uned 1.3 Flashcards
beth ydy model mosaic hylifol yn cynnwys?
haen deuol o ffosffolipidau
glycolipid
glycoprotein
protein cynhenid
protein anghynhenid
colestrol
beth yw’r glycocalycs?
haen allanol y cellbilen
beth yw 4 o swyddogaethau’r glycocalycs?
- adnabod celloedd eraill
- safle derbyn hormonau
- safle secretu cemegion
- casglu maetholynnau ac anghenion eraill
pam gelwir yn model mosaic hylifol?
mosaic - siap a maint y proteinau sydd wedi mewnblannu yn yr haen deuol yn amrywio
hylifol - ffosffolipid unigol yn gallu symud o fewn haen yn gymharol i’w gilydd
beth yw trwch y bilen mewn model mosaic hylifol?
5-6nm
model mosaic hylifol
beth yw disgrifiad/swyddogaeth y dwyhaen ffosffolipid?
ffurfio sylfaen y gellbilen a chaniatau cludiant moleciwlau bach amholar (e.e O2, CO2) i mewn ac allan o’r gell drwy gyfrwng trylediad syml
model mosaic hylifol
beth yw disgrifiad/swyddogaeth y proteinau anghynhenid?
proteinau ddim yn pontio’r bilen
mae ganddynt wefr polar ac maent yn cysylltu gyda pennau hydroffilig y ffosffolipidau
wedi’i lleoli uwchben neu o dan y bilen
llawer o safleoedd derbyn sy’n rhwymo gyda proteinau fel hormonau neu niwrodrosglwydyddion
model mosaic hylifol
beth yw disgrifiad/swyddogaeth y proteinau cynhenid?
proteinau’n pontio’r bilen
mae ganddynt rannau polar ac amholar sy’n cyfateb i’r rhannau hydroffilig a hydroffobig
swyddogaeth - cludiant
sianeli a chludyddion yn cymryd rhan yn trylediad cynorthwyedig
pympiau’n cymryd rhan yn cludiant actif
model mosaic hylifol
beth yw disgrifiad/swyddogaeth hylifedd y gellbilen?
haen ffosffolipid yn gallu symud felly cydrannau’r bilen yn rhydd i symud o gwmpas ei gilydd
dyna pam caiff y model ei alw’n model mosaic hylifol
model mosaic hylifol
beth yw disgrifiad/swyddogaeth y patrwm mosaic?
mae’r proteinau wedi’u dotio drwy’r dwy haen ffosffolipid mewn trefn mosaic
model mosaic hylifol
beth yw disgrifiad/swyddogaeth y colestrol?
mae colestrol yn bodoli mewn celloedd anifail
mae’n ffitio rhwng y moleciwlau ffosffolipi i wneud y bilen yn fwy anhyblyg a sefydlog
model mosaic hylifol
beth yw disgrifiad/swyddogaeth y glycolipidau?
lipidau sydd wedi cyfuno gyda polysacarid
i’w gael yn haen allanol y bilen
ymwneud a gallu’r cell i adnabod ei gilydd
model mosaic hylifol
beth yw disgrifiad/swyddogaeth y glycoproteinau?
proteinau wedi’i chyfuno gyda polysacarid
ymwthio allan o rai bilenni
beth yw diffiniad trylediad?
symudiad moleciwlau neu ionau o ardal lle mae crynodiad uchel ohonynt i ardal lle mae crynodiad is - i lawr y graddiant crynodiad
nodwch enghreifftiau o ffactorau sy’n effeithio ar gyfradd trylediad
- cynyddu’r graddiant crynodiad
- cynyddu’r hydoddedd mewn lipidau
- cynyddu’r tymheredd
- cynyddu arwynebedd arwyneb
- lleihau pellter trylediad
beth yw’r hafaliad i gyfrifo cyfradd trylediad?
cyfradd trylediad = arwynebedd arwyneb x graddiant crynodiad / hyd llwybr trylediad
beth yw trylediad syml?
symudiad moleciwlau o ardal grynodiad uchel i ardal grynodiad isel heb protein
pa sylweddau sy’n teithio ar draws cell trwy trylediad syml?
enghreifftiau?
sylweddau sy’n hydoddi’n hawdd yn yr haen ffosffolipid
enghreifftiau - O2, CO2, Fitamin A
pa sylweddau sy’n teithio ar draws trwy trylediad cynorthwyedig?
enghreifftiau?
sylweddau sydd ddim yn hydawdd mewn lipid methu symud trwy’r bilen felly defnyddir broteinau cludo ynlle
glwcos, starts, asidau niwcleig, asidau amino, protein
beth yw’r 2 fath o brotein defnyddir am drylediad cynorthwyedig?
protein sianelu a protein cludo
trylediad cynorthwyedig
beth yw protein sianelu?
protein cynhenid sy’n penodol ar gyfer trylediad un math o ion, ac maent yn meddru agor neu gau yn ol anghenion y gell