1.2 Adeiledd yr atom ac electronau Flashcards
Dadfeiliad Ymbelydrol
Ffurfiad niwclews sefydlog (isotopau mawr, ansefydlog yn torri -> niwclews yn rhyddhau egni + ymbelydredd)
Pwer treiddio a->y
cynyddu
Pwer ioneiddio a->y
lleihau
Rhwystro alffa
papur
Rhwystro beta
5mm alwminiwm
Rhwystro gamma
2cm plwm
Magnetedd alffa
Atynnu at y plat negatif
Magnetedd beta
Atynnu at y plat positif
Beth yw gronyn alffa?
Niwclews Heliwm 4/2He
Allyriad Alffa
Rhif mas -4, Rhif atomig -2
Beth yw gronyn beta?
Electron egni uchel
Dadfeiliad beta
Niwtron o’r niwclews yn hollti -> rhoi proton ac electron egni uchel -> -1 niwtron a +1 proton
Dadfeiliad beta gildro
Dal electron - electron o’r orbital yn cael ei ddal gan broton -> ffurfio niwtron
Dadfeiliad positron
proton yn dadfeilio i roi niwtron a positron -> positron yn gadael -> -proton +niwtron
Beth yw positron
Gwrthronnyn yr electron (yr un mas ond gwefr dirgroes) = e+
Pelydrau gama
tonnau electromagnetig egni uchel
Hanner oes
Yr amser mae’n cymryd i hanner yr atomau mewn sampl o radioisotop dadfeilio
Defnydd pelydriad gama
steryllu bwyd, offer meddygol ; therapi pelydriad i ladd celloedd canser
Defnydd isotopau ymbelydrol
PET scans (darganfod tiwmor) ; darganfod rhydweliau wedi blocio
Radio-ddyddio
maint cyson o Carbon-14 ym mhob peth byw -> stopio ar ol marw -> cyfri i weld amser ers marw
Orbitalau atomig
rhan mewn atom sy’n gallu dal hyd at ddau electron a sbiniau dirgroes
Egni ioneiddiad cyntaf molar
egni sydd angen i dynnu un mol o electronau o un mol o atomau nwyol
Egni ioneiddiad olyn
egni sydd angen i dynnu pob electron o atom yn ei dro
Is-lefel s
1 orbital siap sffer