asidau, basau a halwynau Flashcards
beth sy’n digwydd pan gaiff asid ei hydoddi mewn dwr?
gwneud hydoddiant asidig.
beth sy’n digwydd pan gaiff bas ei hydoddi mewn dwr?
mae’n alcali ac mae’n gwneud hydoddiant alcalaidd. os nad yw’r hydoddiant yn asidig nac yn alcalaidd, mae’n niwtral.
beth yw dangosyddion?
Dangosyddion yw sylweddau sy’n newid lliw wrth gael eu hychwanegu at hydoddiannau asidig neu alcalaidd.
pa tri categori ydy priodweddau llawer o hydoddiannau’n gallu rhannu mewn i?
hydoddiannau asidig, alcalaidd neu niwtral.
beth sy’n digwydd os rydym yn ychwanegu dangosydd cyffredinol at hydoddiant?
newid lliw i ddangos pH yr hydoddiant.
beth gallwch wneud i gael gwerth mwy manwl?
defnyddio chwileidydd pH.
beth sy’n digwydd pan mae atomau neu grwpiau o atomau’n ennill electronau?
mae gronynnau gyda gwerf or enw ionau yn ffurfio a gall bod yn bositif neu’n negatif.
beth sy’n digwydd pan mae’r asidau’n hydoddi mewn dwr?
mae nhw’n cynhyrchu ionau hydrogen, H+.
beth yw dyfr?
sylwedd mewn hydoddiant.
beth sy’n digwydd pan mae alcali yn hydoddi mewn dwr?
mae nhw’n cynhyrchu ionau hydrocsid, OH-.
beth yw hafaliad amownia?
AMOWNIA = NH3(dyfr) + H2O(h) → NH4+(dyfr) + OH–(dyfr).
beth yw bas?
Bas yw gwrthwyneb cemegol i asid. Mae rhai yn hydoddi mewn dwr, sef alcali.
Mae rhai eraill gan gynnwys llawer o ocsidau metel yn anhydawdd mewn dwr.
beth ydy asidau cryf yn gwneud yng nghymaru gyda asidau gwan?
- Asidau cryf yn daduno’n llwyr mewn dwr i cynhyrchu gymaint o ionau H+ sy’n bosib.
- Golyga hyn bod un mol o foleciwlau asid hydroclorig i gyd yn hollti i ffurfio un mol o ionau H+ ac ionau CH3COO- ar unrhyw adeg.
- Mae hyn yn meddwl bod gwerthoedd pH asidau cryf yn is na gwerthoedd asidau gwan- sy’n egluro pam bod cyfradd adwaith asidau cryf gyda sylweddau yn uwch na chyfradd asidau gwan (megis metelau etc).
- Hefyd yn egluro pam mae cynydd mewn tymheredd yn fwy yn asidau cryf na asidau gwan.
beth ydy asid gwanedig yn golygu?
Asid gwanedig yn golygu bod yr moleciwlau asid wedi cael ei chymysgu gyda llawer o ddwr, fel bod crynodiad yr ionau H+ yn isel.
beth ydy asid crynodedig yn golygu?
Asid crynodedig yn golygu bod y moleciwlau asid ddim wedi chymysgu gyda llawer o ddwr, felly mae’r crynodiad yr ionau H+ yn uchel.
beth yw hafaliad halwyn yn adweithio ag asidau?
asid + metel = halwyn + hydrogen.
pa fath o metelau ydy asidau’n adweithio gyda?
Bydd asidau’n adweithio gyda metelau adweithiol fel magnesiwm a sinc i wneud halwyn a hydrogen.
beth yw hafaliad hydrodgen gyda sinc?
Asid hydroclorig + sinc = sinc clorid + hydrogen.
beth sy’n digwydd yn ystod yr arbrawf hydrodgen?
Hydrogen yn gwneud swigod yn ystod yr arbrawf, a gallwn ei ganfod gan defnyddio sblint i’w llosgi i gwneud swn pop gwychlyd.
Y mwyaf adweithiol yw’r metel =
mwyaf cyflym bydd yr adwaith.
beth sy’n digwydd pan mae asidau a hydrocsidau metel sel alcaliau yn adweithio?
maent yn ffurfio halwyn a dwr.
beth yw hafaliad hydrocsidau a metel?
asid + metel hydrocsid = halwyn + dwr.
beth yw hafaliad lithiwm?
asid nitrig + lithiwm hydrocsid = lithiwm nitrad + dwr.
beth sy’n digwydd pan mae asidau’n adweithio gyda bas?
mae nhw’n creu halwyn a dwr.
beth yw hafaliad asidau a basau?
asid nitrig + magnesiwm ocsid → magnesiwm nitrad + dŵr
beth sy’n digwydd pan mae asid yn adweithio gyda charbonadau fel calsiwm carbonad?
maent yn creu halwyn dwr a charbon deuocsid.
beth yw hafaliad asidau a charbonadau metel?
asid sylffwrig + haearn(II) carbonad → haearn(II) sylffad + dŵr + carbon deuocsid
beth sy’n digwydd mewn prawf carbon deuocsid?
Mae’r carbon deucosid yn achosi byrlymu yn ystod yr adwaith, ac gwelwn ffisian. - -Gallwn hefyd darganfod drwy yrru nwy drwy dwr calch sy’n troi’n llaethog.
sut rydych yn enwi halwynau?
- Halwyn yw unrhyw cyfansoddyn sy’n ffurfio adwaith niwtraleiddio asid gyda bas.
- Dwy rhan i enwi halwyn - enw gyntaf yn dod o’r metel, metel ocsid neu metel carbonad. Ail rhan o’r asid.
beth yw’r un peth rhwng bas/metel/carbonad?
gyd yn anhydawdd mewn dwr
sut rydych yn gwneud halwyn â bas/metel/carbonad?
Ychwanegu bas/metel/carbonad (BMC) at yr asid cynnes nes dod ddim mwy’n hydoddi ac mae ychydig bach o’r hydoddyn anhydawdd dros ben- gormodedd.
Ar gyfer metel a charbonadau metel, mae’r adwaith yn stopio hisian i rhoi’r awydd arall ei fod wedi gorffen. Hidlwch i gael gwared o’r gormodedd o BMC i gael yr hydoddiant halwyn pur.
beth sydd rhaid gwneud i gael yr halwyn pur o’r hydoddiant?
mae’n rhaid cael gwared o rhywfaint o’r dwr. ANWEDDIAD.
sut gallwn ni anweddu rhywfaint o dwr?
trwy llosgydd bunsen- neu gall rhoi yn agosach i drws neu ffenestr ond bydd yn arafach - ffurfio crisialau’n fwy.
sut rydych yn gynhyrchu halwyn wrth adweithio asid ag alcali?
defnyddio dull titradu sy’n cynhyrchu halwyn hydawdd.
beth yw defnyddiau anweddu?
- pibed i fesur y cyfaint penodol o asid neu alcali yn fanwl gywir.
- llanwydd pibed i defnyddio’r bibed yn ddiogel.
- fflasg gonigol i ddal yr hylif o’r pibed.
- bwred i ychwanegu symiau bach wedi eu mesur o un adweithydd at yr adweithydd arall yn yr fflasg gonigol.
beth yw dull anweddu?
- Defnyddio bibed a llanwydd bibed i mesur 25cm3 o alcali i fewn i fflasg gonigol lan.
- Ychwanegu rhai diferion o ddangosydd a rhoi’r fflasg gonigol ar ddeilsen wen.
- Llenwi’r fwred gyda asid a nodi’r amser cychwynnol.
- Ychwanegu’r asid o’r fwred yn araf at yr alcali yn yr fflasg gonigol, gan ei chwyrlio hi i gymysgu’r hydoddiant.
- Stopio ychwanegu’r asid ar ol cyrraedd y diweddbwynt sef pan mae’n newid lliw a nodi’r darlleniad cyfaint terfynol.
- Ailadrodd camau un i bump gan defnyddio’r un cyfaint o asid o’r fwred heb defnyddio dangosydd. Yna, gellir anweddu’r hydoddiant sydd wedi ffurfio i greu crisialau.
sut rydych yn wneud halwyn anhydawdd?
angen i ddau halwyn hydawdd adweithio gyda ei gilydd mewn adwaith gwaddod.
beth yw titradiad?
techneg o niwtralu asid ag alcali
pa offer gall defnyddio mewn titradiad?
asid hydroclorig (HCl)
bwred
fflasg gonigol
25cm3 o hydoddiant sodiwm hydrocsid (NaOH) a dangosydd.
beth yw dangosydd?
dangos diweddbwynt yr arbrawf- pwynt niwtraliad. ph=7.
pwyntiau ymarferol titradiad?
wrth wneud hydoddiannau- dylid defnyddio fflasg safonol
dylid defnyddio piped gyfeintiol i fesur yn fanlw gywir yr hydoddiannau sy’n mynd i’r fflasg gonigol.
ar ol llenwi fwred- gwnewch yn siwr eich bod chi’n tynnu twmffat/twndis- gall effeithio ar lefel yr hydoddiant yn y fwred a’ch canlyniadau.
caiff teilsen wen ei rhoi dan y fflasg i’w gwneud hi’n haws gweld y newid lliw.
cyfaint penodol o’r alcali yn cael ei fesur yn fanwl gywir gyda phiped ac yna drosglwyddo i’r fflag gonigol.
dangosydd yn cael ei ychwanegu ac mae’r asid yn cael ei ychwanegu yn araf o’r fwred.
pan mae’r dangosydd yn newid lliw- stopio ychwanegu’r asid.
darlleniad ar y fwred yn dangos faint o asid oedd ei angen i niwtralu’r alcali union- sicrhau fod yr hydoddiant yn union niwtrol (pH7).
hafaliad niwtralu?
NaOH+HCl-> NaCl+H2O.
Beth yw’r 4 asid sydd angen gwybod a’r fformwilau?
- Asid Hydroclorig (HCl)
- Asid Sylffwrig (H2S04)
- Asid Nitrig (HNO3)
- Asid Ethanoig (Ch3COOH).
Sut ydych yn gwneud yr hydoddiant yn asidig? (dadelfeniad).
- HCl = H+ + Cl-
- H2SO4 = 2H+ + SO42-
- HNO3 = H+ + NO3.
Beth yw alcali?
Gyfansoddion sydd yn ffurfio ionau OH- mewn hydoddiant.
Beth yw enghreifftiau alcali mae angen gwybod?
- Sodiwm Hydrocsid - NaOH
- Potasiwm Hydrocsid- KOH
- Calsiwm Hydrocsid - Ca(OH)2
Beth yw bas?
Bas yw ocsid o fetel a mae alcali yn bas sydd yn hydawdd.
Beth yw enghreifftiau bas?
- Sodiwm Ocsid -> Sodiwm Hydrocsid
- Powdr Gwyn (BAS) -> Hydoddiant Ddi- Liw (ALCALI).
Beth yw halwyn?
Halwyn yw cyfansoddyn â pH o 7 sy’n ffurfio yn ystod niwtraliad.
Beth yw hafaliad Niwtralu?
H+ (d) + OH- (d) -> H2O(h).