Loftus a Palmer (1974) Flashcards
Methodoleg
- Arbrawf a gynhaliwyd mewn labordy
Methodoleg Arbrawf 1af
- 45 o fyrfyrwyr (5 grwp o 9)
- Gwylio 7 ffilm o ddamweiniau, pob un yn para rhwng 5-30 eiliad
- Trefn clipiau yn amrywio i bob grwp
Cwestiwn holl bwysig i’r astudiaeth
“Tua pha mor gyflym oedd y ceir yn mynd pan oedden nhw wedi ____ ei gilydd?”
Gwahaniaeth o fewn cymedr cyflymder rhwng yr ansoddiar chwalu a chyffwrdd
9 mya
Nod yr 2il Arbrawf
Ymchwilio fewn i os oedd cwestiynau arweiniol yn arwain at dueddiad yn ymateb unigolyn
Cwestiwn arweiniol
Cwestiwn sydd unai drwy ei ffurf neu cynnwys yn gallu arwain at ateb a ddyminir
Methodoleg 2il Arbrawf
- 150 o fyfyrwyr (meintiau grwpiau yn amrywio)
- Gwylio ffilm oedd yn cynnwys llawer o ddamweiniau (4 eiliad oedd hyd bob clip)
- Angen ateb holiadur oedd yn gofyn i ddisgrifio’r ddamwain ar ol gwylio’r ffilm
Y cwestiwn arweiniol oedd…
Grwp 1 - “Faint o gyflym oedd y ceir yn mynd pan wnaeth nhw chwalu mewn i’w gilydd?”
Grwp 2 - “Faint o gyflym oedd y ceir yn mynd pan wnaeth nhw daro fewn i’w gilydd?”
Faint o amser wnaeth basio pan ddaeth y myfyrwyr yn ol?
Wythnos
Y cwestiwn arweiniol tro yma oedd…
“Oeddech chi wedi gweld unrhyw wydr wedi torri?”
Angen ateb ‘Do’ neu ‘Naddo’
Dim gwydr yn wreiddiol yn y fideo
Dau ffordd o ddehongli’r canlyniadau
1) Unigolyn sy’n ansicr am y cyflymder yn gallu sylfaenu ei ateb ar ymateb rhagfarnllyd
2) Ffurf y cwestiwn yn gallu newid cynrychioliad y ddamwain yng nghof y llygad dyst
Materion Moesegol
- Twyll - Myfyrwyr yn ateb cwestiwn arweiniol bwriadol i brofi eu cof
- Caniatad gwybodus - Heb roi caniatad gwybodus, felly nid yn hollol sicr o beth oedd yn mynd ymlaen
Goblygiadau Cymdeithasol
- Wedi arwain at ddatblygiadau mewn technegau holi sy’n cael ei ddefnyddio gan yr heddlu
- Manteisiol i’r economi - Llai o bres yn cael ei wastraffu ar troseddwyr di-euog (costio £40,000 y flwyddyn i’w gadw)
Methodoleg a Gweithdrefnau
- Nid yw’n berthnasol i bawb - myfyrwyr o UDA oedd yn cymryd rhan
- Diffyg dilysrwydd ecolegol - myfyrwyr efallai yn ymateb yn wahanol mewn gwir damwain