1.5 Adeileddau Solidau Flashcards
Diffiniwch rifau cyd-drefnol grisial
Nifer yr anionau o amgylch pob catïon mewn dellten grisial ac fel arall
Dim ond beth sy’n rheoli’r rhif cyd-drefnol grisial?
Maint y catïon
Beth yw’r rhif cyd-drefnol;
1) CsCl
2) NaCl
a pham?
1) 8:8 oherwydd gall wyth anion clorid ffitio o amgylch yr ïon Cs+
2) 6:6 oherwydd gall chwech anion clorid ffitio o amgylch yr ïon Na+
Disgrifiwch adeiledd diemwnt
Adeiledd cofalent tetrahedrol cryf sy’n ffurfio adeiledd tri dimensiwn enfawr
Disgrifiwch adeiledd graffit
Haenau o hecsagonau cofalent sy’n cael eu dal at ei gilydd gan rymoedd gwan Van der Waals
Enwch a disgrifiwch y bondiau mewn ïodin solet
Y bondiau cofalent cryf sy’n dal yr atomau ïodin at ei gilydd a’r grymoedd rhyngfolecylaidd Van der Waals gwan sy’n dal yr unedau Iondin yn y grisial molecylaidd
Disgrifiwch adeileddau metelau
Mae atomau’r elfennau metelig i gyd yn rhoi un neu fwy o electronau gan ffurfio nwy neu fôr o electronau dadleoledig sy’n amgylchynu’r ïonau positif sydd wedi’u pacio at ei gilydd ac yn eu clymu drwy’r atyniad rhwng gwefrau dirgroes
Disgrifiwch briodweddau adeileddau ïonig enfawr megis cloridau
Yn galed a brau ac mae ganddynt ymdoddbwynt uchel oherwydd y bondiau ïonig cryf. Nid ydynt yn dargludo trydan yn y cyflwr solet oherwydd nad yw’r ïonau’n rhydd i symud yn y grisial, ond mae’r halwynau tawdd a’u hydoddiannau dyfrllyd yn dargludo gan fod yr ïonau erbyn hyn yn rhydd i symud pan fydd foltedd yn cael ei osod. Gall solidau ïonig fod yn hydawdd neu’n anhydawdd mewn dwr, gan ddibynnu ar ffactorau egnïeg neu adweithiau cemegol, ond mae’r rhan fwyaf o’r cloridau ïonig yn hydawdd
Disgrifiwch briodweddau diemwnt
Adeiledd cofalent enfawr gan achosi ymdoddbwynt uchel iawn ac mae’n anhydawdd mewn dwr. Mae’n galed iawn - mae pob atom carbon wedi’i fondio’n gofalent â phedwar arall, gan ffurfio adeiledd tri dimensiwn. Nid yw’n dargludo trydan oherwydd diffyg electronau dadleoledig
Disgrifiwch briodweddau graffit
Ymdoddbwynt uchel iawn oherwydd ei adeiledd cofalent enfawr ac yn anhydawdd mewn dwr. Mae ei adeiledd haenog yn wan gan ei wneud yn feddal a defnyddiol fel iraid. Yn dargludo trydan oherwydd electronau dadleoledig
Disgrifiwch briodweddau ïodin
Nid yn dargludo trydan. Yn feddal ac anweddol oherwydd ei rymoedd van der Waals gwan sy’n dal yr unedau Iondin at ei gilydd
Disgrifiwch briodweddau nanotiwbiau carbon
Defnydd cryf a mwyaf anystwyth sy’n hysbys oherwydd eu hadeiledd haen graffeb wedi’i rolio.
Diffiniwch ‘graffen’
Haen unigol o graffit
Disgrifiwch briodweddau metelau
Mae eu helectronau dadleoledig yn rhoi dargludedd trydanol a thermol da, ond mae eu tymereddau ymdoddi a’u caledwch yn cynyddu gyda nifer yr electronau o bob atom sy’n cymryd rhan yn y bondio