Myers a Diener (1995) Flashcards
Methodoleg
Adolygiad llenyddiaeth - dim gweithdrefnau
Myers a Diener wedi edrych ar astudiaethau yn ymwneud gyda hapusrwydd
Pwrpas yr ymchwil
Ymchwilio i weld pa ffactorau sy’n effeithio ar lesiant goddrychol
Llesiant goddrychol
Sut mae pobl yn profi ac yn gwerthuso eu bywydau
Canfyddiadau - Oedran
Dim gwahaniaeth
Oedran - Inglehart (1990)
Pobl wedi adrodd yn ol nad ydy un cyfnod mewn bywyd yn fwy na llai hapus. Arolwg o tua 170,000 o bobl o 16 o wledydd gwahanol
Canfyddiadau - Rhyw
Nid oedd gwahaniaeth
Rhyw - Inglehart (1990)
80% o dynion ac 80% o fenywod yn ‘weddol fodlon eu byd’
Canfyddiadau - Hil
Dim gwahaniaeth. Pobl o wahanol genhedloedd wedi sgorio’n debyg mewn profion ar hunan barch
Canfyddiadau - Diwylliant
Gwahaniaethau mawr
Diwylliant - Tystiolaeth
10% o bobl yn hapus iawn ym Mhortiwgal o gymharu gyda’r Iseldiroedd ble mae 40% o bobl yn hapus iawn
Canfyddiadau - Arian
Cydberthyniadau cymedrol
Arian - Tystiolaeth
75% o fyfyrwyr Americanaidd oedd yn dechrau coleg yn dweud bod ‘bod yn gefnog iawn’ yn ariannol yn bwysicach na magu teulu
Angen digon o arian ar gyfer adnoddau hanfodol, ond dydi digonedd o arian bob tro yn cysylltu gyda mwy o hapusrwydd
Canfyddiadau - Nodweddion
Pobl hapus gyda mwy o hunan barch, optimistiaeth, rheolaeth bersonol ac yn fwy allblyg
Ansicr os ydi’r nodweddion yn gwneud chi’n hapus neu ydi datblygu’r nodweddion yma os ydych chi’n hapus
Canfyddiadau - Perthnasoedd
Pobl hapus gyda mwy o ffrindiau. Iachach. Pobl briod yn fwy tebygol o fod yn hapus iawn na person sydd wedi ysgaru neu gwahanu
Canfyddiadau - Llif
Pobl sy’n fodlon gyda’u gwaith yn debygol o fod yn hapusach. Helpu iddynt gyrraedd eu cyflwr llif