olew crai, tanwyddau a chemeg organig Flashcards
Sut ydy olew crai yn cael ei ffurfio?
Cafodd olew ei ffurio dros gyfnod o filiynau o blynyddoedd gyda effaith gwres a gwasgedd uchel ar weddillion organebau morol.
Beth mae olew crai yn cynnwys?
Cymysgedd o hydrcarbonau sef cyfansoddion sydd yn cynnwys elfennau Carbon a Hydrogen yn unig.
Sut rydym yn puro olew crai?
Distyllu ffracsiynol- dibynnol bod gan y ffracsiynau priodwedd ffisegol wahanol- berwbwyntiau gwahanol.
Proses distyllu ffracsiynol?
Digwydd mewn twr ffracsiynau.
Wedyn mae’r olew’n cael ei wresogi a mae’r cyfansoddion gyda chadwynau byr yn berwi gyntaf - oherwydd hyn mai ganddyn nhw y chadwynau hirach ferwbwyntiau isaf.
Codi i ben y twr- cyfansoddion gyda cadwynau hirach berwybwyntiau uchel ac mae’n cael ei casglu is lawr.
Rhan mwyaf o ffracsiynau yn cael ei defnyddio fel tanwyddau.
proses distyllu ffracsiynol yn ymwneud a newidiadau ffisegol yn unig sef berwi berwbwyntiau gwahanol a chyddwyso.
Beth yw ffracsiynau?
Ffracsiynau- cynnwys hydrocarbonau gyda berwbwyntiau yn yr ystod.
Enw ar y gwahanol grwpiau o gyfansoddion.
Beth sy’n effeithio ar briodweddau ffisegol a chemegol y ffracsiwn?
cynydd mewn hyd y gadwyn
Sut mae’n cynnau/tanio?
Wrth i hyd yr cadwyn cynyddu, mae’n mynd o tanio’n hawdd neu’n gyflym i bod yn anoddach i danio.
Pa mor ludiog?
Wrth i hyd yr cadwyn cynyddu, mae’n mynd o llai gludiog i gludiog gyda llifo llai cystal.
Beth yw pwysigrwydd Economaidd olew crai?
Pris olew yn cael ei reoli gan y gwledydd sy’n cynhyrchu’r olew- gwledydd sydd yn mewnforio olew e hunain yn gorfod talu’r pris.
Beth yw pwysigrwydd gwleidyddol olew crai?
rhyfel/anghytuneb gwleidyddol yn effeithio ar gyflenwadau olew yn y byd.
Beth yw pwysigrwydd amgylcheddol olew crai?
Hylosgi yn ffurfio co2 cynhesu byd eaeng.
Damweiniau gyda thanceri olew fel yr Sea Emperess yn Sir Benfro 1995.
Gorsafoedd pwer yn cymryd llawer o dir ac yn hyll.
Beth yw ystyr hylosgi?
Llosgi mewn ocsigen
Beth yw hafaliad tanwydd wrth hylosgi tanywdd ffosil?
tanwydd + ocsigen -> Carbon deuocsid + Dwr.
Beth sy’n diwgydd os nad oes digon o ocsigen yn bresennol?
Hylosgiad anghyflawn yn digwydd
Carbon monocsid yn ffurfio yn lle carbon deuocsid
CO yn nwy gwenwynig
Beth yw hafaliad hydrogen fel tanwydd?
Hydrogen + Ocsigen -> Dwr.
2H2(n) + O2(n) -> 2H2O
Beth yw manteision hydrogen fel tanwydd?
Cynhyrchu llawer o egni
Hylosgi ddim yn cynhyrchu carbon deuocsid- dim ond dwr felly ddim yn cyfrannu at cynhesu byd eaeng.
Beth yw anfanteision hydrogen fel tanwydd?
Ffrwydrol
storio mewn tanc dan wasgedd
dim llawer o orsafoedd addas ar hyn o bryd
angen defnyddio llawer o drydan o ffurfio’r hydrogen o ddwr drwy electrolysis- cynhyrchu rhywfaint o co2.
Beth yw triongl tan?
hylosgi angen tanwydd ocsigen a gwres
tynnu un tan yn diffodd
1. stopio tanwydd- diffodd y nwy/trydan. Defnyddio dywod neu bridd i orchuddio pyllau o olew, planu goedwigoedd gyd bylchau rhwng grwpiau o goed.
2. Tynnu y gwres- oeri bethau gyda dwr
3. stopio cyflenwad aer- gorchuddio pethau sy’n llosgi ag ewyn, carbon deuocsid neu flanced dan.
Enwch 4 enghraifft o dulliau diffodd tanau gwahanol.
blanced tan- atal yr ocsigen gyrraedd y tan- gan bod dwr yn rhy beryglus ac yn gwaethygu’r tan trwy ychwanegu gwres.
offer trydanol- diffoddydd CO2 neu ewyn neu bowdr sych- atal yr ocsigen gyrraedd y tan- dwr yn rhy peryglus am sioc trydanol.
coedwig- dwr, fire break- tynnu’r gwres- dim tanwydd yn y bylchau felly atal lledaeniad y tan a bydd yn llosgi allan.
nwy yn llosgi- troi’r tanwydd bant- diffodd y cyflenwad tanwydd felly heb danwydd ni all y tan barhau.
Beth yw fformiwla foleciwlaidd cyffredinol yr alcanau?
CnH2n+2
Beth yw berwbwynt methan a fformiwla moleciwlaidd?
CH4- berwybwynt o -164.
Beth yw berwbwynt ethan a fformiwla moleciwlaidd?
C2H6- berwbwynt o -87.
Beth yw berwbwynt Propan a fformiwla moleciwlaidd?
C3H8- berwbwynt o -42.
Beth yw berwbwynt bwtan a fformiwla moleciwlaidd?
C4H10- berwbwynt o -0.5.
Beth yw berwbwynt pentan a fformiwla moleciwlaidd?
C5H12- berwbwynt o 36.
Beth yw’r alcanau?
Moleciwlau dirlawn- bondiau senglnyn unig sydd rhwng yr atomau carbon, ac mae pob atom carbon yn ffurfio bond i 4 atom arall, ac felly nid ydynt angen adweithio gyda unrhyw sylwedd arall- maent yn anadweithiol iawn.
Beth yw isomeredd?
Isomerau yw moleciwlau gyda’r un fformiwla foleciwlaidd ond fformiwla foleciwlaidd adeileddol wahanol- cynnwys yr un nifer o’r un atomau ond maent wedi cael eu cysylltu yn wahanol.
Pa moleciwlau sydd ddim gyda isomer?
Methan- CH4, Ethan C2H6, Propan C3H8
Beth ydy e’n meddwl os mae’r cadwyn carbon hir?
Mae mwy o isomerau gan y moleciwl.
Beth sy’n wahanol rhwng yr isomerau, er bod ei priodweddau cemegol yn debyg iawn?
Priodweddau ffisegol fel yr berwbywnt yn wahanol.
pam ydy’r moleciwlau’r aclenau yn annirlawn?
mae ganddynt fond dwbl rhwng 2 o’r atomau carbon.
sut gallwch cracio?
gellir cracio hydrocarbon dirlawn mawr trwy eu gwresogi ym mhresenoldeb catalydd gan ffurfio moleciwlau hydrocarbon llai sy’n fwy defnyddiol.
Bethb yw’r adwaith alcenau?
Alcenau yn fwy adweithiol o lawer na Alcanau.
Mae presenoldeb o bond dwbl carbon mewn aclenau yn golygu bod atomau eraill yn gallu cael eu hychwangeu neu adio at y moleciwl.
Defnyddir ethen C2H4 i ddangos adweithedd yr alcenau.
Beth yw adio mewn adwaith adio?
Mwy nag un adweithydd yn adweithio i ffurfio 1 cynnyrch yn unig.
Adwaith ethen gyda hydrogen?
ethen sef alcen yn adweithio gyda hydrogen i ffurfio ethan sef alcan.
gelwir yr adwaith yn hydrogeniad ac mae’n enghraifft o adwaith adio.
Beth yw amodau’r adwaith adio?
mae’r aclen a nwy hydrogen yn cael eu gwresogi ym mhresenoldeb catalydd o Nicel neu Blatinwm.
Beth yw adwaith ethen a bromin?
mae’r moleciwl bromin yn adio ar draws y bond dwbl. mae’r bond dwbl yn torri ac yn gadael bond sengl ac mae dau atom bromin yn cael eu hychwanegu neu adio i’r moleciwl ethen.
sut ydy’r adwaith ethen a bromin yn defnyddiol?
gallu profi am bond dwbl C=C mewn moleciwl o alcen.
mae dwr bromin sy’n lliw oren/brown yn adweithio gya alcen fel ethen ac mae’r cynnyrch yn ddi-liw. mae’r newid lliw yn dangos os mae bond dwbl yn bresennol.
beth yw polymer?
polymer yw cyfuniad nifer fawr o foleciwlau alcen gyda’i gilydd i wneud moleciwl sydd gyda chadwyn hir iawn.
beth yw’r enw cyffredinol ar y moleciwl bach sy’n cael ei ddefnyddio i wneud y polymerau?
monomer.
beth yw polymeriad adio?
yn ystod polymedriad adio un fath o fonomer sy’n adweithio i ffurfio’r polymer.
mae’r bond dwbl yn y monomer yn torri i ffurfio bond sengl ac mae’r moleciwlau yn cyfuno.
Beth yw priodweddau a defnydd y polymer polyethen?
priodweddau: cryf, gwrth ddwr, gallu eu mowldio yn hawdd.
defnydd: bagiau siopa, cling film, poteli diod.
Beth yw priodweddau a defnydd y polymer polyfinyclorid (PVC)?
priodweddau: hyblyg, ynysydd da, rhad.
defnydd: pibellau draenio, offer trydanol, ynysydd gwifrenni trydanol, wellington boots, fframiau ffenestri.
Beth yw priodweddau a defnydd y polymer polytetraffworoethen (PFTE)?
priodweddau: anadweithiol, llithrig, gloyw.
defnydd: teflon fel arwynebau gwrthlud mewn sosbenni, haearn smwddio.
Beth yw priodweddau a defnydd y polymer polypropen?
priodweddau: cryf, mowldio yn hawdd, gwrth ddwr.
defnydd: rhaffau, cewyll.
Beth yw priodweddau a dulliau o ddefnyddio y mathau o blastig thermoplastig, polythen, PVC, polystyrena neilon?
priodweddau: gellir eu gwneud yn feddal a chaled dro ar ol tro trwy wresogi ac oeri. mae’n hawdd newid eu siap.
dod: tarian geg, bowlen neu fwcedi, bagiau plastig.
Beth yw priodweddau a dulliau o ddefnyddio y mathau o blastig thermosetiau, melamin, ffenolig, bakelite?
priodweddau: gwrthsefyll gwres uchel, unwaith yn unig y gellir eu siapio.
dod: dolen sosban, ffitiadau golau trydan, casyn sychwr gwallt.
beth yw problemau amgylcheddol plastigion?
nifer o blastigion yn anfiodiraddadwy.
beth yw manteision ailgylchu neu defnyddio llai o blastigion?
llai o wastraff i safleoedd tirlenwi
olew crai ytn adnod cyfyngedig ac felly defnyddio llai ohono
defnyddio llai o egni ac felly arbed costau a chynhyrchu llai o allyriadau nwyon ty gwydr.