaint i’w defnyddio pan mae’r anifail yn fwy gweithgar

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
9
Q

Disgrifiwch addasiadau ar gyfer cyfnewid nwyon yr ymlusgiaid megis nadroedd a chrocodeilod

A

Ysgyfaint mewnol fel amffibiaid, ond maen nhw’n fwy cymhleth ac mae eu harwynebedd arwyneb yn fwy

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
10
Q

Disgrifiwch addasiadau ar gyfer cyfnewid nwyon yr adar

A

Mae hedfan yn cynhyrchu cyfradd fetabolaidd uchel iawn ac felly mae angen llawer iawn o ocsigen. Felly, mae gan adar fecanwaith awyru effeithlon i gynyddu’r graddiant crynodiad ar draws arwyneb yr ysgyfaint

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
11
Q

Diffiniwch lif paralel

A

Mae’r gwaed a’r dwr yn llifo i’r un cyfeiriad ar lamelâu’r dagell. Mae hyn yn cynnal y graddiant crynodiad fel bod ocsigen ddim ond yn tryledu i mewn i’r gwaed hyd at y pwynt pan mae ei grynodiad yn y gwaed a’r dwr yn hafal

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
12
Q

Enwch yr arwyneb cyfnewid nwyon arbenigol datblygodd bysgod

A

Tagellau

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
13
Q

Disgrifiwch weithred a’r adeiledd tagellau

A

Mae’r rhain wedi’u gwneud o lawer o ffilamentau tagell sy’n cynnwys lamelâu tagell ar ongl sgwar i’r ffilamentau. Mae’r rhain yn cynddu’r arwynebedd arwyneb yn fawr iawn er mwyn cyfnewid ocsigen a charbon deuocsid

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
14
Q

Disgrifiwch awyriad y tagellau mewn pysgod cartilagaidd megis y siarc

A

Mae dwr a gwaed yn llifo i’r un cyfeiriad dros y dagell (llif paralel). Dim ond dros ran o arwyneb y ffilament tagell mae cyfnewid nwyon yn bosibl, gan fod ecwilibriwm yn cael ei gyrraedd sy’n atal mwy o dryledu ac yn lleihau faint o ocsigen sy’n gallu cael ei amsugno i’r gwaed. Mae’r mecanwaith awyru mewn pysgod cartilagaidd yn sylfaenol: wrth iddynt nofio, maen nhw’n agor eu ceg i adael i ddwr lifo dros y tagellau

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
15
Q

Diffiniwch lif gwrthgerrynt

A

Mae’r gwaed a’r dwr yn llifo i gyfeiriadau dirgroes ar y lamelâu tagell, gan gynnal y graddiant crynodiad ac, felly, trylediad ocsigen i’r gwaed, yr holl ffordd ar eu hyd

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
16
Q

Disgrifiwch awyriad y tagellau mewn pysgod esgyrnog megis eog

A

Mae yna lif gwrthgerrynt i’w weld lle mae gwaed a dwr yn llifo i gyfeiriadau dirgroes. Mae’r system hon yn llawer mwy effeithlon achos mae hi’n cynnal trylediad yr holl ffordd ar hyd y ffilament tagell gan fod crynodiad yr ocsigen bob amser yn uwch yn y dwr nag yn y gwaed sy’n dod i gysylltiad â’r dwr. Felly, mae mwy o ocsigen yn cael ei amsugno achos dydy’r system ddim yn cyrraedd ecwilibriwm. Mae gan bysgod esgyrnog fecanwaith awyru mwy datblygedig na physgod cartilagaidd

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
17
Q

Disgrifiwch sut mae pysgod esgyrnog yn;

1) Gorfodu dŵr i lifo i mewn
2) Gorfodu dwr allan

A
1) 
A) Ceg ar agor
B) Llawr y ceudod bochaidd yn gostwng
C) Falf yr opercwlwm ar gau
D) Cyfaint yn cynyddu, gwasgedd yn gostwng
2)
A) Ceg ar gau
B) Llawr y ceudod bochaidd yn codi
C) Falf yr opercwlwm ar agor
D) Cyfaint yn lleihau, gwasgedd yn cynyddu
How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
18
Q

Pam mae pysgod yn marw os nad ydynt mewn dwr?

A

Mae’r tagellau yn cwympo achos mae dwysedd dwr yn eu cynnal a’r ffilamentau yn glynu wrth ei gilydd gan wneud yr arwynebedd arwyneb i gyfnewid ocsigen yn llawer llai

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
19
Q

Disgrifiwch drylediad carbon deuocsid gyda llif gwrthgerrynt

A

Mae’n fwy effeithlon na llif paralel felly mae mwy o garbon deuocsid yn tryledu o’r gwaed i’r dwr mewn pysgod esgyrnog nag mewn pysgod cartilagaidd

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
20
Q

Disgrifiwch adeiledd y tracea i’r alfeoli

A

Mae’r tracea sydd wedi’i gynnal gan 20 o gylchoedd anghyflawn o gartilag, yn canghennu’n ddau froncws, sy’n mynd i mewn i ysgyfaint. Mae’r bronci yn canghennu’n diwbiau teneuach o’r enw bronciolynnau, sy’n arwain at alfeoli lle mae cyfnewid nwyon yn digwydd

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
21
Q

Sut all bysgod esgyrnog awyru eu tagellau?

A

Trwy ostwng a chodi llawr y geg neu’r ceudod bochaidd

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
22
Q

Sut all bysgod cartilagaidd awyru eu tagellau?

A

Trwy nofio’n gyson

23
Q

1) Beth sy’n gorchuddio tagellau’r pysgod esgyrnog?

2) Beth yw ei bwrpas?

A

1) Opercwlwm

2) Diogelu’r tagellau a rheoli’r awyriad

24
Q

Disgrifiwch mewnanadliad mewn bodau dynol

A

Proses weithredol

  • Mae’r cyhyrau rhyngasennol allanol yn cyfangu gan symud yr asennau i fyny a thuag allan, sy’n tynnu pilen eisbilennol allanol yr ysgyfaint tuag allan
  • Mae’r llengig yn cyfangu ac yn gwastadu
  • Mae hyn yn lleihau’r gwasgedd yn y ceudod eisbilennol ac mae’r bilen eisbilennol fewnol yn symud tuag allan
  • Mae hyn yn tynnu ar arwyneb yr ysgyfaint ac yn achosi i’r alfeoli ehangu
  • Mae’r gwasgedd yn yr alfeoli yn gostwng yn is na gwasgedd yr atmosffer sy’n tynnu aer i mewn
25
Disgrifiwch allanadliad mewn bodau dynol
Proses oddefol - Mae'r cyhyrau rhyngasennol allanol yn llaesu felly mae'r asennau yn symud i lawr a thuag i mewn, sy'n gadael i bilen eisbilennol allanol yr ysgyfaint symud tuag i mewn - Mae'r llengig yn llaesu ac yn symudi fyny - Mae hyn yn cynyddu'r gwasgedd yn y ceudod eisbilennol ac mae'r bilen eisbilennol fewnol yn symud i mewn - Mae hyn yn gwthio ar arwyneb yr ysgyfaint ac yn achosi i'r alfeoli gyfangu - Mae'r gwasgedd yn yr alfeoli yn cynyddu'n uwch na gwasgedd yn yr atmosffer, mae hyn yn gorfodi aer allan
26
Pryd yw'r unig adegau defnyddiwyd y cyhyrau rhyngasennol mewnol?
Wrth allanadlu'n rymus megis chwythu balwn neu wneud ymarfer corff
27
Disgrifiwch addasiadau'r afeoli i gyfnewid nwyon
- Arwynebedd arwyneb mawr - 700 miliwn ohonynt - Muriau tenau iawn - 0.1um - Wedi'u hamgylchynu gyda chapilariau, felly pellter tyrledu byr a chyflenwad gwaed da - Leinin llaith - Athraidd i nwyon - Colagen a ffibrau elastig yn caniatau ehangu ac adlamu -
28
Disgrifiwch llif y gwaed trwy'r alfeoli i'r galon
Mae un o ganghennau'r rhywedli ysgyfeiniol yn dod a gwaed dadocsigenedig i'r alfeoli ac mae un o ganghennau'r gwythien ysgyfeiniol yn cludo gwaed ocsigenedig i'r galon.
29
1) Enwch y sylwedd sy'n caniatau i nwyon hydoddi yn yr alfeoli 2) Nodwch y pethau eraill mae'r sylwedd yma'n gwneud
1) Syrffactydd | 2) Gostwng tyniant arwyneb i atal yr alfeoli rhag dymchwel a glynu at ei gilydd
30
Mae'n anodd ar gyfer ffoetws sydd wedi enu cyn 23 wythos i anadlu. Eglurwch pam
Dydy'r ffoetws ddim yn cynhyrchu syrffactydd tan mae tua 23 wythnos o'r beichiogrwydd wedi mynd heibio. Heb syrffactydd, bydd yr alfeoli yn dymchwel a glynu at ei gilydd gan atal cyfnewid nwyon ynddynt, felly gan atal anadliad.
31
Pam mae'r tagellau'n gallu echdynnu ocsigen bedair gwaith yn fwy effeithlon nag ysgyfaint?
Oherwydd bod llawer llai o ocsigen wedi'i hydoddi mewn dwr nag sy'n bodoli mewn aer
32
Pa bibell gwaed sy'n; 1) cludo gwaed a llawer o garbon deuocsid ynddo tuag at yr alfeoli? 2) cludo gwaed ocsigenedig ynddo oddi wrth yr alfeoli?
1) Rhydweli ysgyfeiniol | 2) Gwythien ysgyfeiniol
33
Pa gell sy'n ffurfio mur yr alfeolws?
Cell epithelaidd gennog
34
Disgrifiwch sgerbwd allanol pryfed
Mae gan bryfed sgerbwd allanol citin sydd wedi'i orchuddio gyda chwyr sy'n anathraidd i ddwr a nwyon
35
Eglurwch swyddogaeth citin a sbiraglau ar gyfer cyfnewid nwyon mewn pryfed
Mae'r citin wedi'i drefnu mewn cylchoedd, sy'n caniatau i'r traceau ehangu a chyfangu a gweithredu fel megin i yrru aer i mewn ac allan o gorff y pryfyn. Mae'r sbiraglau, sy'n bodoli mewn parau ar rannau o'r thoracs a'r abdomen, yn gallu cai wrth i'r pryfyn orffwys, ac mae presenoldeb citin hefyd yn helpu i leihau colledion dwr
36
Eglurwch swyddogaeth tiwiau'r traceolau ar gyfer cyfnewid nwyon mewn pryfed
Mae rhain yn dod i gysylltiad uniongylchol a phob meinwe, gan gyflenwi ocsigen a chael gwared at garbon deuocsid, felly does dim angen haemoglobin. Mae dau ben y tiwbiau yn llawn hylif i ganiatau i nwyon hydoddi.
37
Eglurwch swyddogaeth y cyhyrau amrywiol ar gyfer cyfnewid nwyon mewn pryfed
Mae cyhyrau yn y thoracs a'r abdomen yn cyfangu/llaesu gan achosi symudiadau rhythmig sy'n awyru tiwbiau'r traceolau ac yn cynnal graddiant crynodiad
38
Beth yw'r ffactor cyfyngedig ar effeithlonrwydd y system traceau o ran cyflenwi ocsigen i feinweoedd mewn pryfed?
Ar faint a siap y pryfyn gan ei bod hi'n dibynnu ar drylediad, ac felly'n dibynnu ar bellter tryledu
39
Diffiniwch drydarthiad
Anweddiad anwedd dwr o'r dail neu o rannau eraill o'r planhigyn sydd uwchben y ddaear, allan drwy'r stomata ac i'r atmosffer
40
Nodwch sut mae planhigion yn lleihau colledion dwr oddi ar arwyneb eu dail
Maent wedi gorchuddio gyda chwtigl cwyraidd, Mae'n hefyd yn atal trylediad nwyon
41
Pa nwyon sy'n angenrheidiol ar gyfer planhigion i gylfawni ffotosynthesis?
Ocsigen a charbon deuocsid
42
Amlinellwch swyddogaeth y mandyllau bach sydd gan blanhigion ac disgrifiwch eu lleoliadau ar ddail
Stomata ydynt sydd wedi lleoli ar ochr isaf y rhan fwyaf o ddail. Gallent agor yn ystod y dydd i ganiatau cyfnewid nwyon a chau dros nos neu mewn amodau sych i leihau colledion dwr
43
Enwch y celloedd sy'n rheoli mandwll y stomata
Celloedd gwarchod
44
Pa gyfrwng mae stomata'n lleihau colledion dwr?
Trydarthiad
45
Disgrifiwch fecanwaith agor stomata
- Mae'r celloedd gwarchod yn cyflawni ffotosynthesis gan gynhyrchu ATP - Mae'r egni sy'n cael ei ryddhau o ATP yn cael ei ddefnyddio i gludo ionau potasiwm yn actif i mewn i'r celloedd gwarchod - Mae hyn yn sbarduno'r broses sy'n trawsnewid startsh (Anhydawdd) yn ionau malad (Hydawdd) - Mae potensial dwr y gell warchod yn gostwng, felly mae dwr yn symud i mewn i'r celloedd drwy gyfrwng osmosis - Mae'r celloedd gwarchod yn ehangu ac mae'r mur allanol yn ymestyn mwy na'r mur mewnol gan ei fod yn deneuach. Mae hyn yn creu mandwll rhwng y ddwy gell gwarchod - Mae'r gwrthwyneb yn digwydd yn y nos
46
Rhowch hafaliad i gyfrifo chywddhad o luniad neu ddelwedd microsgop
Chwyddhad = Maint y ddelwedd/Maint gwirioneddol
47
Cywir neu anghywir; mae syrffactydd yn cynyddu tyniant arwyneb
Anghywir
48
Cywir neu anghywir; mae tagellau yn amsugno ocsigen yn llai effeithlon na'r ysgyfaint
Anghywir
49
Cywir neu anghywir; pam mae startsh yn cael ei drawsnewid yn falad mewn celloedd gwarchod, mae'r potensial dwr yn mynd yn fwy negatif
Cywir
50
Cywir neu anghywir; mae sbiraglau'n gallu cau i atal colledion dwr mewn planhigion
Anghywir
51
Cywir neu anghywir; mae gan lyngyren ledog arwynebedd arwyneb mwy na mwydyn/prif genwair a'r un cyfaint
Cywir
52
Disgrifiwch addasiadau'r ddeilen ar gyfer cyfnewid nwyon
- Mae dail yn denau ac yn fflat, sy'n rhoi arwynebedd arwyneb mawr i ddal golau a chyfnewid nwyon - Mae gan ddal lawer o fandyllau o'r enw stomata i ganiatau cyfnewid nwyon - Mae celloedd mesoffyl sbwngaidd wedi'u hamgylchynu gyda gwagleoedd aer sy'n caniatau i nwyon dryledu
53
Os yw gwasgedd rhannol CO2 yn y gwaed yn y capilari sy'n dod a gwaed dadocsigenedig i'r alfeolws yn 5.8kPa, a bod gwasgedd rhannol CO2 yn y gwaed yn y capilari sy'n gadael yr alfeolws yn 5.1kPa, beth yw gwasgedd rhannol y CO2 yn yr aer yn yr alfeolws. Rhowch reswm.
5.1kPa oherwydd maent wedi cyrraedd ecwilibriwm' mae'r dau wasgedd rhannol yr un peth