1.4 Bondio Flashcards
Bondio ionig
Trosglwyddo electronau o un atom i atom arall gan ffurfio gronynnau gwefredig (ionau)
Cation
yr atom sy’n colli electronau (ion positif)
Anion
yr atom sy’n ennill electronau (ion negatif)
Egni ioneiddiad bondio ionig
Metel fel arfer yn cation (colli electronau’n haws -> egni ioneiddiad isel)
Anfetel yn anion (medru ennill electronau)
Ble mae mwyafrif o ddwysedd electronau
Mewn cwmwl siap sffer yn agosach at y niwclews (yn yr ionau)
Trefniad cationau ac anionau mewn bond ionig
Mae pob anion wedi’i amgylchynu gan nifer penodol o gationau
Grymoedd atyniadol mewn bondio ionig
Grymoedd rhwng yr ionau positif a negatif
Grymoedd gwrthyrru mewn bondio ionig
Gwrthyriadau rhwng yr ionau o’r un wefr rhwng plisg mewnol yr ionau
+ rhwng y niwclysau positif
Bondio cofalent
Orbitalau anfetelau yn gorgyffwrdd a cyfuno i ffurfio orbital moleciwlaidd allan o’r ddau orbital atomig (rhannu electronau gyda sbiniau dirgroes)
Siap bond cofalent
Orbital s gyda siap elipsoidol
Atyniad bondio cofalent
Atyniad yr electronau i’r niwclysau positif yn gryfach na’r grym gwrthyriad rhwng y ddau niwclews
Bondiau Dwbl
2 bar o orbitalau yn gorgyffwrdd i ffurfio 2 orbital moleciwlaidd
2il orbital bond dwbl
Orbital pi -> 2 orbital p yn gorgyffwrdd i’r ochr (gwanach na bond sigma -> torri’n haws)
Orbital 1af bond cofalent / cofalent dwbl
Orbital sigma -> 2 orbital s yn gorgyffwrdd
Bondiau cyd-drefnol
Par o electronau rhanedig gyda’r dau electron yn dod o’r un atom
Atom electron-diffygiol
Diffyg electronau yn un atom (llai na 8 electron yn ei blisgyn allanol)
Par unig mewn bond cyd-drefnol
Par o electronau yn y plisgyn allanol sydd heb eu defnyddio mewn bond
Alwminiwm Clorid
Electron diffygiol (6) -> moleciwl yn ffurfio deumer (cysylltu gan 2 bond cyd-drefnol)
Deumer
Moleciwl sy’n ffurfio o 2 moleciwcl llai wedi’u huno gyda’i gilydd
Electronegatifedd
Tuedd unrhyw elfen i dynnu dwysedd electronau tuag at ei hun mewn bond cofalent
Electronegatifedd i lawr grwp yn y tabl cyfnodol
Gostwng
Electronegatifedd ar draws cyfnod yn y tabl cyfnodol
Cynyddu
Elfen mwyaf electronegatif
Fflworin
Elfen lleiaf electronegatifedd
Cesiwm