1.2 Syniadau Sylfaenol Ynghylch Atomau Flashcards
Diffiniwch rif atomig
Nifer y protonau yn niwclews atom
Diffiniwch rif más
Nifer y protonau + nifer y niwtronau yn niwclews atom
Diffiniwch isotopau
Atomau sydd â’r un nifer o brotonau ond niferoedd gwahanol o niwtronau
Disgrifiwch yr adeiledd atomig
Mas atomau’n cynnwys niwclews sy’n cynnwys protonau â gwefr bositif a niwtronau heb wefr ac mae wedi’i amgylchynu gan blisg yn cynnwys electronau â gwefr negatif sy’n symud drwy’r amser. Mae más yr atom, bron i gyd, yn y niwclews. Mae’r un nifer o brotonau ac electronau gan atom
Mae gan bob elfen ddau rif nesaf at ei symbol.
Pa rif yw’r rhif:
1) Atomig
2) Más
1) Y rhif uwchlaw
2) Y rhif uwchben
Pa fath o ïonau yw;
1) Catïonau
2) Anionau
1) Ïonau positif
2) Ïonau negatif
Disgrifiwch sut ffurfir;
1) Catïonau
2) Anionau
1) Pan fydd atom yn colli un neu fwy o electronau
2) Pan fydd atom yn ennill un neu fwy o electronau
Diffiniwch ronynnau alffa
Clwstwr o 2 broton a 2 niwtron; mae gwefr bositif ganddynt
Diffiniwch ronynnau beta
Electronau sy’n symud ym gyflym; mae gwefr negatif ganddynt
Diffiniwch belydrau gama
Pelydriad electromagnetig ag egni uchel; dim gwefr
Disgrifiwch effaith maes trydanol ar ronynnau;
1) Alffa
2) Beta
1) Yn cael eu hatynnu at blât negatif
2) Yn cael eu hatynnu at blât positif
Disgrifiwch effaith maes trydanol ar belydrau gama
Nid oes effaith
Disgrifiwch effaith maes magnetig ar ronynnau;
1) Alffa
2) Beta
1) Yn cael eu gwyro i gyfeiriad penodol
2) Yn cael eu gwyro i’r cyfeiriad dirgroes
Disgrifiwch effaith maes magnetig ar belydrau gama
Nid oes effaith
Disgrifiwch bŵer treiddio gronynnau alffa
Y lleiaf treiddiol; mae dalen o babur yn eu rhwystro
Disgrifiwch bŵer treiddio gronynnau beta
Mae dalen denau o fetel (0.5cm o alwminiwm) yn eu rhwystro
Disgrifiwch bŵer treiddio pelydrau gama
Y mwyaf treiddiol; gall fod angen mwy na 2cm o blwm i’w rhywstro
Ysgrifennwch hafaliad lle mae Wraniwm â rhif mas o 238 a rhif atomig o 92 yn allyrru gronyn alffa
238U92 –> 234Th90 + 4a2
Ysgrifennwch hafaliad lle mae Carbon â rhif mas o 14 a rhif atomig o 6 yn allyrru gronyn ß
14C6 –> 14N7 + ß-1
1) Rhowch enw arall ar gyfer ß+
2) Disgrifiwch beth bydd yn digwydd os mae electron a gronyn ß+ yn dod i gyffwrdd
1) Positron
2) Dileu ei gilydd
Diffiniwch hanner oes
Yw’r amser mae’n ei gymryd i hanner yr atomau mewn radioisotop ddadfeilio neu’r amser mae’n ei gymryd i ymbelydredd radioisotop ddisgyn i hanner ei werth cychwynnol
Amlinellwch pam gall ymbelydredd fod yn beryglus i iechyd
Mae ymbelydredd yn ïoneiddio/rhyddhau egni uchel sy’n achosi mwtaniad celloedd sy’n gallu arwain at losgiadau/salwch ymbelydredd/canser