1.3 Cyfrifiadau Cemegol Flashcards
Diffiniwch fàs atomig cymharol
Y màs cyfartalog un atom o’r elfen o’i gymharu ag un deuddegfed màs un atom o garbon-12
Diffiniwch fàs isotopig cymharol
Y màs un atom o isotop o’i gymharu ag un deuddegfed màs un atom o garbon-12
Diffiniwch fàs fformiwla cymharol cyfansoddyn
Y swm masau atomig cymharol yr holl atomau sy’n bresennol yn ei fformiwla
Sut allwn ni gyfrifo màs cyfartalog atom o elfen?
Trwy ddefnyddio sbectromedr màs
Crynhowch yr holl brosesau mewn sbectromedr màs
Anweddiad - mae sampl yn cael ei wresogi cyn mynd i mewn i sbectromedr màs
Ïoneiddiad - mae sample nwyol yn cael ei beledu gan electronau egni uchel gan ffurfio ïonau positif
Cyflymiad - mae maes trydanol yn cyflymu’r ïonau positif i fuanedd uchel
Gwyriad - mae maes magnetig yn gwyro’r ïonau yn ôl eu cymhareb màs/gwefr
Canfod - mae ïonau sydd â’r gymhareb màs/gwefr gywir yn mynd drwy hollt ac yn cael eu canfod gan offeryn fel electromedr. Yna bydd y signal yn cael ei fwyhau a’i gofnodi
Mae’r prosesau yn digwydd mewn gwactod uchel i osgoi gwrthdaro â molecylau aer
Diffiniwch fformiwla empirig
Y fformiwla symlaf sy’n dangos cymhareb rhifau symlaf nifer yr atomau o bob elfen sy’n bresennol
Diffiniwch fformiwla folecylaidd
Yn dangos gwir nifer yr atomau o bob elfen sy’n bresennol yn y moleciwl. Mae’n lluosrif syml o’r fformiwla empirig
Diffiniwch un mol
Yw’r swm o unrhyw sylwedd sy’n cynnwys yr un nifer o ronynnau gyda’r nifer o atomau sydd mewb 12g yn union o garbon-12
Diffiniwch gysonyn Avogadro, L
Nifer yr atomau mewn un mol sef 6.02x10^23
Diffiniwch fas molar
Mas un mol o sylwedd