2.2 Cyfraddau Adweithio Flashcards
Mesur Cyfradd Adwaith (rhestr dulliau)
- Newid mewn mas dros amser
- Newid mewn cyfaint nwy dros amser
- Newid mewn gwasgedd dros amser
- Lliwfesuriaeth
- Dargludiad Hydoddiannau
- Dadansoddiad trwy Ditradu
Newid mewn mas dros amser
Os yn cynhyrchu nwy -> mas yn gostwng
Os nwy yn adweithydd -> mas yn cynyddu
Newid mewn cyfaint nwy dros amser
Defnyddio chwistrell nwy i fesur cyfaint y nwy
Newid mewn gwasgedd dros amser
Defnyddio cynhwysydd gyda chyfaint penodol
Nifer o folecylau nwy yn lleihau -> gwasgedd yn gostwng
Lliwfesuriaeth
Newid mewn lliw yr hydoddiant
e.e. cloc iodin -> cynhyrchu lliw du-las gyda’r dangosydd starts
Dargludiad Hydoddiannau
Hydoddiannau gyda cyfansoddion ionig -> dargludo trydan yn dibynnu ar y nifer o ionau
Mesur dargludiad -> mesur newid mewn crynodiad yr ionau
Dadansoddiad trwy Ditradu
Samplu a drochoeri
Oeri sylwedd yn sylweddol i ladd un o’r adweithyddion / catalydd
Hafaliad Cyfradd Adwaith
Newid yn swm y sylwedd / Amser
Adwaith cloc
Adwaith ble mae newid sydyn yn ymddangosiad y cymysgedd ar ol i faint penodol o’r adwaith digwydd
Hafaliadau Adwaith Cloc Iodin
2H+ (d) + 2I- (d) + H2O2 (d) -> I2 (d) + 2H2O (h)
Dull Cloc Iodin
Ychwanegu bach o Sodiwm Thiosylffad -> cael gwared o iodin ar ddechrau’r adwaith
Starts yn newid lliw i ddu-las pan mae’r sodiwm thiosylffad wedi ei defnyddio
Egwyddor Theori Gwrthdrawiadau
Er mwyn i ronynnau adweithio rhaid iddynt wrthdaro gyda digon o egni
2 ffordd i gynyddu cyfradd adwaith
- Cynyddu nifer y gwrthdrawiadau
- Cynyddu egni’r gwrthdrawiadau
Effaith Gwasgedd a Crynodiad
Mwy o ronynnau o’r adweithyddion mewn cyfaint penodol -> siawns mwy o wrthdrawiadau llwydiannus pob uned o amser
Effaith Arwynebedd
Malu adweithydd solid i bowdr -> arwynebedd arwyneb uwch nag un darn mawr
-> gronynnau’n gwrthdaro’n fwy aml gyda’r arwynebedd uwch
-> cynyddu cyfradd adwaith
Egni Actifadu
Yr egni i dorri’r bondiau yn yr adweithyddion i ddechrau adwaith cemegol
Y Cyflwr Trosiannol
Y pwynt gyda’r egni uchaf, lle mae’r atomau hanner ffordd rhwng yr adweithyddion a’r cynhyrchion. (bodoli am ffracsiwn o eiliad)
ΔH
Egni i dorri’r bondiau - egni i ffurfio’r bondiau
= blaen adwaith - ol-adwaith
Proffil egni adwaith cildroadwy
Egni actifadu’r blaen adwaith = Egni actifadu’r ol-adwaith
ΔH-
Ecsothermig -> egni ffurfio>torri
ΔH+
Endothermig -> egni torri>ffurfio
Echelinau Diagram Dosraniad Boltzmann
y = Nifer o ronynnau gyda’r egni E
x = Egni gronynnau, E
Tymheredd isel vs uchel ar Diagram Boltzmann
Tymheredd uwch = uchafbwynt is
Tymheredd uwch = uchafbwynt i’r dde (egni uwch)
Arwynebedd o dan y graff yn hafal
Egni actifadu ar dymheredd uwch
Gronynnau gyda mwy o egni cinetig
-> mwy o ronynnau gyda’r egni actifadu
-> tebygolrwydd mwy o gael mwy o wrthdrawiadau llwyddiannus pob uned o amser
-> cynyddu cyfradd adwaith