1.1 Fformiwlâu A Hafaliadau Flashcards
Diffiniwch fformiwla cyfansoddyn
Set o symbolau a rhifau ble mae’r symbolau’n nodi pa elfennau sy’n bresennol ac mae’r rhifau’n rhoi cymhareb nifer atomau’r gwahanol elfennau yn y cyfansoddyn
Yn nhermau gwefrau, diffiniwch gyfansoddyn ïonig
Mae cyfanswm nifer y gwefrau positif yn hafal i gyfanswm nifer y gwefrau negatif mewn un uned fformiwla ar gyfer y cyfansoddyn
Sawl atom ocsigen sy’n bresennol mewn Ca(HCO3)2?
6
Diffiniwch rif ocsidiad
Dull o fynegi sut mae elfennau’n cyfuno. Rhif ocsidiad elfen yw nifer yr electronau mae angen eu hychwanegu at yr elfen (neu eu tynnu oddi arni) i’w gwneud yn niwtral
Beth yw rif ocsidiad Mg2+?
+2 (Mae angen adio +2 o electronau i’w gwneud yn niwtral)
Pryd fydd y rhif ocsidiad yn sero?
Elfen sydd ddim mewn cyfansoddyn; ar ei phen ei hun
Beth yw’r cyfanswm y rhifau ocsidiad mewn cyfansoddyn megis CO2?
Sero
Beth yw’r rhif ocsidiad mewn ïon?
Mae’n hafal i wefr yr ïon e.e. NO3,-, mae’r rhif ocsidiad yn -1
Pa elfennau sydd â rhif ocsidiad o;
1) +1
2) +2
3) -1
1) Elfennau grwp 1
2) Elfennau grwp 2
3) Elfennau grwp 7
Beth yw’r rhif ocsidiad ocsigen mewn cyfansoddyn?
-2 ac eithrio â fflworin neu mewn perocsidau e.e. H2O2, rhif ocsidiad ocsigen yn -1
Beth yw rhif ocsidiad hydrogen mewn cyfansoddyn?
+1 ac eithrio mewn hydridau metelau e.e. NaH, rhif ocsidiad hydrogen yn -1
Beth fydd y rhif ocsidiad mewn rhywogaethau cemegol sydd ag atomau mwy nag un elfen?
Rydym yn rhoi’r rhif ocsidiad negatif i’r elfen fwyaf electronegatif e.e. Mewn CCl4, mae Cl yn fwy electronegatif na C, felly rhif ocsidiad pob atom Cl yn -1 (Rhif ocsidiad C felly bydd yn +4)
Beth yw rhif ocsidiad;
1) Carbon mewn CH4
2) Ffosfforws mewn Na3PO4
3) Nitrogen mewn KNO2
1) -4
2) +5
3) +3
Nodwch y molecylau deuatomig
Hydrogen, Ocsigen, Fflworin, Bromin, Iodin, Nitrogen, Clorin
Wrth ychwanegu hydoddiant bariwm clorid at hydoddiant sodiwm sylffad, ffurfir gwaddod
1) Ysgrifennwch hafaliad ïonig llawn yr adwaith
2) Ysgrifennwch hafaliad ïonig normal yr adwaith. Eglurwch y gwahaniaeth rhyngddynt
1) Ba2+(d) + 2Cl-(d) + 2Na+(d) + SO4,2-(d) –> BaSO4(s) + 2Na+(d) + 2Cl-(d)
2) Ba2+(d) + SO4,2-(d) –> BaSO4 (s)
Nid yw’r ïonau Na+(d) a’r ïonau Cl-(d) yn newid yn ystod yr adwaith. Maent yn ïonau segur ac yn cael eu gadael allan