1.3 Dynameg Flashcards
Grym Cyffwrdd Normal (N)
Y grym i fyny mae arwyneb yn ei roi ar gwrthrych sydd yn gorwedd arno
Pam mae grym cyffwrdd Normal yn digwydd?
Mae atomau’r arwyneb yn cael eu cywasgu ychydig
Ffrithiant
Grym oherwydd 2 arwyneb yn rhwbio yn erbyn eu gilydd
Perthynas Ffrithiant a Mudiant
Ffrithiant wastad yn gwrthwynebu Mudiant
Pwysau
Grym disgyrchiant
Gwrthiant Aer
Grym sy’n gweithredu ar gwrthrychau sy’n symud trwy’r aer
Pam mae gwrthiant aer yn digwydd?
Molecylau aer yn taro’r gwrthrych
Perthynas gwrthiant aer a mudiant
Cynyddu gyda buanedd, gwrthwynebu mudiant
Codiant
Grym sy’n cael ei greu gan solid yn symud trwy hylif/nwy
Trydydd Deddf Newton
Os yw gwrthrych A yn rhoi grym ar gwrthrych B, yna bydd gwrthrych B yn rhoi grym hafal a dirgroes ar gwrthrych A
Par 3ydd Deddf Newton (rheolau)
- Grymoedd yn gweithredu ar gwrthrychau gwahanol
- Grymoedd yn hafal + i gyfeiriadau dirgroes
- Yr un math o rym yn gweithredu
Grymoedd Cytbwys
Gweithredu ar 1 gwrthrych
Newid yn momentwm
Δp = mv - mu
Cyfradd newid momentwm
(mv - mu) /t
Momentwm ac Ail Deddf Newton
F = (mv - mu) /t
Hafaliad Ergyd
Ft = mv - mu
Roced yn lansio (grymoedd sy’n gweithredu)
Grym gwthiad G i fyny
Pwysau (mg) i lawr
ma = G - mg
Lifft (grymoedd sy’n gweithredu)
Tensiwm i fyny
Pwysau (mg) i lawr
ma = T - mg
Hafaliad Pwliau ar gyfer mas M i lawr a mas m i fyny
Mg-mg = (M+m)a
Hafaliad momentwm
p = mv
Uned momentwm
kgms^-1
Momentwm = fector/sgalar
Fector
Egwyddor Cadwraeth Momentwm
Mae cyfanswm momentwm llinol system o wrthrychau sy’n rhyngweithio yn aros yn gyson, cyn belled a bod dim grymoedd allanol yn gweithredu
Hafaliad cadwraeth momentwm
Cyfanswm momentwm cyn = Cyfanswm momentwm ar ol
m1u1 + m2u2 = m1v1 + m2v2
Cadwraeth Egni
Mae egni bob amser yn cael ei gadw mewn gwrthdrawiad -> ond gall newid ffurf
Cadwraeth Egni Cinetig
Egni Cinetig ddim bob amser yn cael ei gadw mewn gwrthdrawiad -> peth yn trosglwyddo i egni dirgrynol hap yr atomau
Gwrthdrawiad Anelastig
Peth/cyfan yr Egni Cinetig yn cael ei newid i ffurfiau eraill o egni
Gwrthdrawiad perffaith anelastig
Y ddau wrthrych yn glynu gyda’i gilydd ar ol gwrthdaro
Gwrthdrawiad Elastig
Egni Cinetig yn cael ei cadw (E.C. cyn = E.C. ar ol)
-> fel arfer mae’r gwrthrychau yn adlamu
Ffrwydradau
Cyfanswm momentau cyn = 0 (pob rhan o’r system yn llonydd)