2.2 Asidau, Basau a Halwynau Flashcards
beth? beth sy’n digwydd mewn dwr? enghreifftiau?
Asidau
beth - cyfansoddyn sy’n cynnwys Hydrogen
mewn dwr - daduno i ffurfio ion + a -
enghreifftiau - Asid Hydroclorig, Asid Sylffwrig, Asid Nitrig
beth? enghreifftiau?
Alcaliau
beth - cyfansoddyn sy’n ffurfio ionau OH- mewn hydoddiant
enghreifftiau - Sodiwm Hydrocsid, Potasiwm Hydrocsid, Calsiwm Hydrocsid
beth? enghreifftiau?
Basau
beth - ocsid o fetel
enghreifftiau - Sodiwm Ocsid, Calsiwm Ocsid
mesur o..
Y Raddfa pH
mesur o faint o ionau H+ (asid) sydd mewn hydoddiant
y mwyaf o ionau H+, y mwyaf asidig
beth?
Dangosydd Cyffredinol
beth - sylwedd sy’n newid lliw pan mae’n cael ei ychwanegu at sylwedd asidig, alcaliaidd neu niwtral
cryf? gwan? crynodedig? gwanedig? - beth?
Asidau Cryf a Gwan
asid cryf- daduno’n llawn
asid gwan - daduno’n rhannol (cildroadwy)
asid crynodedig - llawer o asid wedi hydoddi mewn cyfaint penodol o ddwr
asid gwanedig - ychydig o asid wedi hydoddi mewn cyfaint penodol o ddwr
beth? enw cyntaf a cyfenw?
Halwyni
beth - cyfansoddyn a pH o 7 sy’n ffurfio yn ystod niwtraliad
enw cyntaf - metel/ion sy’n adweithio a’r asid
cyfenw - yr asid
beth? ecsothermig/endothermig?
Niwtraliad
beth - asidau yn adweithio gyda basau, alcaliau neu garbonadau i ffurfio halwyn gyda pH o 7
adwaith ecsothermig
cynnyrch? enghraifft? prawf ar gyfer y cynnyrch?
Metel + Asid
Metel + Asid –> Halwyn + Hydrogen
enghraifft - Magnesiwm + Asid Hydroclorig –> Magnesiwm Clorid + Hydrogen
prawf hydrogen - goleuo sblint, rhoi mewn hydrogen, clywir pop gwichlyd
cynnyrch? enghraifft? y 2 prawf?
Asid + Metel Carbonad
Asid + Metel Carbonad –> Halwyn + Dwr + Carbon Deuocsid
enghraifft - Asid Sylffwrig + Copr Carbonad –> Copr Sylffad + Dwr + Carbon Deuocsid
prawf carbonad - pan mae asid yn adweithio gyda carbonad bydd yn sio, a swigod i’w weld
prawf carbon deuocsid - dwr calch clir yn troi’n llaethog
cynnyrch? enghraifft?
Asid + Metel Ocsid
Asid + Metel Ocsid –> Halwyn + Dwr
enghraifft - Asid Sylffwrig + Copr Ocsid –> Copr Sylffad + Dwr
cynnyrch?
Asid + Alcali
Asid + Alcali –> Halwyn + Dwr
2 dull
Paratoi Halwynau Anhydawdd
hidlo - tynnu hydoddiant o’r waddod
golchi - tynnu ionau eraill o’r waddod
beth?
Titradiad
beth - dechneg o niwtralu asid gyda alcali
dull
Titradiad
1) cyfaint penodol o alcali yn cael ei fesur gyda phiped a’i drosglwyddo i fflasg gonigol
2) ychwanegu dangosydd a’r asid yn araf o’r bwred
3) stopio ychwanegu asid pan mae’r dangosydd yn newid lliw
4) darlleniad ar y fwred i ddangos faint o asid oedd angen i niwtralu’r alcali