2.3 Metelau ac Echdynnu Metelau (Electrolysis) Flashcards
beth? termau - electrolyt, electrod, anod, catod, dadelfennu
Electrolysis
beth - dadelfeniad electrolyt drwy pasio cerrynt trydanol trwyddo, ar ffurf hylif
electrolyt - cyfansoddyn ionig ar ffurf ymdoddiant neu hydoddiant sy’n dadelfennu ar yr electrodau
electrod - rhoden graffit neu platinwm sydd yn cael ei osod yn yr electrolyt
anod - yr electrod positif
catod - yr electrod negatif
dadelfennu - pan mae cyfansoddyn yn ymhollti mewn i’w elfennau gyfansoddol
ionau positif/negatif?
Electrolysis
ionau positif –> catod, ennill electronau i ffurfio atomau
ionau negatif –> anod, colli electronau i ffurfio atomau
ocsidiad/rhydwythiad? termau i gofio?
Electrolysis
ocsidiad - colli electronau
rhydwythiad - ennill electronau
OIL RIG - Oxidation Is Loss of electrons, Reduction Is Gain of electrons
PANIC - Positive is Anod, Negatif Is Catod
Plwm Bromid - catod/anod, hafaliad llawn, arsylwi
Electrolysis
Catod - Pb2+
Derbyn 2 electron i ffurfio Pb (rhydwythiad)
Anod - Br-
Rhyddhau electron i ffurfio Br2 (ocsidiad)
Hafaliad llawn - PbBr2 –> Pb + Br2
Arsylwi - metel tawdd lliw arian yn casglu o dan y catod a swigod nwy brown oren yn yr anod
Alwminiwm Ocsid - electrolyt, electrod, catod/anod, hafaliad, arsylwi
Electrolysis
electrolyt - alwminiwm ocsid tawdd yn cael ei hydoddi mewn cryolit tawdd i leihau’r ymdoddbwynt
electrodau - carbon
catod - ionau alwminiwm yn ennill electronau (rhydwytho) Al3+ + 3e- –> Al
anod - ionau ocsid yn colli electronau (ocsidio) 2O2- –> O2 + 4e-
hafaliad llawn - 2Al2O3 –> 4Al + 3O2
alwminiwm ocsid –> alwminiwm + ocsigen
arsylwi - haen denau o alwminiwm ocsid yn ffurfio ar arwyneb y metel a warchod adwaith pellach
Ffactorau sy’n effeithio ar hyfywdra economaidd (gallu i ddigwydd) a chynaliadwyedd prosesau echdynnu
- lleoli gweithfeydd gerllaw’r arfordir i fewnforio defnyddiau crai
- safle dim yn agos i ardaloedd adeiledig
- tref neu ddinas o fewn pellter teithio
- cysylltiadau trafnidiaeth da i gludo’r cynnyrch i’r cleient
- cyflenwad trydan uniongyrchol oherwydd bod angen llawer o egni trydanol
lle? priodweddau?
Metelau Trosiannol
lle - canol y tabl cyfnodol
priodweddau - hydrin, ymdoddbwynt uchel, dargludo trydan a gwres yn dda, catalyddion defnyddiol, ffurfio mwy nag un math o ion
sut? hafaliadau ionig? arsylwad? cyflwr? - Cu2+, Fe2+, Fe3+
Arbrawf Adnabod Ionau
sut - adnabod yn ol adweithiau hydoddiad ag OH- dyfrllyd
hafaliadau ionig + arsylwad -
Cu2+ +2OH- –> Cu(OH)2 - glas gelaidd
Fe2+ + 2OH- –> Fe(OH)2 - gwyrdd gelaidd
Fe3+ + 3OH- –> Fe(OH)2 - brown lliw rhwd gelaidd
cyflwr - dyfrllyd i solid
haearn? alwminiwm? copr? titaniwm?
Priodweddau a Defnydd Metelau
haearn - caled, cryf - creu dur
alwminiwm - cryf, dwysedd isel, dargludo gwres a trydan, gwrth gyrydol - ceblau pwer, sosbenni, fframiau ffenestri, awyrennau
copr - dargludo gwres a trydan, hydrin a hydwyth, lliw a gloywedd deniadol - pibellau dwr/nwy, gwifrau trydanol, sosbenni, gemwaith
titaniwm - caled, cryf, dwysedd isel, gwrth gyrydol, ymdoddbwynt uchel - awyrennau, mewnblaniad meddygol, cerbydau modur
beth? sut? electrodau wedi’i wneud..? hafaliad?
Electrolysis Dwr
beth - ymhollti H2O mewn i H2 ac O2
sut - pasio cerrynt union trwy electrodau i ddwr fel bod yr ionau’n rhydd i symud
electrodau wedi’i wneud o blatinwm
hafaliad - 2H2O (h) –> 2H2 (n) + O2 (n)
sut? anod? catod?
Puro Copr gan Electrolysis
sut - trydan yn cael ei basio drwy hydoddiannau
anod (electrod positif) - copr amhur, rhydwytho
catod (electrod negatif) - gopr pur, ocsidio
pam? defnydd crai? catod+ anod - ffurfio?
Cynhyrchu Sodiwm Hydrocsid
pam - defnyddio yn niwydiant clor-alcali
defnydd crai - dwr y mor
catod - ffurfir Hydrogen
anod - ffurfir nwy Clorin
defnydd pwysig - hydrogen, clorin, sodiwm?
Electrolysis Sodiwm Clorid
hydrogen - tanwydd a gweithgynhyrchu amonia
clorin - lladd bacteria mewn dwr, greu canyddion a plastigion
sodiwm hydrocsid - cynhyrchu sebon a channydd (bleach)