Watson a Rayner Flashcards
Pwrpas yr ymchwil
Dangos bod egwyddorion cyflyru clasurol yn gallu esbonio sut all bobl ddysgu ymddygiad e.e. ffobia
Methodoleg
Ymchwiliad a gynhaliwyd o dan amodau rheoledig
Gweithdrefn 1af
Cynnwys sefydlu ymateb emosiynol cyflyredig
- Cyflwyno llygoden fawr wen nad oedd Albert yn ei ofni.
- Cael ei gyflwyno gyda swn uchel (taro morthwyl yn erbyn bar dur) am yr ail dro. Hyn wedi cael ei ailadrodd.
- Yna cyflwyno’r llygoden ar ben ei hun ac yn arsylwi a cofnodi ymddygiad Albert
2il Weithdrefn
Trosglwyddo ymateb cyflyredig i ysgogiadau eraill
- Wedi digwydd 5 diwrnod wedyn, dim yn ofni’r llygoden fawr i ddechrau, cael ei gyflwyno’r ail dro gyda swn mawr
- Cyflwyno gwrthrychau newyddYna wedi newid lleoliad i weld os fysa fo’n gwneud gwahaniaeth
3ydd Gweithdrefn
Mis yn ddiweddarach
- Archwilio effaith amser ar ymatebion emosiynol cyflyredig
- Dechrau cyflwyno gwrthrychau eraill oedd yn debyg i lygoden fawr wen e.e. ci, cwningen, bafr, gwlan cotwm ayyb.
Canfyddiad 1af
- Albert yn cael ei ddychryn pan glywodd y swn uchel ac yn dechrau crio
- Roedd o’n dechrau cropian i ffwrdd o’r llygoden fawr
2il Canfyddiad
- Albert yn dechrau crio pan welodd y llygoden am y tro cyntaf ac yn drallodus gyda’r gwrthrychau newydd e.e. ci, troi ei ben ac yn crio
- Newid mewn lleoliad wedi ei effeithio oherwydd ni wnaeth Albert ymateb yn ofnus gyda’r llygoden fawr, ond oedd o’n bod yn wyliadwrus
3ydd Canfyddiad
- Dal i ofni’r llygoden fawr a’r gwrthrychau tebyg
- Pan gafodd y lygoden fawr ei osod arno, tynnodd ei gorff yn ol a rhoi ei ddwylo dros ei lygaid
Casgliad
Albert wedi datblygu ymateb ofn cyflyredig. Mae’r ymchwil yn dangos pa mor hawdd gall un greu ymateb i ffobia
Cryfder Methodoleg
Uchel mewn dilysrwydd arbrofol - Methodoleg yw ymchwil a gynhaliwyd o dan amodau rheoledig
Cryfder Gweithdrefnau
Uchel mewn dibynadwyedd
- Defnydd o ddulliau wedi cael eu safoni
- Gyda mwy o reolaeth dros newidynnau allanol. Gallu ailadrodd yn y dyfodol
Gwendid Gweithdrefnau
Diffyg dilysrwydd ecolegol
- Dull cafodd ei ddefnyddio yn creu sefyllfa annaturiol sydd ddim yn adlewyrchu bywyd go iawn
Gwendid Methodoleg
Dim yn berthnasol i bawb
- Astudiaeth am un blentyn ifanc oedd o
- Albert wedi gallu ymateb yn wahanol i blant eraill
Mater Moesegol
Niwed seicolegol wedi cael ei greu
- Albert wedi datblygu ymateb cyflyrol i lawer o stimiwli tebyg i lygoden wen
GWENDID
Mater Moesegol
Diffyg caniatad gwybodus
- Mam Albert wedi ei dynnu allan o’r ymchwil cyn allu diddymu’r ofn oddi wrtho
GWENDID