1.4 Cysyniadau Egni Flashcards
Gwaith
Lluoswm grym a phellter a symudir i gyfeiriad y grym
Gwaith - fector/sgalar
Sgalar
Hafaliad Gwaith
W = Fd
Arwynebedd o dan graff Grym-Pellter
Gwaith
Hafaliad Gwaith ac Egni Cinetig
Gwaith = newid mewn egni cinetig
Fd = 1/2mv^2 - 1/2mu^2
Egwyddor Cadwraeth Egni
Ni all egni gael ei greu na’i ddinistrio, dim ond ei drosglwyddo
Deillio Hafaliad Egni Potensial Disgyrchiant
Gwaith = F x d
Gwaith = Pwysau x Uchder
Ep = mgh
Pwer
Cyfradd trosglwyddo egni
Hafaliad Pwer a Gwaith
P = E/t = W/t
Un Watt
Un Joule o Egni wedi ei drosglwyddo mewn 1 eiliad
Hafaliad Pwer a Grym
P = Fv
Grymoedd afradlon
Ffrithiant, gwrthiant aer, gludedd
Egni afradloni
Egni i oresgyn grymoedd afradlon -> egni allbwn ar ffurf egni gwres i’r aer o gwmpas
Pam na all gwrthrych sy’n cwympo fownsio yn ol i’r un uchder? (egni)
Trosglwyddo egni i’r molecylau aer oherwydd gwrthiant aer + i’r molecylau yn y llawr wrth ei daro
Cynyddu E.C. y molecylau aer + cynyddu egni hap dirgryniadau y molecylau yn y llawr
Diagramau Trosglwyddo Egni (Diagramau Sankey)
Trwch = maint egni
Egni allbwn defnyddiol = syth ar draws
Egni allbwn gwastraff = gadael i lan/lawr
Effeithlonedd
Y cymhareb o’r egni allbwn defnyddiol a’r egni mewnbwn
Egni defnyddiol/mewnbwn x 100