1.6 Y Tabl Cyfnodol Flashcards
Ym mha bloc ffeindiwyd yr elfennau;
1) Yng ngrwpiau 1 a 2
2) Sy’n metelau trosiannol
3) Yng ngrwpiau 3,4,5,6,7,8
4) Sy’n rhydwytho yn ystod rhydocs
5) Sy’n ocsidio yn ystod rhydocs
6) Â rhif ocsidiad 1 neu 2
7) Anfetelig
8) Basig
9) Â rhif ocsidiad -2 neu -1
10) Metelig
11) Asidig
12) Sy’n catïonau
13) Â thymheredd ymdoddi sy’n cynyddu hyd at grwp 4
14) Â thymheredd ymdoddi sy’n lleihau wrth fynd i lawr y bloc
15) Sy’n anionau
16) Â thymheredd ymdoddi sy’n cynyddu wrth fynd i lawr y bloc
1) s
2) d
3) p
4) s
5) p
6) s
7) p
8) s
9) p
10) s
11) p
12) s
13) d
14) s
15) p
16) p
Esboniwch pam mae egnïon ïoneiddiad yn cynyddu ar draws cyfnod ond yn lleihau i lawr y grwp
Ar draws cyfnod engh rhwng Li ac F - mae electronau’n cael eu hychwanegu yn yr un prif blisgyn, ac felly nid oes llawer o gysgodi electron ychwanegol i wrthsefyll y cynnydd mewn gwefr niwclear. Ond mae’r electron Na sydd am gael ei golli’n cael ei gysgodi gan yr holl blisgyn mewnol yn y rhes sy’n dechrau â Li; mae hyn yn gwrthsefyll y protonau ychwanegol yn y niwclews
Diffiniwch rydwythydd
Mae rhydwythydd yn rhoi electron i rywogaeth arall, ac felly mae’n cael ei ocsidio drwy golli’r electron
Diffiniwch ocsidydd
Mae ocsidydd yn tynnu electron oddi ar rywogaeth arall, ac felly mae’n cael ei rydwytho
Diffiniwch Rhydocs
Adwaith cemegol lle mae electron yn cael ei drosglwyddo o un rhywogaeth - y rhydwythydd - i rywogaeth arall, sy’n cael ei rydwytho drwy dderbyn yr electron
Nodwch y saith rheol ar gyfer cyflyrau ocsidiad
1) Rhif ocsidiad pob elfen yw sero
2) Rhif ocsidiad hydrogen mewn cyfansoddion yw +1 neu l, fel arfer
3) Ocsigen yw -2 neu -ll, fel arfer
4) Elfennau grwp 1 mewn cyfansoddion yw l ac elfennau grwp 2 yw ll
5) Elfennau grwp 6 mewn cyfansoddion yw -ll ac elfennau grwp 7 yw -l
6) Mae elfen sy’n bodio â hi ei hun yn dal yn 0
7) Mae’n rhaid i rifau ocsidiad yr elfennau mewn cyfansoddion adio i sero ac i rifau ocsidiad yr elfennau mewn ïon adio i’r wefr ar yr ïon
Enrhifwch rifau ocsidiad yr atomau a nodir yn y cyfansoddion canlynol;
A) H mewn H2
B) Cr mewn K2CrO4, ac K2Cr2O7
C) S mewn Na2S2O3, ac Na2S4O6
D) y ddau atom S yn yr ïon thiosylffad, sydd â’r adeiledd S-SO3,2-
A) 0
B) +6, +6
C) +2, +2.5
Ch) 0, +4
Disgrifiwch yr elfennau ym mloc s
Metelau electropositif (electronegatifedd isel) adweithio. Maent yn ffurfio catïonau â rhifau ocsidiad +1 ar gyfer elfennau grwp 1, a +2 ar gyfer grwp 2
Disgrifiwch y cynnyrch a ffurfir wrth losgi elfen o’r bloc s
Ffurfir ocsidau;
Ca+ 1/2O2 -> CaO
Disgrifiwch sut ffurfir ocsid neu hydrocsid âg elfen o’r bloc s
Maen nhw’n rhyddhau hydrogen gyda dwr gan eu ffurfio
Na + H2O -> NaOH + 1/2H2
Disgrifiwch briodweddau elfennau bloc s
- Maent i gyd yn adweithio’n rymus âg asidau. Mae adweithedd yn cynyddu i lawr y grwp ac mae elfennau grwp 1 yn fwy adweithiol na grwp 2
- Mae’r ocsidau a’r hydrocsidau i gyd yn fasig; hynny yw maen nhw’n adweithio ag asidau gan roi halwynau. Mae halwynau grwp 1 yn hydawdd, ond mae adweithiau ïonig grwp 2 ag OH-, CO3,2- ac SO4,2- yn rhoi amrediad o ganlyniadau
Nodwch lliw fflam;
1) Lithiwm
2) Sodiwm
3) Potasiwm
4) Calsiwm
5) Strontiwn
6) Magnesiwm
7) Bariwm
1) Coch
2) Melyn/oreb
3) Lelog
4) Coch bricsen
5) Rhuddgoch
6) Dim
7) Gwyrdd afal
Disgrifiwch hydoddedd Mg(OH)2 yng ngrwp 2
Mae’n anhydawdd mewn dwr ond mae hydoddedd yn cynyddu i lawr y grwp
Disgrifiwch hydoddedd BaSO4 yng ngrwp 2
Mae’n anhydawdd ac mae hydoddedd yn cynyddu i fyny’r grwp
Disgrifiwch hydoddedd yr holl garbonadau a nitradau grwp 2
Carbonadau - anhydawdd
Nitradau - Hydawdd