1.7 Ecwilibria Syml ac Adweithiau Asid-Bas Flashcards
Adwaith cildroadwy
Adwaith yn digwydd i’r ddau gyfeiriad (blaenadwaith a nol adwaith)
Ecwilibriam Dynamig
Sefyllfa pan fydd y blaenadwaith ar ol adwaith yn digwydd ar yr un gyfradd mewn system gaeedig
Egwyddor La Chatelier
Pan fydd system mewn ecwilibriwm cemegol yn cael ei effeithio gan newid mewn ffactor allanol (tymheredd, gwasgedd, crynodiad), bydd y system yn newid safle’r ecwilibriwm er mwyn lleihau effaith y newid hwn
ΔH +
Endothermig (amsugno gwres)
ΔH -
Ecsothermig (rhyddhau gwres)
Tymheredd (ffactor ecwilibriwm)
Os ydy’r tymheredd yn cynyddu, bydd y system yn symud i gyfeiriad yr adwaith endothermig, er mwyn amsugno’r gwres a lleihau’r tymheredd
Gwasgedd (ffactor ecwilibriwm)
Os ydy’r gwasgedd yn cynyddu, bydd y safle ecwilibriwm yn symud i gyfeiriad y cemegau gyda’r lleiaf o folau nwyol, er mwyn lleihau gwasgedd yn y system
Crynodiad (ffactor ecwilibriwm)
Os ydy crynodiad un o’r rhywogaethau yn y system yn cynyddu, bydd y system yn newid y safle ecwilibriwm i gyfeiriad fel bod y sylwedd hwnnw yn adweithio, er mwyn lleihau’r crynodiad
Catalydd (ffactor ecwilibriwm)
Dim effaith ar safle ecwilibriwm, ond yn cyflymu’r amser i’r adwaith cyrraedd ecwilibriwm dynamig
Kc
Cysonyn ecwilibriwm (unigryw i bob adwaith)
Beth sy’n effeithio ar Kc
Dim ond newid tymheredd
Hafaliad Kc
aA + bB -> cC + dD
Kc = [C]^c [D]^d / [A]^a [B]^b
[A]
crynodiad A
Asid
Ion/moleciwl sy’n gallu rhoi proton i fas (daduno i rhoi H+)
Bas
Ion/moleciwl sy’n gallu derbyn proton o asid
Alcali
Bas hydawdd (fel arfer OH-)
Daduniad Asid gwan
Cildroadwy (daduno’r rhannol)
Daduiad Asid cryf
Ddim yn cildroadwy (daduno’n llawn)
Metel + Asid
Halwyn + Hydrogen
Asid + Bas (ocsid)
Halwyn + Dwr
Asid + Bas (carbonad)
Halwyn + Dwr + Carbon Deuocsid
Fformiwla pH
pH = -log10[H+]
Fformiwla [H+]
[H+] = 10^-pH