2.3a Addasiadau Ar Gyfer Cludiant Mewn Anifeiliaid Flashcards

1
Q

Diffiniwch affinedd

A

I ba raddau mae dau foleciwl yn cael eu hatynnu at ei gilydd

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
2
Q

Disgrifiwch ac eglurwch affinedd haemoglobin y lama a’r lygwn

A

Maent yn byw mewn ardaloedd heb lawer o ocsigen, felly esblygon nhw haemoglin â mwy o affinedd ag ocsigen na haemoglobin arferol. Mae eu cromliniau daduniad ocsigen yn fwy i’r chwith felly mae eu haemoglobin yn fwy dirlawn; gallent gludo fwy o ocsigen

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
3
Q

Sut allwn gyfrifo cyfradd y galon?

A

Trwy fesur yr amser mae’n ei gymryd i fynd o un pwynt ar yr olin ECG i’r nesaf mewn eiliadau gan gymryd y rhif i rannu 60

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
4
Q

Nodwch y tair ffordd mae CO2 yn cael ei gludo a’r ffordd mwyaf cyffredin

A

1) Wedi’i hydoddi mewn plasma (5%)
2) Ar ffurf ïonau HCO3- yn y plasma (85%) [Y ffordd mwyaf cyffredin]
3) Wedi rhwymo wrth haemoglobin ar ffurf carbamino-haemoglobin (10%)

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
5
Q

Disgrifiwch sut mae presenoldeb CO2 yn y gwaed yn arwain at ryddhad ocsigen

A

1) Mae CO2 yn tryledu i gell goch y gwaed
2) Mae carbonig anhydras yn catalyddu’r adwaith rhwng CO2 a dŵr i ffurfio asid carbonig
3) Mae asid carbonig yn daduno i ffurfio ïonau HCO3- a H+
4) Mae HCO3- yn tryledu allan o gell goch y gwaed
5) Mae ïonau Cl- yn tryledu i mewn i’r gell i gynnal y niwtraliaeth electrocemegol: y sylfiad clorid yw hyn
6) Mae ïonau H+ yn cyfuno ag ocsihaemoglobin i ffurfio asid haemoglobinig (HHb) a rhyddhau ocsigen
7) Mae ocsigen yn tryledu allan o’r gell

[YN FRAS] Mwy o CO2 yn y gwaed yn arwain ar gynhyrchu mwy o ïonau HCO3- a H+ yng nghelloedd coch y gwaed sy’n cynhyrchu mwy o HHb ac felly rhyddhau mwy o O2.

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
6
Q

Disgrifiwch wythienigau

A

Gwythiennau bach sy’n cydgyfeirio i ffurfio gwythienigau mwy, ac yn y pen draw, gwythiennau. Mae eu hadeiledd yn debyg i adeiledd gwythiennau ac wrth iddynt ledu, mae ganddynt lai o wrthiant i lif gwaed sy’n golygu bod cyfradd llif y gwaed yn gallu cynyddu eto

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
7
Q

Beth yw arwyddocad symud y gromlin haemoglobin i’r chwith o gymharu â symud i’r dde?

A

Symud i’r chwith - Mae gan haemoglobin affinedd uwch ag ocsigen ac felly mae’n fwy dirlawn ag ocsigen nag arfer ar yr un gwasgedd rhannol ocsigen isel
Symud i’r dde - mae gan haemoglobin affinedd is ag ocsigen ac felly mae’n rhyddhau ei ocsigen yn rhwyddach nag arfer ar yr un gwasgedd rhannol ocsigen isel

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
8
Q

Disgrifiwch rhydwelïynnau

A

Mae’r prif rydwelïau yn canghennu’n barhaus i ffurfio rhydwelïau llai ac yn y pen draw, rhydwelïynnau. Mae gan y rhain gyfanswm arwynebedd arwyneb mawr a lwmen cymharol gul, sy’n ostwng pwysedd a chyfradd llif gwaed ymhellach. Y ffurfiad pwysig mewn rhydwelïyn yw’r feinwe cyhyr llyfn, sy’n gallu lledu neu gulhau’r lwmen i gynyddu neu leihau llif y gwaed

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
9
Q

Disgrifiwch y manteision o gael system cylchrediad caeedig

A

Mae’n gallu cynnal pwysedd gwaed uwch a chylchrediad cyflymach yn y cylchrediad systemig, a chadw gwaed ocsigenedig a dadocsigenedig ar wahan i’w gilydd sy’n gwella dosbarthiad ocsigen

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
10
Q

Sut mae gwaed yn symud o gwmpas y corff mewn systemau cylchrediad agored?

A

Nid mewn pibellau gwaed. Mae celloedd yn cael eu trochi gan waed neu hylif o’r enw haemolymff mewn gwagle llawn hylif o gwmpas yr organau sef y ceudod gwaed. Does dim angen pigment resbiradol achos mae’r O2 yn cael ei gyflenwi’n uniongylchol i’r meinweoedd yn y system draceol

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
11
Q

Disgrifiwch wythiennau

A

Mae’r rhain yn cludo gwaed yn ôl i’r galon. Y ffurfiadau pwysig mewn gwythiennau yw’r falfiau cilgant, sy’n atal ôl-lifiad gwaed ac yn sicrhau bod y gwaed yn llifo i un cyfeiriad yn unig. Er bod y pwysedd mewn gwythiennau yn isel, mae’r gwaed yn dychwelyd i’r galon achos effeithiau cyfangu’r cyhyrau ysgerbydol o’u cwmpas nhw, sy’n gwasgu’r wythïen, gan leihau’r cyfaint, a chynyddu’r pwysedd yn y wythïen; mae hyn yn gorfodi gwaed drwy’r falf

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
12
Q

Diffiniwch sypyn his

A

Ffibr cyhyr cardiaidd wedi’i addasu sy’n mynd o’r nod atrio-fentriglaidd i waelod y fentrigl drwy wahanfur y galon

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
13
Q

Enwch y storfa ocsigen mewn cyhyrau. Disgrifiwch ei affinedd

A

Myoglobin. Mae ganddo affinedd uchel iawn ag ocsigen a dim ond wasgedd rhannol isel iawn mae’n rhyddhau ocsigen

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
14
Q

Disgrifiwch edrychiad graffigol %dirlawnder haemoglobin ag ocsigen/Gwasgedd rhannok ocsigen

A

Wrth i folecylau ocsigen rwymo, mae’r moleciwl haemoglobin yn newid gan ei gnweud yn haws i’r nesaf rwymo. Gelwir hyn yn rhwymo cydweithredol sy’n digwydd yn rhan serth y gromlin. Bydd angen cynnydd yng ngwasgedd rhannol ocsigen er mwyn i fwy rwymo. Mae’r graff yn gwastadu ar ddirlawnder uchaf o 11.4kPa

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
15
Q

Beth mae’r hylif meinweol yn cynnwys?

A

Mae’n cynnwys dŵr, halwynau, glwcos, asidau amino ac ocsigen wedi’i hydoddi ac mae’n trochi’r celloedd yn y gwely capilarïau

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
16
Q

Beth yw lled rhydwelïau?

A

0.1-10mm

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
17
Q

Faint o folecylau ocsigen gall haemoglobin eu cludo?

A

4

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
18
Q

Betth yw arwyddocad y sylfiad clorid?

A

Cynnal niwtraliaeth electrocemegol

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
19
Q

Beth yw lled gwythiennau

A

0.1-20mm

20
Q

Diffiniwch geudod gwaed

A

Prif geudod y corff yn y rhan fwyaf o infertebratau; mae’n cynnwys hylif cylchredol

21
Q

Nodwch yr hafaliad cildroadwy sy’n ffurfio ocsihaemoglobin

A

Ocsigen + haemoglin ocsihaemoglobin

22
Q

Diffiniwch systole

A

Cyfangu

23
Q

Nodwch gydrannau gwaed â’u canran ohonynt sy’n bodoli yn y gwaed

A
  • Plasma (55%)
  • Celloedd (45%)
  • Celloedd gwyn a phlatennau yw’r gweddill (<5%)
24
Q

Disgrifiwch gapilarïau

A

Mae miliynnau ohonynt yn ffurfio rhydweithiau dwys mewn meinweoedd. Mae eu lwmen yn gul, ond mae eu cyfanswm arwynebedd trawstoriadol yn fawr iawn. Wrth i’r gwaed lifo drwy’r capilarïau, mae pwysedd y gwaed a chyfradd llif y gwaed yn gostwng.
Mae hyn achos y cynnydd yn y cyfanswm arwynebedd trawstoriadol ac yng ngwrthiant ffrithiannol y gwaed sy’n llifo drwy’r pibellau gwaed. Eu swythogaeth yw cyflenwi ocsigen a maetholion ac amsugno carbon deuocsid a gwastraff

25
Q

Disgrifiwch y prosesau sy’n ffurfio hylif meinweol

A

1) Mae gwasgedd hydrostatig wedi’i greu gan bwysedd gwaed ym mhen y rhydwelïyn yn gorfodi’r deunyddiau hyn allan o’r capilarïau drwy fandyllau yn eu muriau. Mae proteinau plasm yn rhy fawr i adael. Mae potensial dŵr y gwaed yn is na photensial dŵr yr hylif meinweol, sy’n tueddu i dynnu dŵr i mewn i’r capilari. Mae hyn yn lleihau ar hyd y capilari wrth i ddŵr adael, ond mae’n llai na’r gwasgedd hydrostatig felly mae’r symudiad net tu allan o’r capilarïau
2) Mae’r rhan fwyaf o’r dŵr yn cael ei adamsugno drwy gyfrwng osmosis ym mhen gwythiennig y gwely capilarïau. Yma, mae’r gwasgedd osmotig yn fwy na’r gwasgedd hydrostatig yn y capilarïau felly mae symudiad net hylifau i mewn i’r capilari. Mae CO2 yn cael ei adamsugno drwy gyfrwng trylediad
3) Mae gormodedd hylif meinweol yn draenio i’r system wythiennol drwy’r ddwythell thorasig, sy’n gwasgio i mewn i’r wythïen isglafigaidd chwith yn y gwddf

26
Q

Sut allwn ni fesur y gweithgarwch trydanol sy’n digwydd yn y galon wrth iddi guro?

A

Defnyddio electrocardiogram (ECG)

27
Q

Disgrifiwch y systole fentriglaidd yn ystod cylchred gardiaidd

A

1) Mae sypyn his yn canghennu’n ffibrau Purkinje sy’n cludo’r don i fyny drwy gyhyr y fentrigl, gan achosi iddo gyfangu
2) Felly mae oedi cyn cyfangu y fentrigl ac mae’r cyfangiad yn digwydd o’r gwaelod i fyny

28
Q

Awgrymwch un newid allai ymddangos yng ngwaed athletwr sy’n hyfforddi ar uchder uchel

A

Cynhyrchu mwy o haemoglobin

29
Q

Disgrifiwch lifiad y gwaed mewn system cylchrediad sengl

A

Mae’r gwaed yn mynd drwy’r galon unwaith ar ei ffordd o gwmpas y corff. Mae’r math hwn yn bodoli mewn pysgod, ac mae’n pwmpio gwaed i’r tagellau ac i organau’r corff cyn dychwelyd i’r galon. Mae gan y mwydyn/pryf genwair cylchrediad sengl

30
Q

Disgrifiwch y systole atrïaidd yn ystod cylchred gardïaidd

A

1) Ton o gyffroad yn lledaenu o’r nod sinwatrïaidd (SAN) ar draws y ddau atriwm
2) Y ddau atriwm yn dechrau cyfangu
3) Dydy’r don ddim yn gallu lledaenu i’r fentriglau oherwydd yr haen o feinwe gyswllt
4) Mae’r don yn lledaenu drwy’r nod atrio-fentriglaidd (AVN) drwy sypyn his i apig y fentrigl

31
Q

Diffiniwch ddadbolaru ac ailbolaru

A

Ailbolaru - mwy positif

Dadbolaru - llai positif

32
Q

Disgrifiwch lifiad y gwaed mewn system cylchrediad dwbl?

A

Mae’r gwaed yn mynd drwy’r galon ddwywaith: ac mewn mamolion, mae un gylchred yn cyflenwi gwaed i’r ysgyfaint i’w ocsigenu, ac ail gylchred yn cyflenwi gwaed ocsigenedig i’r corff.

33
Q

Disgrifiwch effaith ar adamsugniad dŵr mewn corff rhywun sy’n dioddef o ddiffyg maeth

A

Bydd crynodiadau eu proteinau plasma yn is ac felly byddant yn adamsugno llai o ddŵr drwy gyfrwng osmosis ym mhen gwythiennol y capilari gan fod y gwasgedd osmotig yn is. Mae hyn yn arwain at oedema a chyflwr o’r enw cwasiorcor

34
Q

Disgrifiwch rhydwelïau

A

Cludo gwaed oddi wrth y galon. Mae gan y rhain furiau trwchus i wrthsefyll y pwysedd gwaed uchel: mae ffibrau elastig yn ymestyn i ganiatáu i’r rhydwelïau lenwi â gwaed ac yna maen nhw’n adlamu’n elastig i wthio gwaed ar hyd y rhydweli. Mae’r pwysedd yn y rhydwelïau hyn yn cynyddu ac yn gostwng yn rhythmig, gan gyfateb i systole fentriglaidd. Wrth i’r gwaed lifo drwy’r rhydweli, mae ffrithiant â muriau’r bibell yn achosi i bwysedd y gwaed a chyfradd llif y gwaed ostwng

35
Q

Disgrifiwch lif y gwaed drwy’r galon

A

1) Mae gwaed yn mynd i’r galon o’r pen a’r corff drwy’r fena cafa i mewn i’r atriwm de
2) Mae’r atriwm de yn cyfangu (systole atrïaidd) gan orfodi gwaed drwy’r falf atrio-fentriglaidd de i’r fentrigl de, sy’n llaesu
3) Mae’r fentrigl de yn cyfangu (systole fentriglaidd) gan orfodi gwaed allan o’r galon drwy’r falf gilgant dde i’r ysgyfaint drwy’r rhydweli ysgyfeiniol
Mae gwaed diocsigenedig yn dychwelyd o’r ysgyfaint i’r galon drwy’r wythïen ysgyfeiniol ac yn mynd i’r atriwm chwith pan mae’r atriwm chwith yn llaesu (diastole cyflawn)
4) Mae’r atriwm chwith yn cyfangu gan orfodi gwaed drwy’r falf-atrio-fentriglaidd chwith i’r fentrigl chwith sy’n llaesu
5) Mae’r fentrigl chwith yn cyfangu gan orfodi gwaed allan drwy’r falf gilgant chwith i’r aorta ac yna i weddill y corff
6) Mae hyn yn disgrifio un gylchred gwaed. Yn ystod y gylchred gardiaidd, mae’r ddau atriwm yn cyfangu â’i gilydd ac yna mae’r ddau fentrigl yn cyfangu â’i gilydd
7) Mae’r falfiau yn sicrhau bod gwaed yn llifo i un cyfeiriad yn unig h.y. Maen nhw’n atal ôl-lifiad gwaed

36
Q

Diffiniwch diastole

A

Llaesu

37
Q

Diffiniwch ffibrau purkinje

A

Rhwydwaith o ffibrau ym mur y fentriglau

38
Q

Ar electrocardiogram, beth yw;

1) P
2) QRS
3) T

A

1) Newid foltedd sy’n gysylltiedig â chyfangu’r atria
2) dadbolaru a chyfangu’r fentriglau
3) Ailbolaru cyhyrau’r fentrigle

39
Q

Diffiniwch wasgedd rhannol nwy

A

Y gwasgedd fyddai’r nwy yn ei roi os mai dim ond y nwy hwnnw fyddai’n bresennol

40
Q

Diffiniwch effaith Bohr

A

Symudiad y gromlin ddaduniad ocsigen i’r dde o ganlyniad i wasgedd rhannol carbon deuocsid uwch. Mae haemoglobin yn dangos affinedd is ag ocsigen

41
Q

Beth yw lled capilarïau?

A

8-10um

42
Q

Diffiniwch fyogenig

A

Mae’n curo ar ei ben ei hun

43
Q

Digrifiwch weithred nod sinwatrïaidd (SAN)

A

Fel rheoliadur. Mae celloedd cyhyr SAN yn gosod rhythm yr holl gelloedd cyhyr cardiaidd eraill. Mae’r SAN yn cyfangu ychydig bach yn gyflymach na gweddill cyhyr y galon. Mae’n cydosod ton o weithgarwch trydanol sy’n lledaenu yn gyflym dros waliau’r atria sy’n achosi i hwy gyfangu ar yr un rhythm â’r SAN. Mae cyhyrau’r ddau atriwm yn cyfangu ar yr un pryd â’i gilydd

44
Q

Disgrifiwch weithred y nod atrio-fentriglaidd (AVN)

A

Mae’r AVN yn codi’r don gyffroad wrth iddi ledaenu drwy’r atria. Ar ôl oediad o 0.1s, mae’r AVN yn pasio’r ysgogiad i lawr sypyn His; mae’r sypyn His yn canghennu, gan ffurfio meinwe Purkinje. Mae’r ysgogiad trydanol yn cael ei drosglwyddo i waelod y gwahanfur rhwng y fentriglau; hwn yw’r apig. Mae’r ysgogiadau trydanol yn lledaenu tuag allan a thuag i fyny o’r apig, drwy waliau’r fentriglau - gan achosi i’r fentriglau gyfangu; mae hyn yn digwydd yn gyflym iawn. Mae’r cyfangiad o’r gwaelod i fyny’m golygu bod y gwaed i gyd yn cael ei bwmpio allan o’r fentriglau ac i’r rhydwelïau.

45
Q

Rhowch enw arall am y falf;

1) atrio-fentriglaidd de
2) atrio-fentriglaidd chwith

A

1) teirlen

2) dwylen