uned 1.2 Flashcards
beth ydyn nhw’n wneud?
organynnau pilennog
- darparu arwyneb
- dal cemegion/ensymau gall fod yn niweidiol
- system cludiant
beth yw’r amlen gnewyllol?
pilen ddwbl sy’n cynnwys mandyllau cnewyllol sy’n caniatau moleciwlau mawr mynd drwyddo
beth yw’r niwcleoplasm?
DNA yn bodoli ar ffurf cromatin.
debyg i cytoplasm
beth yw’r cromatin?
DNA ynghlwm a protein yn y cnewyllyn
beth yw swyddogaeth y cnewyllan?
cynhyrchu rRNA sy’n ffurfio ribosomau
beth yw swyddogaeth y mitochondria?
rhyddhau egni cemegol ar ffurf ATP yn ystod resbiradaeth aerobig (synthesis ATP)
pam oes pilen ddwbl gan mitochondria?
mae’r pilen fewnol wedi’i plygu i ffurfio cristae sy’n cynyddu arwynebedd arwyneb am synthesis ATP
beth ydy’r matrics (mitochondria) yn cynnwys?
ribosomau 70S a DNA mitochondraidd
lle oes niferoedd uchel o mitochondria?
yn y meinweoedd sy’n fetabolaidd actif fel y cyhyrau a’r afu
pam oes gan y mitochondria siap silindrog?
darparu arwynebedd arwyneb
beth ydy ribosomau wedi’i wneud o?
RNA ribosomaidd a protein
lle gellir darganfod ribosomau?
celloedd anifeiliaid a planhigion
yn rhydd yn y cytoplasm/ynghlwm a’r RE garw
beth yw maint ribosomau mewn celloedd procaryotig a ewcaryotig?
procaryotig - 70S
ewcaryotig - 80S
beth yw swyddogaeth y reticwlwm endoplasmig?
caniatau cludiant defnyddiau drwy’r cell
e.e ribosomau
pa un, RE llyfn neu RE garw, sy’n cynnwys ribosomau?
RE garw - gyda ribosomau sy’n syntheseiddio protein
RE llyfn - heb ribosomau
beth yw’r RE llyfn?
safle beth?
reticwlwm endoplasmig llyfn
safle synthesis a chludiant lipidau
beth yw swyddogaethau yr organigyn golgi?
6 swyddogaeth
- derbyn cadwyni polypeptid o’r RE garw a ribosomau, yna plygu, trawsfondio a pecynnu’r polypeptidau i greu proteinau
- fesiclau cludiant yn cyrraedd o’r RE garw ac yna’n gadael trwy ben arall yr organigyn golgi
- cynhyrchu glycoprotein ac ensymau secretu
- secretu garbohydradau
- cludio a storio lipidau
- ffurfio lysosomau
beth yw lysosomau? beth sy’n creu’r lysosomau?
lysosomau yw fesiclau bach dros dro
creu gan yr organigyn golgi
beth yw swyddogaeth lysosomau?
- dal ensymau treulio a allai fod yn niweidiol ac yn eu hynysu o weddill y gell
- rhyddhau’r ensymau pan fydd angen e.e i dreulio rhannau o’r gell, sef awtolysis
lle mae centriolau wedi’i lleoli?
tu allan i’r cnewyllyn
beth yw centriolau? enw ar ddwy ohonynt?
dau cylch o ficrodiwbynnau sy’n silindrau gwag ar ongl sgwar i’w gilydd
dau gyda’i gilydd = centrosom
beth ydy centriolau yn gwneud yn ystod cellraniad
trefnu’r microdiwbynnau sy’n gwneud y werthyd
beth yw enw ar y ddwy bilen sydd gan cloroplast
amlen y cloroplast
beth yw’r stroma mewn cloroplast?
hylif di-liw sy’n cynnwys gynhyrchion ffotosynthesis e.e gronynnau startsh
beth yw’r thylacoid mewn cloroplast? beth ydy’n ffurfio a pam?
- codennau fflat caeedig gyda pigmentau ffotosynthetig fel cloroffyl
- pentyrru i ffurfio granwm (rhwng 2-100 thylacoid) sy’n cynhyrchu arwynebedd arwyneb mawr am ddal egni golau’n effeithlon
pa fath o ribosomau a DNA ydy cloroplast yn cynnwys?
ribosomau 70S a DNA cylchol
beth yw cellnodd? (gwagolyn)
toddiant o siwgrau, halwynau ac asidau amino