uned 1.1 Flashcards
beth yw swyddogaeth calsiwm?
cryfhau dannedd, esgyrn a nerfau mewn anifeiliaid
cryfhau waliau celloedd mewn planhigion
beth yw’r gwahaniaeth rhwng polar ac amholar?
amholar - dim gwefr
polar - gwefr bach
beth yw’r canran calsiwm yn y corff?
2%
beth yw’r canran ffosfforws yn y corff?
1%
beth yw swyddogaeth ffosfforws yn y corff?
presennol mewn cellbilenni / ATP / asid niwcleig
beth yw’r canran magnesiwm yn y corff?
0.05%
beth yw swyddogaeth magnesiwm yn y corff?
cefnogi gweithrediad ensymau
cefnogi gweithrediad cloroffyl mewn planhigion
beth yw’r canran o haearn yn y corff?
0.004%
beth yw swyddogaeth haearn yn y corff?
cludo ocsigen (haemoglobin)
beth yw’r gwahaniaeth rhwng organig ac anorganig?
organig - moleciwlau gyda chyfran uchel o atomau carbon a hydrogen (e.e glwcos)
anorganig - moleciwl neu ion sydd ddim yn cynnwys mwy na un atom o carbon (e.e CO2)
pam ydy dwr yn moleciwl polar/deupol?
mae ganddo 2 wefr
atomau hydrogen - wefr rhannol bositif (delta positif)
atom ocsigen - wefr rhannol negatif (delta negatif)
pa bondiau sydd yn bresennol mewn dwr? pam?
bondiau hydrogen
ffurfio oherwydd ei polaredd - mae’r moleciwlau dwr yn denu ei gilydd trwy ffurfio bondiau hydrogen
priodweddau dwr
Mae ia yn llai dwys na dwr - beth yw arwyddocad hyn?
mae’r ia yn ffurfio haen dros wyneb cynefinoedd dyfrol
nid yw chynefinoedd dyfrol yn rhewi’n solet, felly gall yr anifeiliaid symud/nofio o hyd
priodweddau dwr
dwr yn hylif ar ran fwyaf o dymhereddau daearol - beth yw arwyddocad hyn?
gellir ei ddefnyddio fel cyfrwng trafnidiaeth
e.e yn waed mamolion, cludo ionau wedi’i hydoddi i fyny’r sylem
priodweddau dwr
mae dwr yn di-liw/tryloyw - beth yw arwyddocad hyn?
golau yn gallu cyrraedd planhigion dyfrol i ffotosyntheseiddio; gall golau fynd drwy cytoplasm celloedd planhigion i gyrraedd y cloroplastau
priodweddau dwr
mae gan ddwr dyniant arwynebedd uchel - beth yw arwyddocad hyn?
gall arwyneb y dwr gefnogi’r mas llawer o organebau a dod yn gynefin iddynt
priodweddau dwr
mae gan ddwr gynhwysedd gwres sbesiffig uchel - beth yw arwyddocad hyn?
gall amsugno llawer o egni gyda chynnydd bach yn tymheredd. Nid yw tymheredd celloedd a chynefinoedd dyfrol yn newid yn gyflym felly’r amodau’n parhau’n sefydlog
- defnyddiol tu mewn i gelloedd gan nad yw’r ensymau’n dadnatureiddio
priodweddau dwr
mae gan ddwr wres cudd anweddu uchel - beth yw arwyddocad hyn?
mae angen llawer i egni i anweddu dwr fel bod organebau’n defnyddio anweddiad dwr i oeri e.e chwysu
nid yw cynefinoedd dyfrol yn diflannu’n hawdd trwy anweddiad
mae gan ddwr briodweddau cydlynol ac adlynol cryf - beth yw arwyddocad hyn?
oherwydd y bondiau hydrogen, mae moleciwlau dwr yn glynu gyda’i gilydd (cydlyniad), ac yn glynu gyda sylweddau gyda gwefr neu amholar arall (adlyniad)
carbohydradau
beth yw monosacarid?
= uned symlaf carbohydradau gan nad ydynt yn gallu gael ei symleiddio bellach
carbohydradau
beth yw fformiwla cyffredinol carbohydradau?
CnH2nOn
lle mae n = nifer yr atomau
carbohydradau
beth yw isomerau adeileddol?
moleciwlau gyda’r un fformiwla foleciwlaidd ond gyda wahanol drefniadau o’u hatomau
carbohydradau
beth yw isomeriaeth alffa/beta?
beth yw’r abbreviation i gofio?
gwahaniaeth yn yr adeiledd sef safle’r grwp OH ar atom carbon 1
COFIO ABBA - Alffa Below, Beta Above!!
carbohydradau
beth yw deusacaridau?
siwgrau a wneir o ddwy uned o monosacarid
carbohydradau
sut ffurfir deusacaridau?
trwy adwaith cyddwysiad
- ffurfio bond glycosidaidd a moleciwl o ddwr
sut torrir deusacaridau?
torri’r bond glycosidaidd trwy adwaith hydrolysis
mewnosodir dwr yn cemegol
carbohydradau
beth ydy maltos wedi’i ffurfio o?
2 alffa glwcos
- cofia bod y dau’r un peth
carbohydradau
beth ydy swcros wedi’i ffurfio o?
alffa glwcos a ffrwctos