Uned 1.3: Cellbilenni a Chludiant Flashcards
y gellbilen
- gweld o dan yr electromicrosgop fel llinell dwbl
- dydy lled y gellbilen ddim yn amrywio rhwng organebau: 7-8nm
Swyddogaeth’r gellbilen
- pilen arwyneb y gell neu’r bilen plasmaidd yn gwahanu’r gell fyw oddi wrth ei hamgylchedd
- rheoli pa sylweddau sy’n mynd mewn ac allan
- rheoli mewnlifiad maetholion
- caniatau i gynhyrchion gwastraff fynd allan o’r gell
- secredu sylweddau fel ensymau a glycoproteinau
- adnabod celloedd
Adeiledd y Cellbilen
- wedi gwneud o ffosffolipidau a phroteinau
Ffosffolipidau
= ffurfio dwyhaenau
= pen ffosffad yn foleciwl polar (hydroffilig): atynnu at foleciwlau eraill fel dwr
= 2 cynffon asid brasterog yn amholar (hydroffobig) ac gwrthyrru dwr
= cydran ffosffolpid yn caniatau hydawdd mewn lipidau fynd mewn ac allan
= atal moleciwlau hydawdd mewn dwr rhag gwneud hynny
Proteinau Pilen
= trefnu ar hap
= proteinau anghynhenid bodoli ar arwyneb y ddwyhaen neu wedi’i mewnblannu’n rhannol
= cynnal yr adeiledd
= proteinau cynhenid yn pontio y ddwyhaen ffosffolipid: gweithredu fel sianeli neu gludyddion i hwyluso trylediad moleciwlau eraill
= ffurfio pympiau ac yn cyflawni cludiant actif yn erbyn graddiant crynodiad
Singer a Nicholson
- creu model i ddisgrifio trefniad ffosffolipidau a phroteinau mewn cellbilenni
- enw’r model oedd y model mosaig hylifol
- mae’r ffosffolipidau yn hylfol: pob moleciwl yn gallu symud mewn perthynas a’r lleill o fewn y bilen
- proteinau’n ffurfio patrwm mosaig o fewn y ddwyhaen ffosffolipid
Y Gellbilen - swyddogaeth pob rhan
*Dwyhaen Ffosffolipid - ffurfio sylfaen, caniatau cludiant moleciwlau bach amholar i mewn ac allan drwy trylediad syml
*Proteinau Atgynhenid - ddim yn pontio’r bilen, ganddynt wefr ac maent cysylltu a phennau hydroffilig y ffosffolipidau, lleoli uwchben neu o dan
*Proteinau Cynhenid - pontio’r bilen, rannau polar ac amholar, swyddogaeth cludiant, sianeli a chludyddion yn cymryd rhan ym mhroses trylediad cynorthwyedig
* Symudiad (hylifedd) - rhydd i symud o gwmpas
*Patrwm Mosaig - dotio drwy’r ddwyhaen ffosffolipid
*Colesterol - mewn celloedd anifail, ffitio rhwng y moleciwlau ffosffolipid, fwy anhyblyg a sefydlog
*Glycolipidau - lipidau cyfuno a pholysacaridau, haen allanol y bilen ac yn ymwneud a gallu celloedd i adnabod ei gilydd
* Glycoproteinau - ymwthio allan o rai pilenni
Athreiddedd - y bilen fel rhwystr
- pilen arwyneb y cell yn ddetholus athraidd i ddwr a rhai hyddoddion
- sylweddau hydawdd mewn lipidau gallu symud drwy’r bilen yn haws na sylweddau hydawdd mewn dwr
Athreiddedd - Moleciwlau Amholar
- moleciwlau bach heb wefr fel O a CO2: mynd trwy’r bilen yn rhwydd drwy trylediad syml
- moleciwlau hydawdd mewn lipidau fel glyserol: mynd trwy’r bilen drwy ddwyhaen ffosffolipid
Athreiddedd - Moleciwlau Polar
- craidd hydroffobig: rhwystro cludiant ionau a moleciwlau polar
- dydy gronynnau a gwefr fel ionau a moleciwlau cymharol fawr o gwefr fel glwcos ddim yn gallu tryledu ar draws canol amholar y ddwyhaen: gan bod yn anhydawdd mewn lipid
- proteinau cynhenid: caniatau i gronynnau groesi bilen
- sianeli a cludyddion yn caniatau trylediad cynorthwyedig
Profi Betus
Ffactorau sy’n effeithio ar athreiddedd
- Cynyddu Tymheredd
- sefydlog hyd at 40 gradd
- dros 40 gradd : fwy ansefydlog
- mwy o egni gwres = mwy o egni cinetig
- ffosffolipidau dirgrynu mwy
- proteinau yn ddadnatureiddio: haws i’r betalainau dryledu allan o’r gelloedd
- tymheredd cynyddu = athreiddedd y gellbilen a’r tonoplast yn cynyddu
- Cynyddu Crynodiad Ethanol
- ethanol yn hydoddi ffosffolipidau
- mwyaf crynodiad yr ethanol = mwyaf athraidd fydd y pilenni
*Cynyddu Crynodiad Sodiwm Clorid
- ionau sodiwm clynu wrth atomau ocsigen a ddwyhaen ffosffolipid: lleihau symudedd y moleciwlau ffosffolipid: llai o’r betalain yn cael ei ryddhau
- wrth i grynodiad sodiwm clorid gynyddu = athreiddedd yn lleihau
*Cynyddu Crynodiad Glanedydd
- glanedyddion lleihau tyniant arwyneb ffosffolipidau ac gwasgaru bilen
- crynodiad y glanedydd cynyddu = athreiddedd y pilenni cynyddu
Trylediad
= symudiad molewciwlau neu ionau o fan chrynodiad uchel i fan a chrynodiad is nes eu bod nhw wedi eu dosbarthu’n gyfartal
= moleciwlau yn symud lawr graddiant crynodiad
= proses goddefol: does dim angen ATP
Ffactorau sy’n effeithio ar gyfradd trylediad
*Graddiant Crynodiad: mwyaf graddiant crynodiad = mwyaf cyfradd trylediad
*Pellter Teithio: byrraf pellter teithio = mwyaf cyfradd trylediad
* Arwynebedd Arwyneb y Bilen: mwyaf aa = mwyaf cyfradd trylediad
* Trwch y Bilen: teneuaf y bilen = mwyaf cyfradd trylediad
* Cynnydd mewn Tymheredd: cynyddu tymheredd = cynyddu egni cinetig = cynyddu cyfradd trylediad
*Maint Gronynnau: gronynnau bach tryledu gyflymach na moleciwlau mwy
Trylediad Syml
- digwydd ar draws y ddwyhaen ffosffolipid
- ymwneud a chludiant moleciwlau amholar
- wrth i graddiant crynodiad gynyddiu = cyfradd trylediad cynyddu: cyfrannedd union
- dydy atal resbiradaeth neu ladd y gell a thocsin fel cyanid ddim yn atal trylediad oherwydd does dim angen ATP
Trylediad Cynorthwyedig
- moleciwlau mawr fel glwcos ddim yn mynd drwy’r gellbilen yn rhwydd gan fod yn anhydawdd mewn lipid
- dau fath o broteinau sy’n cynorthwyo trylediad: proteinau sianel a phroteinau cludo
- proteinau yma yn cynyddu cyfradd trylediad ar hyd graddiant crynodiad heb fod angen ATP
- cyfrath trylediad cychwynnol yn uwch gan fod graddiant crynodiad fwy serth: oherwydd bod proteinau sianel a phroteinau cludo’n cynorthwyo y proses
Proteinau Sianel
(trylediad cynorthwyedig)
- cynnwys mandyllau
- wedi leinio a grwpiau polar: caniatau ionau a gwefr fynd drwyodd
- pob sianel yn penodol i un math o ion
- gallu agor a chau yn ddibynnu ar anghenion y gell