uned 1.4 Flashcards
beth yw diffiniad metabolaeth?
adweithiau cemegol sy’n digwydd mewn celloedd byw
beth yw diffiniad metabolaeth anabolig?
cymryd moleciwlau bach/syml a ffurfio moleciwl mwy cymhleth trwy bondio
cofio anabolig - adio
beth yw diffiniad metabolaeth catabolig?
moleciwlau cymhleth yn cael eu hollti i roi moleciwlau symlach
beth yw diffiniad llwybr metabolaidd?
dilyniant o adweithiau bach yn hytrach nag un mawr ble mae cynhyrchion un adwaith yn adweithion y nesaf
beth ydy ensymau yn gweithredu fel?
catalyddion biolegol
beth yw 4 priodwedd ensymau?
- cyflymu adweithiau cemegol
- dim yn dod i ben
- dim yn newid felly gellir aildefnyddio
- rhif trosiant uchel (catalyddu llawer o adweithiau yr eiliad)
beth yw ensym allgellog?
ensym sy’n gweithio tu allan i gelloedd ar ol cael eu secretu trwy ecsocytosis
beth yw ensym mewngellog mewn hydoddiant?
ensymau sy’n gweithredu tu fewn i gelloedd mewn hydoddiant
beth yw ensym mewngellog ynghlwm wrth bilenni?
ensymau sy’n gweithredu tu fewn i gelloedd ynghlwm wrth bilenni
pa adeiledd protein sydd gan ensymau?
trydyddol
beth yw protein trydyddol?
-wedi wneud o un neu fwy o gadwyni o asidau amino sef cadwyni polypeptid
-cynnwys fondiau ionig, hydrogen a pontydd deusylffid
beth yw safle actif ensym?
safle 3D lle mae’r swbstrad yn rhwymo a’r ensym trwy bondiau gwan
beth yw diffiniad egni actifadu?
isafswm yr egni sydd ei angen er mwyn i foleciwlau adweithio, gan dorri’r bondiau sy’n bresennol yn yr adweithyddion a gwneud rhai newydd
beth ydy ensymau’n gwneud i egni actifadu?
gostwng yr egni actifadu fel bod adweithiau’n digwydd ar dymheredd is i osgoi dadnatureiddiad
beth ydy ensym a swbstrad yn ffurfio a sut?
ensym yn gweithredu ar ei swbstrad drwy ffurfio bondiau dros y safle actif i ffurfio cymhyligyn ensym-swbstrad
wrth i gynhyrchion cael ei ryddhau, oes newid i’r ensym?
dyw’r ensym heb ei newid a’r safle actif yn barod i dderbyn swbstrad arall
sut disgifir y perthynas rhwng siap y safle actif a siap y swbstrad?
mae’n gyflenwol
pwy greuodd y damcaniaeth model glo ac allwedd?
Emil Fischer
beth yw’r damcaniaeth clo ac allwedd?
pob ensym yn benodol i un swbstrad
safle actif yn gyflenwol i siap y swbstrad
beth yw’r damcaniaeth ffit anwythol?
siap safle actif ensym yn newid wrth rhwymo a’i swbstrad felly siap y safle actif yn hyblyg a gallu addasu a newid i’r swbstrad