Whole of Pwyll Flashcards
Yna y trigyssant wynteu ar eu kyuoeth, ac y magwyt Pryderi uab Pwyll Pen Annwn yn amgeledus, ual yd oed dylyet, yny oed delediwhaf gwass a theccaf a chwpplaf o pob camp da o’r a oed yn y dyrnas. Uelly y treulyssant blwydyn a blwydyned, yny doeth teruyn ar hoedyl Pwyll Penn Annwn ac y bu uarw. Ac y gwledychwys ynteu Pryderi seith cantref Dyuet yn llwydannus, garedic gan y gyuoeth a chan pawb yn y gylch. Ac yn ol hynny y kynydwys trychantref Ystrat Tywi, a phedwar cantref Keredigyawn, ac y gelwir y rei hynny seith cantref Seissyllwch. Ac ar y kynnyd hwnnw y bu ef, Pryderi uab Pwyll Penn Annwn, yny doeth yn y uryt wreika. Sef gwreic a uynnawd, Kicua uerch Wynn Gohoyw uab Gloyw Walltlydan uab Cassnar Wledic o dyledogyon yr ynys hon.
Then they dwelled in their wealth, and Pryderi son of Pwyll of Pen Annwn was brought up nobly, as was fitting, so that he became the most valiant and most handsome of all good men in the kingdom. Thus, they spent year after year, until the time came when Pwyll of Pen Annwn grew old and died. And Pryderi ruled over seven cantrefs of Dyfed, beloved by his people and by all in the region. After that, he extended his rule over three cantrefs of Ystrad Tywi and four cantrefs of Ceredigion, and these were called the seven cantrefs of Seisyllwg. And during this time, Pryderi son of Pwyll of Pen Annwn was prosperous in his reign. He had a wife, named Kicua, the daughter of Wynn Gohoyw, son of Gloyw Walltlydan, son of Cassnar Wledic, a notable man of this island
“Teirnon,’ heb y Pwyll, “Duw a dalo yt ueithryn y mab hwn hyt,yr awr hon. A iawn yw idaw ynteu, or byd gwr mwyn, y dalu ytti.” “Arglwyd,’ heb y Teirnon, ‘y wreic a’e magwys ef, nyt oes yn y byt dyn uwy y galar no hi yn y ol. Iawn yw idaw coffau y mi ac y’r wreic honno a wnaethom yrdaw ef.’ ‘Y rof i a Duw,’ heb y Pwyll, “tra parhawyf i mi a’th kynhalyaf, a thi a’th kyuoeth, tra allwyf kynnhal y meu uy hun. Os ynteu a uyd, iawnach yw idaw dy gynnhal nogyt y mi. Ac os kynghor gennyt ti hynny, a chan hynn o wyrda, canys megeist ti ef hyt yr awr hon, ni a’e rodwn ar uaeth at Pendaran Dyuet o hynn allan. A bydwch gedymdeithon chwitheu a thatmaetheu idaw,’ ‘Kynghor iawn,” heb y pawb, ‘yw hwnnw.’ Ac yna y rodet y mab y Pendaran Dyuet, ac yd ymyrrwys gwyrda y wlat y gyt ac ef. Ac y kychwynnwys Teirnon Toryfliant a’y gedymdeithon y ryngtaw a’y wlat ac a’e gyuoeth gan garyat a llywenyd. Ac nyt aeth heb gynnhic ydaw y tlysseu teccaf a’r meirych goreu a’r cwn hoffaf. Ac ny mynnwys ef dim.