Bowlby (1944) Flashcards
Pwrpas yr ymchwil
Penderfynu a oes cydberthynas rhwng amddifadedd mamau yn ystod babandod
Methodoleg
Astudiaeth achos - Astudiaeth fanwl o un person neu grwp o bobl dros gyfnod hir
Cynnwys 44 o gyfranogwyr
- Rhwng 5-17 oed
- 31 o fechgyn, 13 o ferched
- 27 gyda IQ cyfartalog
- 15 gyda IQ uwch
- 2 gyda IQ is
- 2 lladron gradd IV - wedi dwyn am amser hir
- 4 lladron gradd I - dim ond wedi cyflawni un lladrad yn unig
Gweithdrefn 1af
Ar ol cyrraedd y clinig, roedd pob plentyn yn cael profion meddyliol gan seicolegydd ar gyfer astudio ei ddeallusrwydd
2il Weithdrefn
Hefyd, nododd y seicolegydd a gynhaliodd y prawf agwedd emosiynol y plentyn
3ydd Gweithdrefn
Gweithiwr cymdeithasol yn cyfweld y fam ac yn cofnodi manylion rhagarweiniol am hanes seiciatrig cynnar y plentyn
4ydd Gweithdrefn
Seicolegydd a gweithiwr cymdeithasol yn adrodd yn ol i Bowlby (y seiciatrydd)
5ed Gweithdrefn
Bowlby yn cyfweld y plentyn a’r fam
6ed Gweithdrefn
Ar ol arholiad dwy awr - tim yn adolygu adroddiadau ysgolion ac adolygiadau eraill, yna’n trafod casgliadau
7fed Gweithdrefn
Rhan fwyaf o’r plant yn cyfarfod a’r seiciatrydd yn wythnosol am gyfnod o chwe mis neu fwy
8fed Gweithdrefn
Mamau yn mynd i siarad am eu problemau gyda’r gweithiwr cymdeithasol
Canlyniadau
- Lladron ifanc gyd phersonoliaeth dideimlad yn fwy tebygol o ddwyn yn amlach ac yn rhan o achosion dwyn mwy ddifrifol nac y lladron eraill
- 17 lleidr wedi profi gwahaniad cynnar
- 2 o’r grwp rheolydd wedi profi gwahaniad cynnar
- Awgrymwyd fod cysylltiad rhwng gwahaniad cynnar ac ymddygiad tramgwyddus hefyd
- Bowbly yn awgrymu bod niwed mewn perthynas rhwng mam a phlentyn yn cael effaith ar ddatblygiad yr uwchego
- Lladrata yn ganlyniad i amryw o ffactorau cymhleth e.e. tlodi, diffyg cyfleusterau, hamdden
Casgliadau
- Profiadau cynnar yn holl bwysig ar gyfer datblygiad hwyrach
- Awgrymu bod yna gysylltiad rhwng personoliaeth ddideimlad gyda phrofiad o fod ar wahan i fam neu mam faeth yn ystod plentyndod cynnar
- Angen anelu i warchod plant rhag profiadau cynnar niweidiol i leihau’r siawns o ddatblygiad personoliaeth ddideimlad
Cryfder Methodoleg/Gweithdrefn
Ennill data ansoddol cyfoethog
- Adroddiad terfynol yn cynnwys 56 tudalen (25 ohonynt yn trafod hanes achos y 44 o ladron)
- Llawer o fanylder i’w gael felly mae’n uchel mewn dilysrwydd ecolegol
Gwendid Methodoleg/Gweithdrefn
- Selio’n bennaf ar atgofion y rhieni
- Trafod digwyddiadau plentyndod oedd wedi digwydd blynyddoedd ynghynt
- Efallai nad yw’r atgofion yn hollol glir
Gwendid Methodoleg/Gweithdrefn
- Dilysrwydd poblogaeth isel
- Astudiaeth yn cynnwys 44 o ladron oedd yn dioddef o aflonyddwch emosiynol
- Methu cyffredinoli’r canlyniadau i bob plentyn
- Bygwth dilysrwydd allanol yr ymchwil oherwydd na ellir cyffredinoli’r canlyniadau tu hwnt i’r sampl