2.1 Bondio, Adeiledd a Priodweddau Flashcards
rhwng? beth?
Bondio Ionig
rhwng metel ac anfetel
atomau metelau yn trosglwyddo electronau i atomau anfetelau
beth? creu?
Bondio Metelig
atomau’n colli rheolaeth dros electronau, yn creu mor o electronau dadleoledig
creu dellten o ionau positif
beth? bodoli rhwng..
Atyniad Electrostatig
atyniad rhwng + a -
cryf ac yn anodd gwahanu felly’n cymryd llawer o egni. bodoli rhwng y bondiau metelig
beth - ffurfio, atyniad..?
Cyfansoddion Ionig
gwefrau dirgroes yn ffurfio adeiledd ionig enfawr (dellt ionig)
atyniadau electrostatig cryf iawn felly’n anodd gwahanu’r ionau positif a negatif
angen llawer o egni felly gyda ymdoddbwyntiau a berwbwyntiau uchel
ymdoddbwynt/berwbwynt? dargludo trydan? dargludo gwres? 3H
Priodweddau Ffisegol Metelau
ymdoddbwyntiau/berwbwyntiau uchel - angen llawer o egni i dorri’r bondiau metelig cryf
dargludo trydan yn dda ar ffurf solid a hylif - achos bod mor o electronau dadleoledig sy’n rhydd i symud
dargludo gwres yn dda - electronau’n rhydd i symud, ac felly’n trosglwyddo egni thermol trwy’r metel
hydrin, hydwyth, hyblyg - ionau positif yn llithro dros ei gilydd
Wrth symud trwy’r cyfnodau mae’r bondiau’n gryfach
rhwng?
Bondio Cofalent
rhwng dau anfetel
cael plisgyn allanol llawn trwy rhannu electronau yn creu bond cofalent/moleciwl
beth?
Grymoedd Van der Waals
y grym sydd rhwng moleciwlau
ymdoddbwyntiau a berwbwyntiau? dargludo trydan? G ac F? hydawdd?
Priodweddau Ffisegol Cyfansoddion Ionig
ymdoddbwyntiau a berwbwyntiau uchel - atyniad cryf ac felly’n cymryd llawer o egni i dorri’r bondiau ionig
dargludo trydan wedi’i ymdoddi neu hydoddi - ionau’n datgysylltu o’r dellt ac yn rhydd i symud
galed ac yn frau - ionau’n llithro dros ei gilydd, ionau gwefrau tebyg yn gwrthyrru sy’n gwthio’r haenau ar wahan
hydawdd mewn dwr - atyniadau rhwng yr ionau a’r moleciwlau dwr yn gryfach na’r atyniadau rhwng dwr a’i hun
ymdoddbwynt/berwbwynt? ynysyddion trydanol? hydawdd mewn dwr?
Priodweddau Ffisegol Sylweddau Cofalent Moleciwlaidd Syml
ymdoddbwynt a berwbwynt isel - dim gwefr felly dim atyniad cryf, ond grymoedd gwan Van der Waals
ynysyddion trydanol ar unhryw gyflwr - achos does dim gwefr
llai hydawdd/anhydawdd mewn dwr - atyniadau cryf rhwng y moleciwlau a’r dwr yn wannach na’r dwr a’i gilydd
raddfa, a.a, adweithio’n…
Nanogwyddoniaeth
1nm - 100nm
arwynebedd arwyneb mawr iawn i’w gymharu a’u cyfaint
adweithio’n gyflym, fel catalydd
titaniwm deuocsid, arian(GGG). arwain at…
Nanogwyddoniaeth - priodweddau’n newid?
titaniwm deuocsid - defnyddio yn hufen eli haul i atal golau uwch fioled rhag taro’r croen
arian - gwrth facteria, gwrth firws a gwrth ffwng
arwain at - catalyddion newydd, cyfrifiaduron newydd, defnyddiau adeiladu cryfach ac ysgafnach, synhwyryddion mwy manwl
Manteision/Anfanteision/Peryglon
Nanowyddoniaeth
mantais -
liposomau - defnyddio i ddarparu dognau bach iawn o foddion i ran benodol yn y corff
anfanteision/peryglon -
achosi sgil effeithiau, catalyddu adweithion mewn pethau fyw mewn ffordd annisgwyl yn achosi afiechyd neu farwolaeth, dim yn gwybod yr effaith hir dymor ar y corff
beth? priodweddau?
Diemwnt
Sylwedd Cofalent Enfawr
Pob atom carbon yn rhannu electronau gyda 4 arall
ymdoddbwynt a berwbwynt uchel, ynysydd trydanol, galed iawn, anhydawdd mewn dwr
beth? priodweddau?
Graffit
Sylwedd Cofalent Enfawr
Adeiledd Haenog enfawr, pob atom carbon gyda 3 bond cofalent a 3 atom arall drosto mewn 3D
ymdoddbwynt a berwbwynt uchel, dargludydd trydanol, meddal, brau, llithrig, anhydawdd mewn dwr
beth? priodweddau?
Ffwleren
adeiledd yn cynnwys peli, cewyll neu diwbiau o atomau carbon. ddim yn adeiledd cofalent enfawr
dargludo trydan, cryf, dwysedd uchel, hydawdd mewn hydoddiannau organig e.e petrol
beth? priodweddau?
Nanotiwb Carbon
Sylwedd Cofalent Enfawr
fel haen o graffit wedi rolio i fyny i diwb
ymdoddbwynt a berwbwynt uchel iawn, dargludydd/lled-dargludydd trydanol, gryf iawn, dwysedd uchel, anhydawdd mewn dwr
beth? priodweddau?
Graffen
Sylwedd Cofalent Enfawr
haen unigol o atomau carbon
ysgafn, ymestyn fel rwber, denau, dwys, anhydraidd i nwyon neu hylifau, tryloyw, cryf, dargludydd trydanol ardderchog
beth?
Defnyddiau Clyfar
defnyddiau modern sy’n gallu newid eu priodweddau wrth i’r amgylchedd newid. mae’r newid yma’n cildroadwy
pigmentau thermocromig
Defnyddiau Clyfar
newid lliw wrth i’r tymheredd newid
e.e stribed mesur tymheredd neu llwy bwyd babi
pigmentau ffotocromig
Defnyddiau Clyfar
newid lliw wrth i’r arddwysedd golau newid
e.e sbectol haul neu sgrin wynt
polymerau sy’n cofio siap
Defnyddiau Clyfar
adennill ei siap gwreiddiol wrth gael ei wresogi.
e.e pwythau llawfeddygol bioddiraddadwy sy’n tynhau’r i’r tensiwn cywir yn awtomatig wrth gael ei wresogi gan eich croen
aloiau sy’n cofio siap
Defnyddiau Clyfar
gallu adennill eu siap gwreiddiol. hyblyg iawn ac yn cofio eu siap gwreiddiol
e.e NiTi / defnyddio mewn stentiau ar gyfer gwythiennau, fframiau sbectol tra-elastig
hydrogeliau
Defnyddiau Clyfar
gallu amsugno/gyrru allan dwr a chwyddo/crebachu hyd at 1000 gwaith eu cyfaint oherwydd newidiadau mewn pH neu tymheredd
e.e cewyn babi (nappy)